Mae gwinllan fach o Sir Fynwy wedi sicrhau medal aur yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter yn erbyn rhai o ranbarthau cynhyrchu gwin mwyaf sefydledig y byd.  

Gwin Pinot Noir Reserve 2018 Gwinllan White Castle, sef gwin goch gwerth £25.50 y botel, yw’r gwin cyntaf o Gymru i gael medal aur yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter.

Hon oedd y flwyddyn gyntaf i Winllan White Castle gystadlu yn y gwobrau rhyngwladol clodfawr, lle mae beirniaid yn blasu gwinoedd yn ddall ac mae pob un yn cael ei werthuso ar sail ei ansawdd yn unig, waeth o ble y daw’r gwin. 

Yn ogystal â chanmol ansawdd a nodweddion y gwin pinot noir, cymeradwywyd perchnogion Gwinllan White Castle gan banel o feirniaid Decanter am eu huchelgais a’u llwyddiant wrth greu gwin coch, sef rhywbeth oedd yn cael ei ystyried yn amhosib oherwydd hinsawdd Prydain.   

Dechreuodd Gwinllan White Castle pan wnaeth y gŵr a’r wraig, Robb a Nicola Merchant, brynu cae drws nesaf i’w cartref a phlannu 4,000 o blanhigion gwinwydden. Mae’r hyn a ddechreuodd fel breuddwyd wedi tyfu i fod yn frand uchel ei barch sy’n cynhyrchu 10,000 o boteli gwin y flwyddyn.

Meddai Nicola Merchant o Winllan White Castle: “Datblygodd Gwinllan White Castle o ddyhead roeddwn i a Robb yn ei rannu i fyw yn y rhan hardd hon o’r byd. Roedden ni am fyw yng nghefn gwlad, a thra roedden ni’n cerdded drwy’r tiroedd ychydig ddyddiau ar ôl prynu’r tyddyn, fe wnaethon ni ystyried a fyddai modd i ni adael ein swyddi rhyw ddydd a gweithio gyda’r tir yma.

“Pan ddaeth y cyfle i brynu llain o dir oedd yn wynebu’r de drws nesaf i’n tŷ ni, roedd y freuddwyd hyfryd o blannu gwinwydd yn ymddangos fel cyfle gwerth chweil. Mae’r gweddill yn hanes, ond wnes i fyth ddychmygu y bydden ni’n creu rhywbeth fyddai’n cael ei farnu fel y gorau yn y byd.

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael ers y cyhoeddiad wedi bod yn anhygoel. Mae’r dyddiau diwethaf wedi teimlo fel corwynt, yn y ffordd orau y gallen ni fod wedi’i dychmygu. Dydyn ni ddim wedi cael cyfle i ddathlu eto mewn gwirionedd, ond pan fyddwn ni, dw i’n meddwl y bydd yn rhaid i ni agor potel o pinot.”

O fewn diwrnod a hanner i’r cyhoeddiad, gwerthodd Gwinllan White Castle dros 800 o boteli o’r Reserve 2018, gan eu gorfodi i gyfyngu ar y gwerthiant i un botel fesul cwsmer er mwyn gwneud yn siŵr bod gymaint o bobl â phosib yn gallu blasu’r gwin.

Ychwanegodd Robb Merchant: “Wnaethon ni erioed feddwl y bydden ni’n ennill gwobr aur yng ngwobrau Decanter, cystadleuaeth sy’n derbyn dros 8,000 o gynigion o bob rhan o’r byd. Roedden ni’n gwybod bod ganddon ni win da sydd wedi ennill yn erbyn cystadleuaeth gref yn y gorffennol, ond Decanter yw’r pinacl.

“Rydyn ni wedi anelu am sicrhau tarddiad, ansawdd a gonestrwydd ers cyn i’r winwydden gyntaf gael ei phlannu. Doedden ni erioed eisiau gwerthu y cyfan i archfarchnadoedd, ond dros y blynyddoedd rydyn ni wedi tyfu i ateb y galw gan gwsmeriaid ffyddlon. Ers y fuddugoliaeth, rydyn ni wedi derbyn cannoedd o negeseuon yn ein llongyfarch ni gan bobl ac yn gofyn sut gallan nhw ddod yn rhan o’r fenter yn y dyfodol. Mae’n brofiad anghredadwy, a dechreuodd y cyfan gyda breuddwyd Nicola.”

Tra bod llwyddiannau mwyaf a diweddaraf Gwinllan White Castle wedi tarddu o angerdd ac ymrwymiad y ddau i ansawdd, dydyn nhw ddim ar eu pennau eu hunain yng Nghymru. Enillodd Gwinllan Conwy fedal efydd yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter hefyd am ei gwin Solaris 2019.

Mae’r rhain yn enghreifftiau o lwyddiant gan nifer cynyddol o gynhyrchwyr gwin annibynnol yng Nghymru. Mae’r diwydiant gwin yng Nghymru, sydd â thua 30 o winllannoedd yn cynhyrchu amrywiaeth o winoedd penigamp, sy’n denu diddordeb byd-eang yn gynyddol.

Ym mis Mai, cafodd Gwinllan White Castle gydnabyddiaeth yn Her Win Ryngwladol 2021 am ei gwin Pinot Noir Precoce Reserve. Yn ymuno â nhw roedd Gwinllan Trefaldwyn ym Mhowys, a lwyddodd i ennill gwobrau am ei gwin pefriog Seyval Blanc, gwin pefriog Rosé, a Solaris 2020; a Gwinllan Conwy, a wnaeth hefyd ennill gwobr am ei gwin Solaris 2019 a Pefriog 2019.

Er gwaethaf y caledi mae pob busnes wedi’i wynebu yn ystod y pandemig, mae cynhyrchwyr yn parhau i rannu’r un nod o sicrhau eu lle wrth y bwrdd, ochr yn ochr â rhanbarthau mwyaf blaenllaw y diwydiant drwy’r byd.

Ym mis Mehefin, arweiniodd yr ymdrech ar y cyd honno at gynnal Wythnos Gwin Cymru unwaith eto, lle gwelwyd cynhyrchwyr yn agor eu gwinllannoedd a’u selerau i’r cyhoedd drwy gyfres o ddigwyddiadau er mwyn helpu prynwyr i ddarganfod cynhyrchwyr gwinoedd o ansawdd ar garreg eu drws. 

Trefnir Wythnos Gwin Cymru gan Glwstwr Diodydd Cymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth â chynhyrchwyr diodydd i hyrwyddo’r diwydiant a’i waith yn creu cynnyrch o safon fyd-eang.

Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

“Llongyfarchiadau enfawr i Winllan White Castle ar ei llwyddiant ac ar ddangos i’r byd bod Cymru yn gallu cynhyrchu gwinoedd heb eu hail. Mae hyn yn gyflawniad gwych ac mae’n nhw’n haeddu canmoliaeth enfawr am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i sicrhau medal aur.

“Rydw i’n falch iawn o’n cynhyrchwyr sy’n parhau i greu cynnyrch cynaliadwy o ansawdd ac adeiladu proffil Cymru yn fyd-eang. Rydw i’n edrych ymlaen at ddathlu llwyddiant rhagor o’n cwmnïau yn y dyfodol.”

 

Share this page

Print this page