Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud bod ganddi "obeithion mawr" am ddyfodol diwydiant gwin Cymru ar ôl llwyddiant yr Wythnos Gwin Cymru gyntaf.

Gwnaeth Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, y datganiad yn dilyn wythnos o ddigwyddiadau rhithiol gan berchnogion gwinllannoedd ac aelodau o'r sectorau lletygarwch, bwyd a diod rhwng 27 Gorffennaf a 2 Awst. 

Trefnwyd Wythnos Gwin Cymru mewn ymateb i'r cwymp yn nhwristiaeth bwyd a diod oherwydd pandemig COVID-19.

Fe'i cynlluniwyd i roi cyfle i gynulleidfaoedd yng Nghymru a'r tu hwnt ddarganfod y nifer cynyddol o winllannoedd yn y wlad, ac i ddatgelu'r ystod o gynaeafau gwin sydd wedi ennill gwobrau. Nod Wythnos Gwin Cymru oedd hybu gwerthiannau ar-lein yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod yn dymor prysura'r diwydiant o ran incwm 'drws seler' gyda theithiau, digwyddiadau a sesiynau blasu.

Roedd y digwyddiadau'n cynnwys tiwtorialau gwin gydag ystâd Ancre Hill o Sir Fynwy, a sesiwn paru bwyd gyda gwin gwyn a rosé gan Amanda Stuart Robson, sef perchennog Gwinllan Jabajak yn Hendy-gwyn ar Daf. Rhoddodd un o winllannoedd ieuengaf Cymru, Gwinllan y Dyffryn yn Ninbych, daith o gwmpas y winllan a blannwyd yn 2019, gan drafod y gwaith sy'n rhan o redeg gwinllan ifanc.

Ymhlith yr heriau niferus y mae gwinllannoedd yn eu hwynebu eleni, mae newid hinsawdd yn parhau i effeithio ar dyfwyr o gwmpas y byd. Mae rhanbarthau gwin sy'n dibynnu ar hinsawdd benodol i gynhyrchu rhai o'r gwinoedd mwyaf poblogaidd, fel Chardonnay o ranbarth tyfu gwin Bwrgwyn yn Ffrainc, yn gorfod ymdopi â thymheredd uwch o flwyddyn i flwyddyn, sy'n effeithio ar flas eu cnwd. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn y diwydiant wedi awgrymu y gallai Cymru fanteisio ar ei hinsawdd oerach i ddod yn un o ranbarthau gwin clasurol y byd.

Bu i'r Arglwydd Elis-Thomas AS gymryd rhan yn y digwyddiadau, gan ymuno â Gwinllan Conwy i flasu gwin yn rhithiol.

Meddai'r Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae sector gwin Cymru yn barod i dyfu, fel y gwelwn gyda gwinllannoedd newydd yn agor flwyddyn ar ôl blwyddyn ledled y wlad. Mae ein tyfwyr yn brofiadol yn ymdrin â hinsawdd anarferol, o sawl microhinsawdd yn y gogledd i dywydd croes y gaeaf y mae amaethwyr traddodiadol yn ei wynebu bob blwyddyn. Ond mae ein hinsawdd oerach yn sicr yn ychwanegu llinyn at fwa tyfu gwin Cymru.

"Mae Wythnos Gwin Cymru wedi tanio diddordeb yfwyr gwin, ac wedi codi ymwybyddiaeth newydd o ba mor unigryw yw ein gwinoedd, felly byddwn i'n annog yfwyr gwin i barhau i ddangos cefnogaeth i winllannoedd Cymru ar eu taith i feithrin enw da yn rhyngwladol."

Meddai Lesley Griffiths AS: "Mae gwinllannoedd Cymru yn gwneud enw iddyn nhw'u hunain, drwy gynhyrchu gwin blasus sy'n dod yn adnabyddus ac sy'n cael ei gysylltu'n uniongyrchol â Chymru.

"Mae'n amlwg bod ysbryd cymunedol cryf yn niwydiant gwin Cymru i yrru'r sector yma yn ei flaen. Bu i berchnogion gwinllannoedd Cymru ymateb yn gyflym ac yn effeithiol fel Clwstwr i bandemig COVID-19, gan arallgyfeirio eu busnesau a gyrru gwerthiannau drwy e-fasnach.

"Os gall gwinllannoedd fanteisio ar lwyddiant Wythnos Gwin Cymru a'r amlygrwydd y mae'r digwyddiadau wedi'i gynnig i'r sector, mae gen i ffydd y bydd y diwydiant yn parhau i fynd o nerth i nerth."

Trefnwyd Wythnos Gwin Cymru gan Glwstwr Diodydd Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth â gwinllannoedd, manwerthwyr a chyfanwerthwyr i hyrwyddo'r diwydiant a'i waith yn creu cynnyrch o safon fyd-eang.

 

Share this page

Print this page