Ar ôl ymuno â'u gweminar fasnach rithwir gyntaf yn ystod y cyfnod cloi, mae becws yn Sir Ddinbych, Henllan Bread, wedi cael llwyddiant ysgubol wrth sicrhau cytundeb tri mis i gyflenwi cadwyn archfarchnad yn Qatar gyda’r gobaith o lwyddo mewn rhanbarthau eraill hefyd.

Gweminarau rhithwir, yn hytrach na chyfarfodydd wyneb yn wyneb, yw’r norm newydd erbyn hyn yn ystod pandemig Covid-19, a gyda chymorth Llywodraeth Cymru mae cwmnïau bwyd a diod wedi bod yn edrych ar ffyrdd newydd o ehangu eu marchnadoedd allforio.

Wedi'i leoli yn Ninbych, gyda bara, cacennau a phasteiod yn cael eu danfon chwe diwrnod yr wythnos o gwmpas gogledd a chanolbarth Cymru, gororau Swydd Amwythig a Chilgwri, mae Henllan Bread hefyd wedi allforio cynnyrch ar draws yr Iwerydd i UDA a chyn belled â'r Dwyrain Canol.

Ac yntau eisoes wedi llwyddo i gael cynhyrchion ar restrau yn rhanbarth Qatar, dywedodd Ed Moore, Cyfarwyddwr Henllan Bread, a ymunodd â gweminar y Clwb Allforio am y tro cyntaf ym mis Mehefin:

"Gweminar Qatar oedd y gyntaf i mi fel rhan o'r Clwb Allforio. Roedd y siaradwyr yn wybodus ac mae'r digwyddiadau hyn yn brofiad gwerth chweil i unrhyw fusnes â chynllun allforio.

"Mae ymuno â gweminar rithwir y Clwb Allforio, yn golygu bod cynhyrchwyr fel ni yn dal i allu cysylltu a dechrau sgyrsiau gyda phrynwyr ar draws y byd. Mae'n adnodd gwych gan y gallaf ymuno â galwadau ble bynnag neu pryd bynnag rwy’n dymuno.

"Y tro hwn, roeddwn i'n gallu cysylltu â Rheolwr Cyffredinol cadwyn archfarchnad fawr ar ôl y weminar sydd wedi arwain at sicrhau archeb, sy'n newyddion gwych.

"Nawr bydd ein cacennau, y detholiad ‘Welsh Collaboration Cake’ a’n detholiad o Gacennau Dwbl poblogaidd yn y siopau yn Qatar o'r ddydd Sadwrn. Bydd yn dreial 12 wythnos ond rydyn ni’n gobeithio sicrhau rhagor yn rhanbarth y Dwyrain Canol yn y dyfodol. "

Yn ddiweddar, mae niferoedd gweminarau'r Clwb Allforio wedi parhau i godi ers i'r pandemig dorri ym mis Mawrth. Mae'r gweminarau yn cynnig cyfle unigryw i gwrdd â darpar brynwyr, dosbarthwyr a mewnforwyr drwy gyfrwng cyfleusterau fideogynadledda er mwyn datblygu a chryfhau cysylltiadau busnes, masnach ac allforio.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae hon yn ffordd wych i lawer o'n cwmnïau bwyd a diod arddangos eu cynnyrch a'u galluoedd, tra'n rhannu gwybodaeth ar ffurf sy'n addas i'r hinsawdd sydd ohoni.

"Yn y cyfnod ansicr hwn mae wedi bod yn hanfodol meddwl am wahanol ffyrdd o gysylltu pobl, ac mae ein gweminarau wedi rhoi llwyfan i fusnesau gyfathrebu â phrynwyr a chyflenwyr o bob cwr o'r byd.

"Mae Cymru ar agor i fusnes a gyda ein rhaglen o ddigwyddiadau sy'n cefnogi'r sector Bwyd a Diod, gallan nhw edrych ar wahanol farchnadoedd a sianelau sydd ar gael.

"Ein nod yw cefnogi'r busnesau hynny sy'n allforio, a'u helpu i ddeall y rhwystrau, eu hysbrydoli a gwneud y gorau o'r holl farchnadoedd posibl sydd ar gael fel bod busnesau mewn gwell sefyllfa ar ôl y cyfnod cloi.

"Mae achos Henllan Bread yn enghraifft wych o sut i ddefnyddio'r gweminarau er eich budd chi a chysylltu â phrynwyr rhyngwladol ar draws y byd. Er nad ydyn ni’n gallu mynd â'n cynhyrchwyr dramor, rydyn ni’n dal i gynnig cyfleoedd iddyn nhw.

"Yn ystod pandemig byd-eang Covid-19, mae teithio rhyngwladol wedi dod yn llai o ddewis ymarferol i'n hallforwyr, fodd bynnag, mae rhith ymweliadau masnach fel y rhain wedi bod yn ddewis amgen cynyddol ddeniadol i gwmnïau mawr sydd efallai'n gorfod aros gartref yn gorfforol, ond sy'n dal yn benderfynol o dynnu sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol at eu cynnyrch.”

 

Share this page

Print this page