Ddydd Mawrth (25 Awst) cafwyd ymweliad gan Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, â Ffatri Fedd Dyffryn Gwy i weld dros ei hun y gwaith a wnaed gan Grŵp Cynhyrchwyr Dyffryn Gwy yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r grŵp yn gydweithrediad o gynhyrchwyr bwyd a diod gorau Dyffryn Gwy sydd wedi dod at ei gilydd i gynnig marchnad ffermwyr ddi-gyswllt, clicio a chasglu sy’n darparu gwasanaeth casglu drwy ffenest y car ar ddyddiau Gwener, gan roi mynediad hawdd a diogel i breswylwyr lleol at gynhyrchion lleol.

Dywedodd Angharad Underwood o The Preservation Society, un o grŵp Cynhyrchwyr Dyffryn Gwy,

"Ar hyn o bryd rydyn ni’n yn gwerthu drwy wasanaeth clicio a chasglu ar-lein ac mae pobl yn casglu drwy ffenest y car ar ddyddiau Gwener. Rydyn ni hefyd yn postio blychau blasus a'n cynllun hirdymor yw cael lleoliad parhaol a hyrwyddo stocwyr Cynhyrchwyr Dyffryn Gwy. Rydyn ni’n trefnu digwyddiadau, yn rhannu presenoldeb mewn digwyddiadau ac yn cynllunio system archebu 'siop un stop' ar y cyd i fannau gwerthu brynu gennyn ni i gyd gyda system gyflenwi logistaidd gydgysylltiedig."

Ymhlith cynhyrchwyr grŵp Cynhyrchwyr Dyffryn Gwy mae Fferm Cinderhill, Untapped Brewery, Gorsley Growers, Sourdough by Hill Farm Barn, Becws Isabel, Menyn Netherend Farm, Perllan Hollow Ash, Ffatri Fedd Dyffryn Gwy, The Preservation Society, Distyllfa Silver Circle, Brooke’s Wye Valley Dairy Co., Losin Cottage, Cwmni Coffi Kontext, Chilli Rogues, Sbeisys Parva, Humble by Nature, Bragdy Kingstone a Seidr Orchard.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru,

"Roeddwn wrth fy modd i gael fy ngwahodd i Ffatri Fedd Dyffryn Gwy a chyfarfod â Chynhyrchwyr Dyffryn Gwy i glywed am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud i helpu'r gymuned leol drwy ddod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth sy'n ddiogel a hawdd yn ystod y cyfnod heriol hwn.

"Mae cynlluniau nifer o'n busnesau bwyd a diod yng Nghymru wedi cael eu difetha eleni ac maen nhw wedi gorfod addasu er mwyn goroesi. Mae hyn yn dangos penderfyniad mawr ac fel Llywodraeth Cymru byddwn yn ceisio cefnogi ein diwydiant bwyd a diod hanfodol wrth i ni ailadeiladu'r economi."

Yn ystod yr ymweliad cyfarfu'r Gweinidog â nifer o Gynhyrchwyr Dyffryn Gwy, lle bu hefyd yn blasu amrywiaeth o'u cynnyrch a chael hamper i fynd adref.

Rhoddwyd trosolwg i Lesley Griffiths hefyd o'r cymorth a gynigiwyd i Grŵp Cynhyrchwyr Dyffryn Gwy drwy rwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Da Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio helpu cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i dyfu.

Aeth Angharad Underwood o The Preservation Society yn ei blaen i ddweud, “Mae'r Clwstwr Bwyd Da wedi bod yn hollol wych, gan helpu i hwyluso a chefnogi datblygiad Grŵp Cynhyrchwyr Dyffryn Gwy. Cafwyd cymorth ymarferol i wireddu'r syniad a nodi atebion i broblemau". 

Mae Clwstwr Bwyd a Diod Da Cymru yn dwyn ynghyd amrywiaeth o gynhyrchwyr bwyd a diod, sydd â chynhyrchion o ansawdd uchel gydag uchelgais i dyfu ochr yn ochr â phartneriaid masnachol, llywodraeth ac academaidd. Mae'n cynnig cyfleoedd i weithio gyda busnesau eraill i oresgyn rhwystrau rhag tyfu a manteisio ar gyfleoedd masnachol.

 

Share this page

Print this page