Dynes yn gwisgo ffedog wedi'i frandio gyda'r Ddraig Goch yn dal hambwrdd o samplau bwyd

Cynhaliwyd dathliad o fwyd a diod Cymreig heddiw [Mawrth 1] i nodi Dydd Gŵyl Dewi, wrth i bobl gael eu hannog i ‘Wneud Popeth yn Gymreig’ a mwynhau’r cynnyrch gwych sydd ar gael ar garreg drws eu hunain.

Yn cynnwys samplau i’w blasu am ddim, stondinau dros dro gan frandiau Cymreig blaenllaw, cyfeiliant cerddorol gan gôr lleol, yn ogystal ag ymddangosiad gwadd gan gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, roedd y digwyddiad a gynhaliwyd yn un o siopau Cymreig blaenllaw Tesco yn Nhonysguboriau, de Cymru, yn ddathliad a fyddai wedi plesio Dewi Sant ei hun.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgyrch flynyddol #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste gan Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n annog pobl i werthfawrogi’r cynnyrch lleol sydd ar gael yng Nghymru. Mae'r diwydiant yn parhau i fod ar i fyny o ran twf, ond nid ar draul ansawdd. Y llynedd yn unig, derbyniodd bron i 150 o gynhyrchion Cymreig ‘Wobr Great Taste’ fawreddog – sy’n cael ei ystyried yn eang fel cynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy’r byd.

Y cynhyrchwyr oedd yn rhan o’r digwyddiad oedd Bragdy Brains, Becws Henllan, Distyllfa Castell Hensol, Llaeth y Llan, Peters Food a Radnor Springs. Yn cadw cwmni iddyn nhw roedd cyn-gapten rygbi Cymru a Chaerdydd, a’r bachgen lleol o’r Rhondda, Ellis Jenkins, ynghyd â chadwyn o ganeuon Cymraeg o dan ofal Côr Godre’r Garth.

Wrth sôn am y digwyddiad a’r ymgyrch, dywedodd Cyfarwyddwr Popty Henllan, Edward Moore,

“Mae ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn parhau i dyfu, ac mae’n ffordd wych o arddangos amrywiaeth ac ansawdd y bwyd a diod sy’n bodoli’n agos at adref.

“Efallai bod Cymru’n cael ei hadnabod yn draddodiadol fel gwlad y gân – ac yn haeddiannol felly, gyda’r canu gwych gan y côr heddiw – ond mae’n gwneud enw iddi’i hun fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer bwyd a diod o safon. Boed i hyn barhau, a byddwn i’n annog pawb i ‘Wneud Popeth yn Gymreig’ ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni – a thu hwnt.”

Cwsmer yn cael cyfle i flasu bwyd o flaen stondin dros dro

Gyda’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn un o siopau Cymreig mwyaf Tesco yn Nhonysguboriau, Pont-y-clun, mae wedi bod yn gyfle i dynnu sylw at y detholiad amrywiol o frandiau cartref mae’r adwerthwr yn eu cefnogi yng Nghymru. I Nathan Edwards, Rheolwr Prynu Lleol Tesco Cymru, maen nhw’n falch o gefnogi cynhyrchwyr lleol ac wrth eu bodd gyda’r ansawdd sydd ar gael. Dywedodd,

“Mae’n wych bod diwydiant bwyd a diod mor fywiog yng Nghymru, ac rydyn ni’n hapus iawn i chwarae ein rhan a chefnogi ein cynhyrchwyr lleol.

“Mae’r amrywiaeth o wahanol gynhyrchion sydd wedi dod ar gael yn fwy diweddar yn amlwg iawn, ac mae’n dangos diwydiant sy’n fodlon arloesi, rhoi cynnig ar bethau newydd ac aros ar flaen y gad â’r tueddiadau diweddaraf. Hoffwn hefyd ddiolch i’n côr lleol, Côr Godre’r Garth, am ddod draw i ddifyrru ein cwsmeriaid gyda’u canu bendigedig. Yn sicr fe helpodd i ddod ag awyrgylch gwahanol i’r daith siopa arferol ar brynhawn Sadwrn!”

Mae gan gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru lawer i fod yn falch ohono. Diolch i angerdd ac egni enfawr y tyfwyr a’r cynhyrchwyr selog, mae cyfoeth o gynnyrch byd-enwog o ansawdd a blas eithriadol, gyda nifer cynyddol hefyd yn derbyn y statws Dynodiad Daearyddol (GI) pwysig, sy’n eu gosod ar lefel debyg i gynnyrch byd-enwog fel Champagne.

Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol - Ellis Jenkins yn rhoi cynnig ar flasu bwyd gyda chwsmeriaid eraill

Un person sy'n gyfarwydd iawn ag angerdd yn y gweithle, ond ar gae rygbi yn hytrach na chae tyfu mwy traddodiadol, yw’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru Ellis Jenkins. Dywedodd, 

“Gan fy mod yn hoff iawn o fwyd, roeddwn i’n fwy na pharod i gymryd rhan yn ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste i annog pobl i wneud y gorau o’r cynnyrch gwych sydd ar gael yn lleol yng Nghymru.

“Mae yna stori mor bositif, ac unigryw, i’w hadrodd, ac os ydych chi’n prynu, coginio neu fwyta – mae’n gwneud synnwyr i roi cynnig ar gynnyrch Cymreig. Rwy’n siŵr na chewch eich siomi.”

Share this page

Print this page