Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy’n cael ei disgrifio yn ‘Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 | Business Wales - Food and drink (gov.wales)  Mae’n cynnig gweledigaeth o ddiwydiant cryf, bywiog gydag enw da trwy’r byd am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Cenhadaeth y Weledigaeth yw:

  • Cynyddu gwerth, cynhyrchiant a maint busnesau
  • Bod llwyddiant busnesau’n dod â budd i bobl a chymdeithas; a
  • Hyrwyddo Cymru a dathlu ein llwyddiant fel Cenedl Fwyd.

Bydd y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd (CSBB) yn cefnogi buddsoddiadau cyfalaf mewn offer prosesu a seilwaith ac mae’n elfen bwysig o Gynlluniau Buddsoddi Gwledig Llywodraeth Cymru 2022-2025. https://llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig

Bwriad CSBB yw helpu'r busnesau hynny sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.  Ei nod yw gwella perfformiad, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ei fusnesau a’u gwneud yn fwy cystadleuol; eu helpu i ymateb i'r galw ymhlith defnyddwyr; eu hannog i arallgyfeirio; ac adnabod a gwasanaethu marchnadoedd newydd a marchnadoedd cyfredol a manteisio arnynt.

Bydd angen i bob prosiect a gefnogir drwy'r CSBB ddangos sut y maent yn cyfrannu at wireddu’r Weledigaeth.

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer CSBB yn broses dau gam a dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod wedi darllen y nodiadau canllaw llawn ar gyfer y cynllun https://llyw.cymru/cynllun-sbarduno-busnesau-bwyd-canllawiau-html cyn cwblhau cam cyntaf y Datganiad o Ddiddordeb (DoD) er mwyn sicrhau bod eu prosiectau yn gymwys o fewn canllawiau ac amserlen y cynllun.

Gweler y canllawiau cyhoeddedig sydd ar gael yma - Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd – LLYW.CYMRU

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at flwch postio fbas@llyw.cymru.

Share this page

Print this page