Wrth i Gemau Olympaidd Tokyo eleni agosáu, mae Calon Wen, cwmni cydweithredol o ffermwyr Cymreig sydd wedi'i leoli yn Sir Benfro ac yn cyflenwi llaeth, menyn a chaws, eisoes wedi sicrhau safle medal aur drwy fod yr unig gaws Ewropeaidd a ardystiwyd yn organig gan Lywodraeth Japan.

Mae Calon Wen, grŵp o 25 o ffermydd teuluol organig ledled Cymru sy'n cynhyrchu cynnyrch llaeth organig yn gynaliadwy, wedi bod yn allforio ei gynnyrch i Asia gyda chymorth y Mineichi Group ers 2017. Gan fanteisio ar lwyddiant Cwpan Rygbi'r Byd 2019, a gynhaliwyd yn Japan, bachodd Calon Wen a Mineichi ar y cyfle i fentro i farchnad Japan.

Mae Stuart McNally, Rheolwr Datblygu Busnes a Gwerthiant Calon Wen yn esbonio sut y gwnaethon nhw daro bargen:

"Yn ystod digwyddiad BlasCymru/TasteWales ym mis Mawrth 2019, llwyddom ni i gysylltu a chreu perthnasoedd gyda chwsmeriaid o Japan, tra hefyd yn mapio strategaethau i fentro i'r farchnad. Yna, o fis Medi 2019, dechreuodd stocwyr manwerthu Calon Wen yn Japan ehangu'n raddol. Maen nhw bellach ar gael mewn tua 100 o leoliadau ac ar-lein. Yn ogystal â chyflenwi manwerthwyr yn uniongyrchol, mae cynnyrch Calon Wen hefyd yn cael ei ddosbarthu gan fasnachwyr cynnyrch llaeth mawr o Japan sy'n dosbarthu i archfarchnadoedd ac amrywiol siopau adrannol mawr.

"Fodd bynnag, ers haf 2020, diwygiodd awdurdod Japan y rheoliad ynghylch cynhyrchion organig sy’n cael eu mewnforio ac mae'n rhaid i unrhyw gynhyrchion a elwir yn 'organig' bellach gael ardystiad JAS organig Japan, a'u labelu gyda'r marc JAS ardystiedig ar y pecyn.

"Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ehangu stocwyr i dros 120 o siopau yn Japan yn ystod 2021, cyflwyno cynhyrchion newydd Calon Wen i gryfhau'r brand a chyflwyno brandiau a chynhyrchion Cymreig eraill mewn partneriaeth, er enghraifft Pice ar y Maen Tan y Castell a llawer mwy.

"Ers mis Medi 2019, mae Calon Wen wedi bod yn ehangu yn Japan, gyda thua 100 o leoliadau a gwefannau’n stocio ei gynnyrch. Yn ogystal â chyflenwi'n uniongyrchol i fanwerthwyr, mae cynhyrchion Calon Wen hefyd yn cael eu dosbarthu gan fasnachwyr cynnyrch llaeth mawr Japan - 'Morinaga', 'Mitsubishi', a 'Kokubu,' sy'n dosbarthu i archfarchnadoedd a siopau adrannol mawr yn Japan.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: "Mae sicrhau marchnadoedd allforio newydd, yn ogystal â chynnal ac adeiladu ar y rhai presennol, yn hanfodol ar gyfer ffyniant diwydiant bwyd a diod Cymru yn y dyfodol.

"Mae gan Japan boblogaeth o 127 miliwn, ac mae'n un o'r marchnadoedd defnyddwyr cyfoethocaf a mwyaf aeddfed yn y byd. Bwyd a diod yw'r gwariant mwyaf ar aelwydydd Japan ac mae'r wlad yn dibynnu ar fewnforion bwyd i fodloni galw defnyddwyr.

"Mae datgloi marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fusnesau bwyd a diod Cymru nid yn unig arddangos eu cynnyrch o'r radd flaenaf i'r byd, ond hefyd i gynhyrchu mwy o refeniw a chynyddu elw. Gydag enw da a tarddiad Cymru, mae llwyfan cryf ar gyfer twf pellach.

"Mae ymadawiad y DU o'r UE wedi ei gwneud yn ofynnol i'n cynhyrchwyr ddod o hyd i farchnadoedd newydd, sy’n aml ymhellach i ffwrdd. Mae perfformiad Calon Wen yn Japan wedi dangos y gall cwmnïau o Gymru barhau i fod yn llwyddiannus yn rhyngwladol ac mae amrywiaeth o gymorth ar gael.”

Cynhelir BlasCymru/TasteWales 2021, trydydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru sy'n dod â phrynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o bob cwr o'r byd at ei gilydd yn ICC Cymru, yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar 27 a 28 Hydref. Ymhlith rhaglen lawn o weithgarwch bydd cynhadledd bwyd a diod lefel uchel a fydd yn cynnwys sesiynau sy'n edrych ar nifer o faterion sy'n effeithio ar gynaliadwyedd, wrth i'r diwydiant a Llywodraeth Cymru gydweithio i greu dyfodol gwyrdd y gall y genedl ymfalchïo ynddo.

I ddysgu mwy am BlasCymru/TasteWales 2021, ewch i www.blascymru.com.

Am fwy o wybodaeth a chyngor gan Lywodraeth Cymru ar allforio cynhyrchion, ewch i: https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/growing-your-business/exporting

Am fwy o wybodaeth am Calon Wen, ewch i: https://www.calonwen-cymru.com/

 

 

 

 

Share this page

Print this page