Mae Bwyd Cymru Bodnant wedi cael ei enwi’n Enillydd Rhanbarthol Cymru yn y Gwobrau Manwerthwyr Siopau Fferm a Delis 2021, am drawsnewid ei fusnes sy’n gaffaeliad go iawn i gymuned gogledd Cymru.

Mae'r siop fferm deuluol yn Nyffryn Conwy yn un o naw enillydd rhanbarthol a 30 o fanwerthwyr sydd wedi cael cymeradwyaeth a ddewiswyd o restr fer o 153 o fanwerthwyr arbenigol ledled y DU.

Eleni, roedd fformat wahanol i’r gwobrau, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â The Grocer ac a noddwyd gan Bwyd a Diod Cymru a Garofalo, fel y gallen nhw dynnu sylw at y manwerthwyr sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i gwsmeriaid, y gymuned, staff a chyflenwyr trwy gydol y pandemig. Felly, enwyd yr enillwyr yn rhanbarthol yn hytrach nag yn ôl categori fel o'r blaen.

Canmolodd y beirniaid Fwyd Cymru Bodnant am ‘gamu y tu hwnt i’r canolbwyntiau rydym ni nawr yn disgwyl eu gweld o ganlyniad i Covid trwy gynnwys iechyd a lles’. Mae pwyslais gwirioneddol ar yr hyn y gallan nhw ei gynnig er budd lles eu cwsmeriaid a’u cymuned.

Wrth sôn am eu buddugoliaeth a’u llwyddiannau yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant, Richard Reynolds, “Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon, mae’n wych i ni a’n proffil. Mae wedi bod yn amser anhygoel i ni, mae llawer iawn wedi digwydd ac rydym ni wedi dysgu llawer am y busnes a'n cyflenwyr.

“Rydym ni'n defnyddio tua 81% o gynnyrch Cymreig yn y busnes. Mae gennym ni fecws mewnol ac rydym ni wedi gorfod cyflogi dau bobydd newydd i ymdopi â'r galw. Mae ein cig i gyd yn dod o ffynonellau lleol ac rydym ni'n paratoi ein byrgyrs a'n selsig i'w gwerthu yn y siop fferm a'u defnyddio yn ein bwytai.

“Fel llawer o fusnesau dros y 15 mis diwethaf, roedd yn rhaid i ni addasu’r busnes yn ystod pandemig Covid-19, agorom ni siop ar-lein a gwasanaeth dosbarthu i’r cartref a oedd yn llwyddiant ysgubol. Mae nifer yr ymwelwyr bellach yn cynyddu ac mae'n wych croesawu cwsmeriaid yn ôl i Fodnant.

“Rydym ni’n gwerthfawrogi ein cymuned, cyflenwyr a siopwyr lleol ac yn falch o gael ein cydnabod fel cwmni disglair yn ein hardal.”

Mae’r teulu Reynolds i gyd wedi ymroi’n llwyr i redeg Bodnant. Prynodd Richard a Cathryn Reynolds, gyda’u dwy ferch Olivia 24 a Tilly 20, Fwyd Cymru Bodnant ym mis Rhagfyr 2018 ar ôl iddo gael ei ddiddymu.

Gwnaethon nhw ailagor y busnes ar 1 Chwefror 2019 ar ôl adnewyddu'r siop fferm, troi'r ystafelloedd te yn fwyty, tra bod hen fwyty’r Hayloft bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill. Ar hyn o bryd maen nhw’n cyflogi 50 aelod o staff.

Mae Bodnant yn arddangos y cynnyrch crefftus gorau o Gymru, o lysiau organig i gawsiau, o gig lleol i ddanteithion wedi’u pobi a chyffeithiau blasus. Mae’r Fferm Ffwrnais o’r 18fed ganrif sydd wedi'i haddasu'n hyfryd yn gartref i siop fferm arobryn, dau fwyty, becws, cigydd, ysgol goginio a lleoliad priodasau a digwyddiadau.

Mae Bwyd Cymru Bodnant hefyd yn cynnal gweithgareddau allgyrsiol eraill fel arddangosiadau coginio ac ysgol goginio sydd hefyd wedi arwain at lyfr coginio ac mae elfennau eraill y maen nhw'n ystyried eu datblygu ymhellach.

Wrth sôn am lwyddiant Bodnant, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths: “Hoffwn longyfarch Bwyd Cymru Bodnant ar ei lwyddiant yn y Gwobrau Manwerthwyr Siopau Fferm a Delis. Mae'n wych gweld ein busnesau bwyd yn gwneud cystal ac yn cael eu cydnabod am y gwaith caled a'r ymrwymiad maen nhw wedi'i roi i adeiladu'r busnes eto, yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd.

“Mae Cymru yn lle gwych i fusnesau bwyd a diod sefydlu eu hunain a gwreiddio yn ein cymunedau. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Bodnant yn y dyfodol.”

I gael mwy o wybodaeth am Fwyd Cymru Bodnant ewch i https://www.bodnant-welshfood.co.uk.

Y cwmnïau eraill o Gymru a enwyd fel Manwerthwyr â Chymeradwyaeth yng Nghymru yn y Gwobrau Siopau Fferm a Delis oedd Babita’s Spice Deli, Abertawe; Best of Hungary, Machynlleth; siop fferm Square, Trefynwy a The Olive Tree Delicatessen, Yr Wyddgrug.

I weld y rhestr lawn o enillwyr a manwerthwyr â chymeradwyaeth rhanbarthol ewch i wefan Farm Shop & Deli website.

Share this page

Print this page