Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, ymunodd Kellanova â Bryn Tirion Hall School i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli myfyrwyr am y cyfleoedd gyrfaol cyffrous sydd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod. Y nod oedd agor drysau i bob person ifanc, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, a thynnu sylw at yr amrywiaeth o lwybrau gyrfaol sydd ar gael trwy brentisiaethau.
Yn ystod y fenter hon, bu dau aelod o staff Kellanova, sef Darryl Taylor, Rheolwr Cynnal a Chadw, a Clare Doran, Rheolwr AD, yn siarad â disgyblion, gan drafod y rolau niferus yn y sector bwyd a diod – o gynhyrchu i arweinyddiaeth. Roedd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau, sesiwn holi ac ateb, a throsolwg o sut mae prentisiaethau’n cynnig llwybr cynhwysol i feithrin sgiliau gwerthfawr mewn diwydiant ffyniannus.
Dywedodd Darryl Taylor:
“Roedd yn fraint ymweld â Bryn Tirion Hall School i ddangos i fyfyrwyr y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael yn ein diwydiant. Mae prentisiaethau’n chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol y sector dynamig hwn, a’n gobaith yw y byddwn wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent yng Nghymru i archwilio’r cyfleoedd niferus sy’n cael eu cynnig gan y diwydiant hwn.”
“Roedd hefyd yn gyfle i ni ymhelaethu ar y gwaith a wnawn gyda Phrifysgol Wrecsam gyda’n prentisiaethau gradd. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio â’r sefydliad hwn ers dros ddeng mlynedd, gan roi cyfle i brentisiaid gyflawni gradd sylfaen (2 flynedd) y gallan nhw wedyn ei throsi i BEng, gradd anrhydedd (blwyddyn). Mae'n cymryd cyfanswm o dair blynedd iddyn nhw ac rydyn ni’n falch o ddweud bod hyn wedi bod yn rhan lwyddiannus iawn o'n rhaglen brentisiaeth.”
Dywedodd Sarah Humphreys, Pennaeth Cynorthwyol CWRE (Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith) yn Bryn Tirion Hall School:
“Mae dod â busnesau lleol fel Kellanova i mewn i siarad â’n myfyrwyr yn gyfle gwych. Mae’n helpu i ehangu gorwelion ein disgyblion ac yn dangos y gallan nhw, gyda’r gefnogaeth gywir, ddilyn gyrfaoedd boddhaus mewn unrhyw ddiwydiant, gan gynnwys bwyd a diod. Roedden ni’n edrych ymlaen at weld ein myfyrwyr yn dysgu rhagor am sut gallan nhw adeiladu eu dyfodol trwy brentisiaethau.”
Roedd yr ymweliad hwn yn rhan o gyfres ehangach o weithgarwch yn ardal Wrecsam i gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (10–16 Chwefror). Cafodd ei gydlynu gan Nia Griffith, Rheolwr Ymgysylltu Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, ar y cyd â Working Options in Education, elusen sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau bywyd.
Yn ôl Nia Griffith:
“Roedd yr ymweliad yn enghraifft wych o sut gall busnesau ysbrydoli myfyrwyr i archwilio llwybrau gyrfaol trwy brentisiaethau mewn sector ffyniannus ac amrywiol. Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle gwych i ni roi sylw i’r amrywiaeth anhygoel o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod. Mae gwir angen gweithwyr medrus ar draws pob maes, o rolau cynhyrchu a thechnegol i reoli ac arloesi. Drwy godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hyn yn gynnar, gallwn annog pobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, i feddwl am yrfa foddhaus yn y sector hwn.”
Tynnodd Nia Griffith sylw hefyd at fanteision hirdymor prentisiaethau yn y diwydiant bwyd a diod. Mae’r rhain nid yn unig yn cynnig profiad ymarferol i bobl ifanc, ond hefyd yn rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus. Gyda’r sector bwyd a diod yn parhau i dyfu, mae’r galw am weithwyr medrus yn fwy nag erioed, ac mae prentisiaethau’n chwarae rhan hollbwysig wrth lenwi’r bylchau hyn.
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, bu Nia Griffith hefyd yn cymryd rhan mewn Ffeiriau Gyrfaoedd a digwyddiadau wedi’u trefnu gan Gyrfa Cymru. Cafodd y digwyddiadau hyn eu cynnal yn Ysgol Botwnnog yng Ngwynedd, ac Ysgol Maelor yn Wrecsam, gan amlygu’r cyfleoedd trwy Brentisiaethau. Mae tîm Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn parhau i weithio gydag ysgolion, busnesau ac arweinwyr diwydiant i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru. Drwy godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfaol ym maes bwyd a diod, mae'r fenter yn helpu i lunio gweithlu mwy amrywiol a medrus ar gyfer y dyfodol.