Mae strategaeth gyntaf o’i math wedi’i lansio i roi ffocws i ddyfodol diwydiant gwin Cymru dros y deuddeg mlynedd nesaf a chynyddu gwerth presennol y sector 10 gwaith yn fwy i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035.

Wedi’i datblygu ar adeg hollbwysig i winllannoedd Cymru, gyda chefnogaeth Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, mae’r strategaeth a arweinir gan y diwydiant wedi’i chynllunio i sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar ei henw da fel cynhyrchydd arbrofol o winoedd amrywiol, yn dilyn rhai llwyddiannau trawiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol.

Roedd y strategaeth diwydiant newydd, a lansiwyd yng Ngwesty’r Gyfnewidfa Lo, yn dathlu llwyddiannau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys gwerthiant gwin o Gymru a gynyddodd, ochr yn ochr â gwin o Loegr, 31.3% i 9.3 miliwn o boteli yn 2021. Gyda’r strategaeth ar waith fel fframwaith ar gyfer twf, bydd Cymru’n parhau i lunio ei llwybr ei hun.

Amlinellodd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Jeremey Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, bum piler strategol i baratoi’r dyfodol ar gyfer gwin o Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys presenoldeb ar-lein cryf, trefniadaeth, sgiliau, twristiaeth gwin a hunaniaeth a brand gwin Cymreig.

Gyda dros 30 o winllannoedd bellach yn gweithredu ar draws y wlad, mae statws Cymru fel cynhyrchydd arloesol gwin o ansawdd uchel wedi mynd o nerth i nerth diolch i berchnogion blaengar y gwinllannoedd, y ffrwythau gwych sy’n cael eu tyfu, yn ogystal â microhinsawdd a thirwedd nodedig Cymru.

Mae llawer o debygrwydd rhwng Cymru a Seland Newydd, sydd wedi mynd o fod yn gynhyrchydd graddfa fach i fri rhyngwladol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, gan oresgyn heriau tebyg o ran hinsawdd a thirwedd.

Wrth drafod datblygiad y strategaeth, dywedodd Fintan O’Leary, Rheolwr Gyfarwyddwr Levercliff, sy’n hwyluso Clwstwr Diodydd Cymru: “Mae’r strategaeth hon wedi’i datblygu gan y gwinllannoedd eu hunain dros nifer o flynyddoedd ac wedi’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â rhai o’n cyfranwyr a’n partneriaid rheolaidd - bu’n ymdrech gydweithredol go iawn ac mae’n nodi gweledigaeth glir ar gyfer potensial y diwydiant yn y dyfodol a sut y caiff y weledigaeth honno ei chyflawni.

“Un o’r nodau craidd yw annog gwinllannoedd a rhanddeiliaid y diwydiant i archwilio eu gwreiddiau Cymreig ymhellach, gan mai’r microhinsoddau a thirweddau sy’n rhoi Cymru mewn sefyllfa fanteisiol o gynhyrchu gwinoedd coch, rhosliw, gwyn a phefriog arobryn, sydd oll wedi arwain at gydnabyddiaeth fyd-eang i lawer o winllannoedd ledled y wlad ac, yn bendant, mae yna botensial i ehangu ar hyn ymhellach.”

 

Gydag ymchwil YouGov yn dangos bod 87% o ymwelwyr y DU yn meddwl bod eu profiadau bwyd a diod yn bwysig tra ar wyliau, a 62% yn credu ei bod yn bwysig bod y bwyd a’r ddiod a ddarperir yn dod o ffynonellau lleol, bydd gwinllannoedd Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y cysylltiad rhwng bwyd a gwin Cymreig a chryfhau eu perthynas â’r sector twristiaeth.

Ochr yn ochr ag archwilio hunaniaeth, tarddiad a thwristiaeth Cymru ymhellach, cyhoeddodd y Clwstwr Diodydd ei fod yn gweithio ar ddarparu hyfforddiant tyfu gwinwydd a gwinwyddaeth (cyrsiau sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu gwin) mewn partneriaeth â Sgiliau Bwyd Cymru, Tyfu Cymru, Coleg Plumpton o Sussex, a'r Wine & Spirit Education Trust, fel rhan o strategaeth tymor hir i gryfhau ac uwchsgilio’r talent sydd eisoes yn bodoli yn y sector gwin yng Nghymru, ac i annog talent newydd i ymgysylltu â’r diwydiant unigryw hwn.

Drwy archwilio’r pum piler strategol allweddol hyn ymhellach, mae arbenigwyr gwin Cymru hefyd yn rhagweld, yn seiliedig ar lwyddiant y gorffennol, y bydd gwerthiannau gwin a refeniw o weithgareddau drws y seler – gan gynnwys digwyddiadau blasu gwin, teithiau o amgylch gwinllannoedd a phrofiadau dros nos - yn dod â refeniw o £14.4 miliwn erbyn 2035.

Rhagwelir y bydd effaith twristiaeth ar GDP Cymru, ynghyd â thwf poblogaidd gwin Cymru, yn cynhyrchu £75.9 miliwn pellach erbyn 2035.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Rwy’n falch o weld Strategaeth Gwin gyntaf Cymru yn cael ei chyhoeddi, sy’n nodi sut y gall y diwydiant dyfu dros y blynyddoedd i ddod. Mae'n bwysig nodi mai dyma strategaeth y diwydiant, a luniwyd ganddynt, ac mae hynny'n dda i'w weld. Mae gan ddiwydiant gwin Cymru botensial aruthrol i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni, a bydd y strategaeth hon yn ei helpu i wneud hynny.”

Share this page

Print this page