Mae cynhyrchydd mêl o orllewin Cymru yn dathlu ar ôl derbyn clod mawr yng ngwobrau Fforc Aur Great Taste.
O'r tri chynnyrch Cymreig a enillodd y brif anrhydedd o 3 seren aur yng gwobrau Great Taste 2020, dyfarnwyd y Fforc Aur o Gymru i Wenallt Hive am eu Finegr Mêl.
Cafodd ei ganmol gan y beirniaid am fod yn "brydferth, ysgafn a llachar", ac am fynd â nhw ar "daith flasus – ffrwythog a melys a sur a chyfoethog a hwyl."
Mae Wenallt Hive, sydd wedi'i leoli ger Castellnewydd Emlyn yn wenynwyr a chynhyrchwyr bwyd a chynhyrchion gofal croen o'r radd flaenaf. Ymhlith y cynhyrchion mae mêl a finegr, yn ogystal â balmau a hufen croen. Mae pob cynnyrch wedi'i wneud â llaw gartref gan ddefnyddio cynhwysion sy’n 100% naturiol.
Wrth sôn am eu llwyddiant dywedodd Marion Dunn o Wenallt Hive,
"Dim ond y cynhwysion gorau rydyn ni’n eu defnyddio ac rydyn ni’n ymdrechu i greu cynhyrchion o ansawdd premiwm yn unig. Mae ein mêl blodau gwyllt yn naturiol, yn bur ac yn amrwd. Mae'n cael ei droelli o'r diliau mêl, ei hidlo’n ysgafn a'i botelu, nid oes dim yn cael ei ychwanegu.
"Rydyn ni’n arbennig o falch o'n Finegr Mêl. Mae’n cymryd dros 18 mis i'w wneud gan ddefnyddio dim byd ond mêl Cymreig, dŵr Cymreig a'n mam finegr unigryw, mae eplesiad ysgafn yn creu finegr cynnil sy’n cael ei werthfawrogi nid yn unig am ei flas ond hefyd am ei ddaioni naturiol.
"Roedd cael cydnabyddiaeth ar ffurf gwobr 3 seren Great Taste am y finegr mafon eleni yn hyfryd ond mae mynd ymlaen i ennill y Fforc Aur o Gymru yn wych."
Wrth longyfarch Wenallt Hive ar eu llwyddiant, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru,
"Hoffwn longyfarch Wenallt Hive ar eu llwyddiannau yng Ngwobrau Great Taste eleni, yn gyntaf am ennill 3 seren ac yn awr am ennill gwobr y Fforc Aur o Gymru.
"Mae'r beirniaid y Guild of Fine Foods wedi nodi cynnyrch o'r ansawdd uchaf o bob rhan o Gymru, sy’n adlewyrchu'r gwaith caled a chreadigrwydd sy'n nodweddiadol o'n diwydiant bwyd o'r radd flaenaf."
Cydnabyddir Great Taste fel arwydd o ragoriaeth ymhlith cwsmeriaid a manwerthwyr fel ei gilydd, caiff ei drefnu gan y Guild of Fine Foods, a dyma’r cynllun achredu bwyd mwyaf uchel ei barch ar gyfer cynhyrchwyr bwyd crefftus ac arbenigol, sy’n cael ei ddisgrifio fel 'Oscars' y byd bwyd.
Ystyriwyd bod 161 o gynhyrchion eithriadol o Gymru sy'n amrywio o grefftwyr annibynnol bychain i ddosbarthwyr ar raddfa fawr yn deilwng o'r wobr fawreddog hon, gyda 115 o gynhyrchion yn ennill 1 seren, 43 yn derbyn 2 seren a 3 yn ennill y stamp aur o gymeradwyaeth gyda 3 seren.
Dewiswyd enillwyr eleni drwy gyfuniad o sesiynau beirniadu o bell a sesiynau beirniadu o bellter cymdeithasol, gan i’r cyfnod cloi gychwyn dim ond wythnos ar ôl i’r amserlen feirniadu ddechrau. Roedd hyn yn golygu bod angen ailddyfeisio proses Great Taste yn gyflym ac yn gynhwysfawr er mwyn sicrhau bod safonau beirniadu cadarn yn cael eu cynnal ac nad oedd ansawdd yr adborth yn cael ei beryglu, a’r cyfan mewn pryd i roi hwb y mae mawr ei angen i gynhyrchwyr bwyd a diod yn ystod cyfnod hollbwysig y Nadolig.
Mae Great Taste yn gwerthfawrogi blas yn anad dim, heb ystyried brandio na phecynnu. Caiff pob cynnyrch ei dynnu o'i becyn cyn cael ei flasu. Yna, mae'r beirniaid yn blasu, yn ymgynghori ac yn ail-flasu i benderfynu pa gynhyrchion sy'n deilwng o wobr 1, 2 neu 3 seren.
Mae rhestr lawn o enillwyr Gwobrau Great Taste eleni i’w gweld yn www.greattasteawards.co.uk
Am ragor o wybodaeth am Wenallt Hive a’u cynhyrchion ewch i https://www.wenallthive.wales/