Mae jamiau, marmaledau a siytnis llwyddiannus Radnor wedi cyrraedd 30 o siopau Spinneys ledled Abu Dhabi, Dubai a thu hwnt mewn pryd ar gyfer arddangosfa Gulfood eleni. Mae Radnor Preserves, o galon Cymru, wedi cael ei enwi fel un o'r gwneuthurwyr marmalêd crefftus gorau yn y byd, gan ennill Aur Dwbl yng Ngwobrau Marmalêd y Byd, yn fwyaf nodedig.

Erbyn hyn, mae pedwar o'u cyffeithiau blasus a phedwar o'u marmaledau, gan gynnwys enillydd Gwobr Bwyd Prydain 2020 – Marmalêd Leim a Lafwr wedi'i Dorri â Llaw, i'w gweld ar hyd a lled yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Mae'n ymuno â'u Marmalêd Oren a Datys, blas newydd a ddatblygwyd yn arbennig ar gyfer yr Emiraethau Arabaidd Unedig; Enillwyr Gwobr Great Taste - Jam Mefus a Rhosyn El Hanout, Jam Mafon a Chardamom Mâl, Marmalêd Tri Ffrwyth wedi’i Dorri â Llaw a Marmalêd Oren Seville wedi’i Dorri â Llaw, ynghyd â dau ffefryn arall, Jam Mwyar Duon a Phupur Du a Jam Riwbob a Ffigys wedi’u Carameleiddio.

Sefydlwyd y cwmni yn 2010 ac a hithau wedi ennill dros drigain o wobrau bwyd, datblygodd y gwneuthurwr cyffeithiau arloesol Joanna Morgan ei pherthynas fusnes â Spinneys drwy sioeau bwyd a lletygarwch Gulfood, yn Dubai, a BlasCymru yng Nghymru.

Wrth ddathlu Gulfood eleni, dywedodd Joanna, "Ar ôl cwrdd â phrynwyr Spinneys ychydig flynyddoedd yn ôl yn Gulfood yn Dubai rydym ni bellach wrth ein bodd yn gwerthu ein marmaledau a'n jamiau i bobl gael eu blasu a'u mwynhau yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Dim ond y cynhwysion naturiol gorau a chyfuniadau blas unigryw rydym ni’n eu defnyddio i gynhyrchu'r cynhyrchion o'r ansawdd gorau.

"Mae ein henillydd Gwobr Bwyd Prydain 2020 – Marmalêd Leim a Lafwr wedi'i Dorri â Llaw – yn llawn blas ac yn llawn leim, mae blas hallt y gwymon lafwr o Gymru yn gwneud hwn yn farmalêd perffaith i godi calon. Gallwch ei roi ar eich tost neu mae'n hynod flasus gyda chyrri."

Ychwanegodd Siyak Siyali, Rheolwr Categorïau Spinneys, "Mae’n bleser gallu cynnig Radnor Preserves i'n cwsmeriaid. Rwy'n siŵr y byddan nhw wrth eu bodd â'r cyffeithiau hyn sydd wedi'u gwneud â llaw gyda chynhwysion naturiol a blas ac ansawdd eithriadol. Mae'r detholiad yn gweddu'n dda i'n nod o gynnig bwyd o'r radd flaenaf."

Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, "Mae Cymru'n cynhyrchu rhai o'r cynhyrchion o'r ansawdd uchaf yn y byd ac nid yw Radnor Preserves yn eithriad. Dim ond y cynhyrchion Cymreig gorau y maen nhw’n eu defnyddio i gynhyrchu eu jamiau, eu marmaledau a'u cyffeithiau ac amlygir hyn gan y llu o wobrau maen nhw wedi'u hennill dros y blynyddoedd. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau eu cynhyrchion gymaint â ni."

I gael rhagor o wybodaeth am Radnor Preserves a’u cynhyrchion, ewch i www.radnorpreserves.com ac am wybodaeth am siopau Spinneys a siopa ar-lein, ewch i www.spinneys.com.

 

Share this page

Print this page