Mae FareShare Cymru, elusen sy’n ailddosbarthu bwyd dros ben, wedi derbyn rhodd hael o fwyd wedi’i rewi gan S.A. Brain, ar ôl i’r tafarndai a’r bwytai gau.

Yn sgil y ffaith bod y tafarndai a reolir gan S.A. Brain wedi cau dros dro eto'r wythnos hon, yn dilyn y cyfyngiadau Covid-19 pellach a orfodwyd ar y diwydiant lletygarwch yng Nghymru, mae S.A. Brain, prif fragdy a rheolwr tafarndai Cymru, wedi ymrwymo i roi'r holl stoc o fwyd yn ei rewgelloedd i helpu i fwydo pobl anghenus dros gyfnod yr ŵyl ac i mewn ir Flwyddyn Newydd. Cyflwynodd S.A. Brain rodd elusennol debyg yn ôl ym mis Mawrth, yn dilyn y newyddion ynghylch y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, pan roddodd stoc a oedd yn werth ymhell dros £100,000 i elusennau lleol a gweithwyr allweddol. Gan fod y stoc bwyd ychwanegol yn debygol o gael ei wastraffu unwaith eto o ganlyniad i’r ffaith ei fod yn gorfod cau dros dro am y trydydd tro, gwnaed y penderfyniad gan y cwmni i ailadrodd ei rodd fwyd elusennol, gan lunio partneriaeth gyda FareShare Cymru y tro hwn. 

Ers cyflwyniad y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, mae FareShare Cymru wedi mwy na dyblu faint o fwyd y mae’n ei ailddosbarthu – o’r hyn sy’n cyfateb i 25,000 o brydau i fwy na 55,000 o brydau pob wythnos. Mae cynnydd clir yn y galw am fwyd dros ben o’r fath, a dim ond drwy bartneriaethau newydd fel hon gydag aelodau o Sector Bwyd Cymru y gall FareShare Cymru barhau i gefnogi ei aelodau, a darparu digon o fwyd.   

Meddai Nathan Evans, Rheolwr Gweithrediadau Bwyd S.A. Brain: “Mae COVID-19 wedi gorfodi nifer o gyfnodau clo ar y sector lletygarwch, sydd wedi arwain at symiau uchel o stoc bwyd dros ben o fewn y busnes. Mae sefydlu partneriaeth gyda FareShare Cymru yn golygu y bydd y stoc hon, a fyddai’n mynd yn wastraff fel arall, yn helpu i fwydo’r rheini yn ein cymunedau sydd ei angen. Er bod y rheswm y tu ôl i rodd mor fawr gennym ni yn aruthrol, rydym yn falch bod ein perthynas newydd â FareShare Cymru wedi’i sefydlu, ac rydym yn edrych ymlaen at ei pharhau a’i chefnogi ar ôl inni ailagor”. 

Bwydydd Castell Howell yw’r partner dosbarthu ar gyfer y rhodd bwyd dros ben hon. Mae Bwydydd Castell Howell yn parhau i gefnogi FareShare Cymru drwy ddarparu hyb canolog ac ateb logistaidd ar gyfer rhoddion bwyd dros ben o’i safle cyflenwi eang.  

Ynghylch FareShare Cymru: Mae FareShare Cymru yn rhan o rwydwaith FareShare ledled y DU o ailddosbarthwyr bwyd elusennol. Mae FareShare Cymru yn arbed dros 570 tunnell o fwyd da sydd dros ben bob blwyddyn o bob rhan o’r gadwyn fwyd, ac yn ei ailddosbarthu i 170 o elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Mae’r elusennau hyn yn darparu prydau fel rhan o’u gwasanaethau i bobl mewn angen – fel banciau bwyd, canolfannau cymunedol, pobl hŷn, llochesi trais yn y cartref, llochesi i’r digartref ac unedau adsefydlu cyffuriau ac alcohol. Eleni yn unig, mae FareShare Cymru wedi darparu digon o fwyd ar gyfer dros 1,350,000 o brydau. Cysylltwch â’r tîm yn Fare Share Cymru i ganfod mwy.

 

 

Share this page

Print this page