Lleihau'r defnydd o gemegau synthetig yng ngwinllannoedd Cymru

Mae pedair gwinllan yng Nghymru wedi ymuno mewn prosiect cydweithredol i edrych ar ffyrdd o gyflwyno atebion arloesol i ddatgarboneiddio a gwella effeithlonrwydd Gwinllannoedd Cymru drwy leihau’r defnydd o gemegau synthetig.

Gyda chefnogaeth Cronfa Her Datgarboneiddio a Covid Llywodraeth Cymru, nod y prosiect oedd cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau rheoli ac atal clefydau mewn gwinllannoedd ledled Cymru. Bydd allbynnau’r prosiect yn helpu i leihau’r defnydd o gemegau synthetig yn y dyfodol a’r ddibyniaeth arnynt.

Cymerodd pedair gwinllan o Gymru ran, sef Ancre Hill Estates, Gwinllan Conwy, Gwinllan Hebron a Gwinllan Sticle. Mae pob gwinllan yn wahanol o ran maint a lleoliadau ledled Cymru ac ar uchder amrywiol.

Wrth siarad am y prosiect a’i fanteision ar gyfer dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu gwin yng Nghymru, dywedodd Richard Morris, Rheolwr Prosiect a chyd-berchennog Ancre Hill Estates:

“Prif amcan y prosiect oedd edrych ar leihau’r defnydd o gemegau synthetig yng ngwinllannoedd Cymru ond ochr yn ochr â hynny sut y gallem wella effeithlonrwydd gweithredu yn ein gwinllannoedd gan arwain at fwy o broffidioldeb a chreu swyddi yn Niwydiant Gwin Cymru.”

“Yn ystod tymor tyfu 2022, dewiswyd sampl o winwydd, Pinot Noir yn bennaf, i fonitro effaith amrywiaeth o dechnegau rheoli clefydau. Rhoddwyd protocolau monitro pwrpasol i’r gwinllannoedd a gymerodd ran a oedd yn nodi’r arferion rheoli gwinwyddaeth i’w dilyn, ynghyd â’r monitro a’r casglu data sy’n ofynnol drwy gydol tymor tyfu 2023. Cafodd gwinwydd eu monitro a chasglwyd data yn ystod cyfnodau tyfu allweddol. Yna dadansoddwyd yr holl ddata a gasglwyd i ganfod yr effaith ar y gwinllannoedd o ran defnyddio plaladdwyr.”

Roedd y prosiect yn amlochrog ac yn ceisio darparu gwybodaeth a data i gefnogi rheolaeth weithredol ac ataliol ar glefydau yn y gwinllannoedd a oedd yn cymryd rhan. Roedd hefyd yn canolbwyntio ar wybodaeth cyfoedion i gyfoedion, gan helpu i uwchsgilio a hybu hyder yn  nefnydd ac effeithiolrwydd dewisiadau amgen i gemegau synthetig, nawr ac yn y dyfodol.

Cefnogwyd y prosiect trwy gyngor a gwybodaeth mewn sawl ffordd gan gynnwys cefnogaeth grŵp ac un-i-un yn ystod y prosiect ynghyd â chyfweliadau ar ôl y prosiect gyda phob un o’r gwinllannoedd a gymerodd ran i ddeall yr effaith a’r buddion. Gosodwyd synwyryddion tywydd i ddarparu data byw mewn perthynas â thymheredd, lleithder a glawiad, ac mae pob un ohonynt yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn clefyd llwydni. Roedd y data’n hanfodol ar gyfer datblygu’r prototeip monitro clefyd IT a gyflwynwyd fel rhan o’r prosiect, a oedd yn darparu hysbysiadau testun ac e-bost amserol i berchnogion gwinllannoedd ar gyfer risg llwydni Downy & Powdery a pheryglon rhew posibl.

Mae'r gwinllannoedd dan sylw i gyd yn defnyddio gwahanol ddulliau o dyfu grawnwin, gan gynnwys Organig, Biodynamig, confensiynol ac Atgynhyrchiol/dim chwistrellu. Mae’r amrywiaeth o winllannoedd Cymreig o fewn y prosiect wedi rhoi golwg eang werthfawr ar arferion presennol a chyfleoedd ar gyfer defnyddio plaladdwyr synthetig mewn gwahanol amgylcheddau ac o dan ystod o ddulliau rheoli.

Yr ymgynghorwyr gwinllannoedd a gwindai blaenllaw, Vinescapes, oedd yn rheoi’r prosiect. Wrth sôn am gasglu data a dadansoddi’r canlyniadau, dywedodd Paula Nesbitt:

“Roedden ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn ac yn meddwl y gallem ychwanegu gwerth go iawn, yn enwedig gydag elfennau technegol gwinwyddaeth. Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud yn fyd-eang yn edrych ar leihau’r defnydd o blaladdwyr mewn gwinllannoedd ond ni fu unrhyw beth yn benodol yng Nghymru, ac mae ganddi ei hinsawdd unigryw iawn ei hun. Mae gan winllannoedd broblem sylweddol gyda chlefyd llwydni ac roedden ni wir eisiau cefnogi Diwydiant Gwin Cymru.”

“Mae casglu a dadansoddi data yn hollbwysig gan fod hyn yn gyrru penderfyniadau gwinwyddaeth ac yn cefnogi gwinllan gytbwys. Gall data fod y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant gwinllan. Mae hefyd yn un o’r ffactorau pwysicaf wrth reoli’r gostyngiad mewn cemegau synthetig yn y winllan.”

Wrth siarad am gamau nesaf y prosiect, dywedodd Richard Morris:

“Mae'r prosiect hwn yn ei ddyddiau cynnar. Gobeithiwn ei barhau dros y ddau neu dri thymor nesaf gyda chefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn hanfodol, yn ogystal â chyfranogiad a chydweithio ehangach â gwinllannoedd eraill Cymru.”

“Mae angen rhagor o ymchwil ond rwy’n credu bod canfyddiadau cychwynnol yr adroddiad hyd yma yn mynd i helpu Gwinllannoedd Cymru i wella effeithlonrwydd ac arferion gweithredu yn sylweddol. Bydd hyn hefyd yn cynorthwyo Gwinllannoedd Cymru drwy’r cyfnod ar ôl Covid, gan helpu eu hadferiad economaidd a sbarduno twf parhaus i Ddiwydiant Gwin Cymru.”

Dywedodd Fintan O’Leary, Rheolwr Gyfarwyddwr Levercliff sy’n darparu Clwstwr Diodydd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru:

“Roedd y prosiect cydweithredol hwn yn gyflawniad gwirioneddol i win Cymreig, ac roeddem yn falch iawn o’i gefnogi. Mae cynaliadwyedd yn agwedd graidd ar Strategaeth Win Cymru, a lansiwyd yn ôl ym mis Rhagfyr, ac mae ar waith i wneud yn siŵr nad oes rhwystrau i winllannoedd wrth i’r sector dyfu.”

“Rwy’n ystyried Gwinllannoedd Cymru fel arloeswyr ac unwaith eto maen nhw wedi dangos y gall Cymru arwain y ffordd.”

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Rwy’n falch o weld y Diwydiant Gwin yng Nghymru yn cydweithio i edrych ar ffyrdd y gall ddarparu atebion i leihau’r defnydd o blaladdwyr, cefnogi datgarboneiddio a gwella effeithlonrwydd gwinllannoedd.”

“Mae Gwinllannoedd Cymru yn cynhyrchu gwinoedd hyfryd ac yn parhau i adeiladu eu henw Cymreig gartref a thramor.”

I weld ffilm fer o'r prosiect cliciwch yma. (Saesneg yn unig)

Share this page

Print this page