Bydd grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod newydd yn cael y cyfle i roi eu sgiliau masnachu ar brawf pan fyddan nhw’n arddangos eu cynhyrchion yn Ffair yr Hydref Canolbarth Cymru.

Bydd y digwyddiad (5 a 6 Hydref) ar Faes y Sioe yn Llanelwedd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys crefftau, cerddoriaeth, hen gerbydau, arddangosiadau coginio, a stondinau bwyd a diod. 

Bydd y Neuadd Fwyd enwog ar Faes y Sioe yn llawn stondinau bwyd a diod gwych ac yn cynnwys sawl cwmni sy’n newydd i’r byd manwerthu.

Bydd pum cwmni’n arddangos ac yn masnachu dan nawdd Cywain. Mae rhaglen Cywain yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor i fusnesau bwyd a diod newydd a rhai sy’n tyfu yng Nghymru.

Ar ddiwrnod cyntaf Ffair yr Hydref (5 Hydref), bydd Tired Mums Coffee, Best of Hungary, Slowly, a Smashed Cow Sauces ar stondin Cywain. Y diwrnod wedyn (6 Hydref), bydd Mami Maggie’s Recipes yn ymuno â Tired Mums Coffee a Best of Hungary.

Yn ôl Ynyr Roberts, Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau Cywain: “Mae Ffair yr Hydref Canolbarth Cymru yn gyfle newydd i Cywain gynnig profiad prawf masnachu pwysig i fusnesau bwyd a diod newydd, a hynny o flaen cynulleidfa fawr sy’n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd.

“Mae cyfleoedd o’r fath yn rhan o’r portffolio o gymorth gan Cywain sydd ar gael i fusnesau drwy gydol eu taith o dyfu, o’r rhai sydd newydd ddechrau arni i fentrau mwy sefydledig.”

 

TIRED MUMS COFFEE

Mae Tired Mums Coffee yn goffi sy’n cael ei gymysgu gan ddwy fam flinedig sydd am gefnogi eraill trwy gynnig y coffi llyfnaf sy'n llawn blas a daioni.

Bydd y busnes o Wrecsam yn dod â thri math o goffi gyda nhw i Ffair yr Hydref: y cyfuniad ‘Party All Night’ (coffi arabica gradd arbenigol Masnach Deg sydd â blas siocled llaeth, caramel a mandarin); y cyfuniad ‘Nobody’s Listening to Me’ (coffi arabica gradd arbenigol Masnach Deg sydd ag awgrym o robusta a blas cocoa, caramel ac aeron), a’r cyfuniad ‘Are You Sure It’s Decaf’ (coffi heb gaffîn wedi’i brosesu â dŵr mynydd naturiol sydd â blas cocoa a ffrwythau carreg).

Fe wnaeth Laura a Gemma gyfarfod wrth weithio yn yr un ysbyty ac fe feddylion nhw am yr un syniad o wneud coffi tra oedden nhw ar gyfnod mamolaeth. Cenhadaeth Tired Mums Coffee yw bod yn frand coffi cynaliadwy sy’n hybu’r profiad o fod yn fam trwy bob agwedd ar y busnes. Mae’r cwmni arobryn hefyd wedi creu cymuned gynyddol ar-lein lle mae modd rhannu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bod yn fam. Mae 1% o bob gwerthiant coffi yn cael ei roi i elusennau/sefydliadau dielw sy’n cefnogi rhieni a’u lles.

Rhagor o wybodaeth: www.tiredmumscoffee.co.uk

 

BEST OF HUNGARY

Cafodd Best of Hungary ei lansio yn Aberystwyth gan ddau o Hwngari sy’n hoffi eu bwyd. Mae’r busnes yn ffenest siop i fyd o fwydydd a diodydd artisan – a’r cyfan ond un clic i ffwrdd!

Mae’r tîm sy’n cynnwys y fam a’r mab, Monika a Zoltan, wedi creu cwmni bwyd arobryn sydd ag ystod unigryw o fwyd a diod. Mae ganddyn nhw hanfodion y pantri fel mêl, paprica, charcuterie a chaws, a hefyd gynhyrchion moethus fel danteithion cloron y moch du, cafiâr a gwin o safon uchel. Daw holl gynnyrch y fenter yn syth o’r cynhyrchwyr – cymysgedd o fusnesau bach teuluol a chydweithfeydd cymdeithasol.

Yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Neuadd Fwyd yn Ffair yr Hydref fydd Mêl Acasia Best of Hungary, sydd wedi ennill gwobr 3 seren Gwir Flas. Mae’r fenter hefyd yn bwriadu arddangos y Cymysgedd Sbeis Cawl Gwlash newydd sbon.

Rhagor o wybodaeth: www.bestofhungary.co.uk

 

SLOWLY 

Mae llai na blwyddyn ers i Zach Odum sefydlu ei fusnes tyfu madarch – Slowly. 

Mae’r fenter ar hyn o bryd yn tyfu gwahanol fathau o fadarch wystrys yn bennaf, a hynny yn ei chanolfan yn Noc y Gogledd yn Llanelli. Mae'r madarch yn cael eu gwerthu'n ffres i gwsmeriaid. Mae gan Slowly hefyd gynlluniau i ehangu'r ystod i gynnwys cynhyrchion madarch wedi'u dadhydradu, gan gynnwys pwerau sesnin umami, te a thrwythau.

Daeth Zach, sy’n hanu o UDA, i dde Cymru am y tro cyntaf wrth weithio i elusen ieuenctid. Ei obaith yw y bydd cynaliadwyedd Slowly yn y pen draw yn helpu i hybu'r economi gylchol a chyfrannu at economi ehangach Cymru.

Rhagor o wybodaeth: Instagram @letsgoslowlyco

 

SMASHED COW SAUCES

Yn ymddangos yn ei ddigwyddiad bwyd cyntaf erioed fydd y cynhyrchydd Smashed Cow Sauces o ogledd Cymru.

Dechreuodd y fenter o Lanrug yn gynharach eleni ac mae bellach yn lansio ei chynnych cyntaf: Alright Treacle BBQ Sauce, Mango & Red Pepper Sweet Chilli Sauce, a Kung Pow! Chilli Garlic Sauce. Mae cyfuniadau sbeis sych a sesnin hefyd ar y gweill.

Sefydlodd y perchennog, John Ritchie – y cogydd – Smashed Cow Sauces fel menter deuluol. Ei obaith yw y bydd yn cynnig gwaith i’w ferch ifanc, sy’n awtistig, yn y dyfodol. Buwch yr Ucheldir yw logo’r cwmni, sy’n gyfeiriad at wreiddiau John yn yr Alban a diddordeb ei ferch yn y math hwn o wartheg.

Rhagor o wybodaeth: smashedcowsauces@gmail.com

 

MAMI MAGGIE’S RECIPES

Daw’r tîm sy’n cynnwys y fam a’r ferch, Joys a Sheryl Njini, â blasau a seigiau Gorllewin Affrica i’r bwrdd gyda’u hystod o brydau parod a saws newydd.

Cafodd Mami Maggie’s Recipes o Gasnewydd ei sefydlu fis Hydref y llynedd. Cafodd y fenter ei hysbrydoli gan fam Joys, Maggie, a drosglwyddodd i’w merch werthoedd lletygarwch a’r llawenydd o rannu bwyd da. Mae’n fenter deuluol go iawn, ac yn cynnwys gŵr Joys, ei phlant a’r aelodau tîm, Evelyn a Stacy, sydd wedi bod gyda’r busnes ers y diwrnod cyntaf un.

Mae’r seigiau’n dal hanfod Cameroon a Nigeria, a bydd yna ychydig o wres a sbeis yn y Neuadd Fwyd gyda dau o gynhyrchion newydd sbon y fenter – Mami Maggie’s Chilli Marinade Sauce a Green Spice Marinade Sauce – sydd wedi cael eu creu yn sgil sawl cais! Bydd y tîm hefyd yn dod â reis a ffa wedi’u ffrio i’w defnyddio gyda’r sawsiau i’w blasu.

Rhagor o wybodaeth: www.mamimaggiesrecipes.com

Share this page

Print this page