Mae Siop.io yn blatfform e-fasnach lleol dwyieithog sydd wedi cael ei ddatblygu dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn darparu ffordd well i fanwerthwyr bwyd a diod annibynnol ar draws Gwynedd ac Ynys Môn gyrraedd eu cymunedau lleol. Cyn bo hir bydd bwytai, tafarndai a siopau tecawê hefyd yn gallu elwa o'r gwasanaeth, a fydd yn eu galluogi i gystadlu gydag archfarchnadoedd yn fwy effeithiol drwy gyflenwi archebion ar-lein sy’n cael eu gosod yn lleol.

Yr ymgynghoriaeth meddalwedd o’r gogledd, Kodergarten, sydd â phrofiad o ddylunio, codio a chynnal amrywiaeth eang o systemau e-fasnach sydd wedi datblygu ac adeiladu'r platfform rhyngweithiol. Y gobaith yw y bydd manwerthwyr bwyd annibynnol bach yn gallu gwerthu ar-lein er mwyn cynnal eu llif arian a'u refeniw yn ystod argyfwng COVID-19 yn wyneb cystadleuaeth ddwys gan wasanaethau clicio a chasglu/dosbarthu archfarchnadoedd.

Mae llawer o fanwerthwyr annibynnol bach wedi cael cadw eu siopau ar agor, tra bod eraill wedi dechrau cynnig gwasanaethau dosbarthu ar-lein i'w galluogi i barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae marchnad manwerthu bwyd y DU wedi gweld newidiadau trawsnewidiol dros y degawd diwethaf ond mae'r pandemig diweddar wedi dod â mwy o sylw i siopa ar-lein.

Prynodd un o bob pum aelwyd ym Mhrydain fwyd ar-lein ym mis Mai 2020, gan gynyddu gwerthiant ar gyfer dosbarthu i’r cartref 91%, tra bod siopau annibynnol bach wedi gwerthu 69% yn fwy yn y tri mis hyd at 20 Mehefin, yn ôl data diweddaraf y farchnad gan y dadansoddwyr manwerthu Kantar.

Mae Siop.io yn rhoi mynediad i'r defnyddiwr at fusnesau lleol sy'n gwerthu bwyd, diod, a chyn bo hir, prydau parod a siopau tecawê gyda busnesau'n amrywio o siopau cig i siopau bara, delis, siopau ffrwythau a llysiau.

Gall cwsmeriaid cymunedol lleol roi eu cod post cartref ar y wefan i weld rhestr o fanwerthwyr annibynnol lleol sy'n cwmpasu eu hardal gyda Siop.io yn ymdrin â'r holl letya, trafodion a thaliadau i'r busnesau. Gall cwsmeriaid ddewis gyda phwy i siopa ac ychwanegu eitemau at eu bag siopa ar-lein cyn cofrestru i dalu a dewis opsiwn dosbarthu neu gasglu.

Wrth sôn am y penderfyniad i ddatblygu gwefan e-fasnach, dywed Paul Sandham o Kodergarten,

"Wrth i ni i gyd ddechrau aros gartref yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 roedd yn amlwg i ni nad oedd llawer ar gael i’n manwerthwyr bwyd annibynnol lleol yng ngogledd-orllewin Cymru os oedden nhw eisiau symud eu busnes ar-lein. Mae pob math o apiau a gwefannau sy’n rhestru busnesau unigol, ond dim byd i gefnogi busnesau bwyd annibynnol a'u cwsmeriaid lleol i brynu unrhyw beth ar-lein a helpu cyflawni'r archeb ar gyfer y busnes a'r cwsmer.

"Roeddem ni eisiau i le a lleoliad fod wrth wraidd yr hyn roeddem ni’n ei ddatblygu. Mae ble rydych chi'n byw yn helpu i benderfynu gan ba fusnes y gallwch brynu. Mae i fod i helpu eich pobydd, deli, cigydd lleol i werthu a dosbarthu cynnyrch i'w cwsmeriaid yn y pentref cyfagos.

"Mae'n hanfodol bod gan fanwerthwyr annibynnol bach gyfleuster e-fasnach i gynhyrchu refeniw, ond roeddem ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ei wneud yn hawdd i aelodau annibynnol bach gofrestru a’i ddefnyddio ac wrth gwrs roedd angen iddo fod yn ddwyieithog.

"Mae dros wyth mis wedi mynd heibio ers i ni ddechrau ar y gwaith o greu siop.io ac rydym ni’n gyffro i gyd ein bod wedi lansio'r platfform yn ddiweddar gyda chymorth a chefnogaeth Menter Môn. Araf deg mae dal iâr, ac mae llawer mwy gennym ni i’w ddysgu yn ystod y cyfnod cychwynnol, ond rydym ni’n llawn cyffro ac yn hyderus iawn y bydd siop.io yn gwneud gwahaniaeth i fusnesau bwyd annibynnol lleol ac i ddefnyddwyr."

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, bu Kodergarten yn gweithio mewn partneriaeth â Menter Môn a gomisiynodd ymchwil i ddarganfod beth sydd ei angen i helpu busnesau bwyd lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dangosodd yr ymchwil fod y pandemig wedi achosi i bobl siopa mwy ar-lein, ac felly roedd eisiau profi pa mor effeithiol fyddai gwerthu ar-lein i fusnesau bwyd lleol.

Eglurodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn,

"Mae Menter Môn wedi bod ar flaen y gad yn ein hymdrechion i helpu unigolion, cymunedau a busnesau i addasu yn ystod y pandemig. Rydym ni’n falch o allu cefnogi busnesau yn Ynys Môn a Gwynedd i gofrestru a defnyddio siop.io. Mae'n gyfle euraid i fusnesau bwyd a diod annibynnol allu ymateb yn gadarnhaol i'r heriau maen nhw’n eu hwynebu yn ystod y cyfnod clo yn ogystal ag i'r dyfodol, ac mae hefyd yn adnodd i gwsmeriaid siopa'n lleol a chefnogi'r economi leol".

Mae Menter Môn yn fenter gymunedol sy'n gweithredu ar draws gogledd Cymru i gyflawni amryw o brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Cefnogwyd y prosiect hwn gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

Mae Becws Islyn, becws bach ym mhentref Aberdaron yn un o’r manwerthwyr sydd wedi cofrestru gyda siop.io. Dywedodd Gillian Jones, perchennog Becws Islyn,

"Ar ôl gweld gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a'r cyfnod clo ym mis Mawrth y llynedd oherwydd y pandemig bu'n rhaid i ni gau ein becws a'n caffi. Penderfynodd fy ngŵr Geraint a fi y byddem ni’n addasu ac yn canolbwyntio ein busnes ar ein cwsmeriaid lleol yn ardal Pen Llŷn a oedd yn gorfod gwarchod. I ddechrau, gwnaethom ni’r holl waith papur o gymryd archebion, prosesu taliadau i ddosbarthu’r cynhyrchion, tra'n dal i bobi. Roedd y gefnogaeth gan ein cwsmeriad yn anhygoel ac yn gwerthfawrogi, ond wnaethom eriod ragweld y gyddai gennym 200 o gwsmeriaid.

"Dyna pryd y cawsom ni sgwrs gyda Menter Môn a eglurodd am y wefan e-fasnach newydd ac roeddem ni eisiau cymryd rhan. Mae'n helpu wrth gymryd llawer o'r gwaith papur er mwyn i ni allu canolbwyntio ar bobi a siop y busnes. Mae'r becws bellach wedi ailagor, ar ôl gorfod addasu cynllun y siop ac rydym ni’n gweld mwy o ymwelwyr lleol eto."

Mae tîm Kodergarten wedi bod yn gweithio ers bron i 20 mlynedd gydag un o brif werthwyr llyfrau'r DU i greu meddalwedd e-fasnach a alluogodd i nwyddau gael eu gwerthu i filiynau o gwsmeriaid yn y DU, yr UE a gweddill y byd.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'n wych gweld busnesau Cymru'n dod at ei gilydd i wneud rhywbeth ar y cyd dros ein cymunedau drwy greu platfform e-fasnach, gan ganiatáu i gwsmeriaid fynd ar-lein a phrynu'n uniongyrchol gan ein manwerthwyr annibynnol bach.

 "Mae wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i fusnesau, ac rwy'n siŵr y bydd siop.io yn rhoi hwb mawr ei angen i fanwerthwyr annibynnol yng ngogledd-orllewin Cymru ar ddechrau 2021."

Os ydych chi’n fanwerthwr bwyd a diod annibynnol lleol yng ngogledd-orllewin Cymru ac eisiau cynyddu nifer eich cwsmeriaid neu os ydych chi’n rhywun sy'n byw yn y rhanbarth sy'n awyddus i gefnogi eich busnesau lleol ar-lein ewch i https://siop.io/

 

Share this page

Print this page