Mae gwinoedd o winllannau ledled Cymru wedi cael eu cydnabod gan Gymdeithas Gwinllannau Cymru yn seremoni wobrwyo 2022.

Daeth chwe gwin o bedair gwinllan yng Nghymru i’r brig yng Ngwobrau Gwin Cymru, digwyddiad a gafodd ei chynnal yng ngwinllan Llanerch ym Mro Morgannwg.

Roedd 12 gwinllan yn cymryd rhan yn y gwobrau eleni, gan gynrychioli cyfran o’r diwydiant gwin yng Nghymru, diwydiant sy’n prysur dyfu - mae oddeutu 30 o winllannau yn gweithredu ledled y wlad ar hyn o bryd.

Cafodd y gwinoedd a oedd yn cystadlu eu rhannu’n saith dosbarth: gwyn, rhosliw, coch, gwyn pefriog, rhosliw pefriog, gwin gorau Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) / Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) o Gymru a’r Gwin Cyffredinol Gorau, a chawsant eu beirniadu gan banel o arbenigwyr adnabyddus yn y diwydiant: Simon Thorpe MW, WineGB; Richard Ballantyne MW, Noble Grape a Deiniol ap Dafydd, Blas ar Fwyd.

Dywedodd Andy Mounsey, Cadeirydd Cymdeithas Gwinllannau Cymru a pherchennog Gwinllan Velfrey yn Sir Benfro: “Mae Gwobrau Gwin Cymru yn parhau i fod yn gyfle unigryw i ddathlu a rhoi sylw i’r gwinoedd gwych sy’n cael eu cynhyrchu bob blwyddyn ledled Cymru.

“Roedd gwaith ein panel o feirniaid uchel eu parch yn anodd iawn gan fod 43 o winoedd wedi cystadlu yn y gwobrau eleni, gyda nifer o winllannau newydd yn bresennol. Mae twf y gwobrau’n adlewyrchu twf parhaus y diwydiant gwin yma yng Nghymru, ac mae’n rhywbeth rydyn ni’n falch iawn o allu ei ddathlu.”

Dros y 18 mis diwethaf, gyda chefnogaeth Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, mae’r gwinllannau wedi cydweithio i ddatblygu strategaeth i alluogi twf yn niwydiant gwin Cymru yn y dyfodol. Disgwylir i’r strategaeth hon gael ei lansio erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a Trefnydd, a oedd yn bresennol yn y gwobrau eleni: “Mae’n wych gweld y diwydiant gwin yng Nghymru yn parhau i dyfu ac mae’r gwobrau eleni yn gyfle ardderchog i ddathlu ei lwyddiannau.

“Mae diwydiant gwin Cymru yn datblygu enw da am gynhyrchu gwinoedd o ansawdd rhagorol fel y gwelir yn y gydnabyddiaeth ryngwladol y mae’n ei dderbyn. Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth mae ein gwinllannau yng Nghymru yn ei gynhyrchu dros y blynyddoedd nesaf gan barhau i roi gwin o Gymru ar y map, nid yn unig yn y DU, ond ledled y byd.”

Y rhestr lawn o noddwyr a gwobrau dosbarth ar gyfer Gwobrau Gwin Cymru 2022:

Dosbarthiadau Unigol

  1. Gwin Gwyn Gorau - Noddwyd gan N.P. SEYMOUR LTD
    • Vale Solaris (2021), Vale Vineyard - Gwinllan y Dyffryn
  2. Gwin Rhosliw Gorau – Noddwyd gan Delyn Warehousing
    • Vale Rondo Rosá (2021), Vale Vineyard - Gwinllan y Dyffryn
  3. Gwin Coch Gorau – Noddwyd gan Levercliff Associates
    • Barrel 48 (2020), White Castle Vineyard
  4. Gwin Gwyn Pefriog gorau – Noddwyd gan Halfpenny Green Wine Estate
    • Pefriog Phoenix (2019), Gwinllan Conwy
  5. Gwin Rhosliw Pefriog Go rau – Noddwyd gan Carpet Fit Wales
    • Tintern Parva Dathliad Rosé (NV), Parva Farm Vineyard
  6. PDO/PGI Gorau Cymru – Noddwyd gan Tool Raptors Ltd
    • Pinot Noir Précoce Reserve (2019), White Castle Vineyard
  7. Gwin Cyffredinol Gorau ac Enillydd Tlws Coffa Thomas Davies 2022 - Noddwyd gan inprint.org.uk
    • Tintern Parva Dathliad Rosé (NV), Parva Farm Vineyard

Prif Noddwr y gwobrau – Bwyd a Diod Cymru

Share this page

Print this page