Yn draddodiadol, mae llawer o gyflogwyr yn y diwydiant bwyd a diod yn hurio staff ychwanegol i’w helpu dros gyfnod prysur y Nadolig - ac yn ôl rhaglen gymorth sgiliau Cymru-eang, mae cyfleoedd o’r fath yn gallu rhoi manteision hir dymor i bawb.
Wedi’i gyflwyno gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru, mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn gweithio efo’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a gallluog i ehangu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ac i ysbrydoli arloesedd a thŵf cynaliadwy.
Gyda chanolbwynt ar weithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod, mae cefnogaeth ar gael i sicrhau fod gweithwyr yn meddu’r sgiliau ac yn derbyn yr hyfforddiant cywir ar gyfer y busnes â’r diwydiant ehangach yng Nghymru.
Gall swyddi a chontractau tymhorol tymor-byr roi cipolwg hanfodol i gyflogwyr a gweithwyr i anghenion cyflogaeth hir-dymor a rhoi profiad gwerthfawr o fewn sector newydd.
Dywedodd Nerys Davies, rheolwr prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru “Mae swyddi tymhorol yn ffordd wych i bobl ddysgu sgiliau newydd a chael ‘blas’ o weithio mewn sector nad ydynt wedi ei gysidro o’r blaen.
“Tra i eraill, gall contract tymhorol fod yn bont rhwng swyddi, neu fel cam i’r rhai sydd yn cysidro newid gyrfa.
“Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod bywiog sydd yn tyfu, gydag ystod eang o gyfleoedd swyddi. Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cefnogi cyflogwyr a gweithwyr i greu gweithlu medrus i ddatblygu gyrfaoedd o fewn y diwydiant bwyd ym mhob ardal o Gymru.
“Rydym yma i helpu busnesau addasu i newid a chyfleoedd o fewn gweithgynhyrchu bwyd, yn cynnwys newidiadau technegol, busnes ac amgylcheddol. Mae canolbwynt ar ddyfodol y gweithle drwy ymgysylltu efo pobl ifanc drwy bresintiaethau a hyfforddiant i roi’r cyfle iddynt feddu ar y sgiliau gofynnol gan y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.”
Dywedodd Jane Sadler, Pennaeth Pobl cwmni Puffin Produce Ltd sydd wedi ei leoli yn Hwlffordd, fod eu busnes a’u gweithwyr wedi elwa drwy gynnig swyddi tymhorol.
“Fel cynhyrchwr bwyd, mae amseroedd pan fyddwn yn cymeryd staff tymhorol ymlaen - yn enwedig yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, gan fod pawb eisiau tatws gyda’i cinio Nadolig. Felly byddwn yn edrych am staff tymhorol yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Rydym hefyd wedi hurio staff ar gontract amser-penodol ar adegau eraill, er enghrhaifft adeg cynheuaf cennin pedr.
“Mae contractau tymor-byr yn rhoi cyfle i bobl gael profiad o’r busnes ac yn gyfle i ni ddod i’w hadnabod hwythau hefyd, felly nhw sydd yn y sefyllfa orau i ymgeisio pan fydd swyddi parhaol yn dod i fyny.”