Bydd categori newydd yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru yn dathlu busnesau bwyd a diod yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i uwchsgilio eu gweithluoedd.

Mae’r categori Busnes Uwchsgilio Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn wedi ei noddi gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales, rhaglen newydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd yn gweithio efo’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus ac abl i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, i sbarduno arloesedd a thwf cynaliadwy yng Nghymru.

Bydd gwobr Busnes Uwchsgilio Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn yn adnabod busnesau sydd yn medru dangos manteision pendant o uwchsgilio eu timau.  Bydd yn un o 17 categori yn y gwobrau eleni, fydd yn cael ei ddathlu yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar Mai 9 mewn digwyddiad tei du.  Mae’n argoeli i fod y digwyddiad mwyaf o’r gwobrau hyd yma.

Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2024 yn dathlu cyrhaeddiad rhagorol pobl yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.  Castell Howell, cyfanwerthwr anibynol gwasanaeth bwyd yw prif noddwr y gwobrau, gafodd eu cyd-sefydlu gan Liz Brookes o gwmni Grapevine Event Management â’r ddarlledwraig a newyddiadurwraig, Sian Lloyd.

Gellir cyflwyno cais i’r gwobrau am ddim, gyda cheisiadau yn agored tan hanner nos ar 23ain Chwefror.

Sefydlwyd yn 2023, mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales yn gweithio gydag ystod eang o fusnesau bwyd a diod o wahanol faint, yn canolbwyntio ar brosesu bwyd a diod â’r diwydiant gweithgynhyrchu, i sicrhau fod gweithwyr efo’r sgiliau a hyfforddiant cywir ar gyfer y busnesau a’r diwydiant yn ehangach.

Gall fusnesau sydd yn gymwys gael mynediad at gyllid hyd at 80% tuag at gostau hyfforddi.  Mae busnesau sydd yn cofrestru efo Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales yn cael mynediad at gefnogaeth Rheolwr Datblygu’r Gweithlu fydd yn eu cefnogi, gwneud diagnostig sgiliau efo hwy a’u cyfeirio at gefnogaeth berthnasol arall.

Dywedodd Nerys Davies, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales:

“Rydym yn falch iawn o noddi’r categori newydd yng Ngwborau 2024, sydd yn cyfateb i’n cenhadaeth i gefnogi datblygiad gweithlu medrus a galluog yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.  Gwyddom fod llawer o fusnesau yng Nghymru yn gwneud ymdrech amlwg yn barod i uwchsgilio eu gweithluoedd, i roi cyfleoedd i ddatblygu gyrfa, a gwella perfformiad a thwf.  Rydym am eu gweld yn cael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu, a gobeithiwn hefyd fod y wobr newydd yma’n ysbrydoli eraill i ymrwymo i ddatblygu sgiliau eu timau.”

Dywedodd Liz Brookes, cyd-sylfaenydd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru:

“Mae’r categori newydd Busnes Uwchsgilio Bwyd a Diod Cymru y Flwyddyn yn ychwanegiad pwysig i Wobrau Bwyd a Diod Cymru, sydd nid yn unig yn bwriadu dathlu cyrhaeddiad enfawr busnesau bwyd a diod Cymru, ond hefyd i annog cynnydd a datblygiad pellach yn y sector.  Rydym yn falch o groesawu ymgeiswyr i’r categori newydd yma ac yn edrych ymlaen i ddathlu’r enillwyr ar Mai 9.”

Share this page

Print this page