Mae llu o restriadau newydd mewn archfarchnad i gynhyrchwyr cynnyrch llaeth Cymru wedi'i groesawu gan Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd.

Ymunodd y Gweinidog â Phennaeth Cyrchu Lleol y DU Tesco, sef  Tess Osborne yn Llaeth y Llan Dairy, Llanefydd, Conwy i weld un o'r 14 cynnyrch sydd wedi cyflawni rhestriadau newydd neu estynedig yn siopau Tesco ledled Cymru yn ddiweddar.

Mae rhestriadau newydd gan Llaeth y Llan, Castle Dairies, Hufenfa De Arfon a Collier's Cheese oll wedi ymddangos am y tro cyntaf yn siopau Tesco.

Cafodd y Gweinidog gyfle i weld pecynnau newydd Llaeth y Llan o bedwar iogwrt bio byw blas mefus a mafon i blant yn cael eu cynhyrchu. Bydd y cynnyrch hwn, ynghyd ag iogwrt Pwdin Melba braster isel newydd, a chwe blas iogwrt ychwanegol, yn cael eu gwerthu ym mwy o siopau Tesco ledled Cymru nag erioed o'r blaen.

Mae Castle Dairies wedi bod yn gweithio gyda Halen Môn, cynhyrchwyr Halen Môr Môn, i greu rholyn menyn Cymreig premiwm a fydd ar gael yn Tesco yn unig i ddechrau, lle bydd siopwyr hefyd yn gallu prynu menyn taenadwy Cymreig newydd.

Gall y rhai ohonoch sy'n frwd dros gaws llawn blas nawr fwynhau caws Collier's Smokey Cheddar, a bydd rhagor o siopau yng Nghymru yn gwerthu eu Powerful Welsh Cheddar, a bydd siop Tesco leol Hufenfa De Arfon yn codi blys arnoch gyda Chaws Caerffili Cymreig Dragon.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Llywodraeth Cymru: "Gwych yw gweld rhagor o gynhyrchion Cymreig arbennig Llaeth y Llan yn cyrraedd silffoedd siopau Tesco a phleser o'r mwyaf oedd cael ymweld â'u safle yn Llanefydd a chwrdd â'r tîm.

"Mae cynhyrchwyr Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael y dewis gorau posibl o fwyd a diod ac mae Rhaglen Datblygu Masnach Llywodraeth Cymru yn hanfodol i helpu i fagu cysylltiadau clos rhwng ein cyflenwyr a'n partneriaid masnach.

"Hoffwn longyfarch bawb yn Llaeth y Llan, Castle Dairies, Hufenfa De Arfon a Collier's Cheese am ehangu eu rhestriadau yn Tesco, ac edrychaf ymlaen at glywed rhagor am eu llwyddiant yn y dyfodol."

Dywedodd Pennaeth Cyrchu Lleol y DU Tesco, Tess Osborne, bod graddfa'r rhestriadau newydd yn adlewyrchu ehangder ac ansawdd cynhyrchwyr cynnyrch llaeth Cymru.

 "Mae'r ffaith ein bod yn gallu ychwanegu at y rhestriadau a'u hehangu i gymaint o gynhyrchion Cymreig o ansawdd ar yr un pryd yn pwysleisio'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan fusnesau cynnyrch llaeth ledled Cymru," dywedodd. "Mae eu cariad tuag at eu gwaith yn gwbl amlwg yn eu cynhyrchion ac mae'n bleser gennym gryfhau'r ystod o gynhyrchion Cymreig yn ein siopau."

Y 14 rhestr newydd ac estynedig yw'r cynhyrchion Cymreig diweddaraf i ymddangos ar silffoedd siopau Tesco eleni, wrth i'r archfarchnad ehangu ei rhestriadau o gynhyrchion Cymreig.

Mae cyfanswm o 28 cynnyrch Cymreig wedi cyflawni rhestriadau newydd neu estynedig ar silffoedd Tesco ers mis Ionawr, gan gynnwys cyfuniadau newydd gan Montgomery Waters a chwrw newydd gan fragdai Boss a Brecon. Mae pecynnau bach o Tregroes Waffles hefyd wedi cyflawni rhestriad yn adrannau bwyd i fynd siopau Tesco ledled y DU.

 

Share this page

Print this page