Bydd nodi, deall a lliniaru risgiau yn ganolog i gynhadledd ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y gynhadledd, a gynhelir gan Raglen Twf Bwyd a Diod Cymru, yn cael ei chynnal ar 6 Chwefror yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, "Mae Cymru yn cynhyrchu rhai o'r bwydydd gorau yn y byd, ac mae ein cynhyrchwyr wedi dangos gwytnwch eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf wrth ymateb i nifer o risgiau a heriau, gan gynnwys y pandemig, Ymadael â’r UE, prisiau mewnbwn cynyddol a phroblemau cadwyn gyflenwi a achoswyd gan ddigwyddiadau geo-wleidyddol, i enwi ond ychydig. Mae’n amlwg bod yn rhaid i arweinwyr busnes yn ein sector bwyd a diod fod yn hyblyg ac yn strategol wrth ragweld ac ymateb i risgiau mewn modd sy’n eu galluogi i barhau i dyfu ac i fod yn gynaliadwy’n economaidd ac yn amgylcheddol.
Rwy’n falch iawn bod y gynhadledd hon, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at ystod o risgiau a heriau, ac yn archwilio ffyrdd ymarferol o liniaru’r risgiau hynny ac o wella gwytnwch ein busnesau bwyd a diod, sy’n hanfodol i economi Cymru yn gyffredinol.”
Caiff Rhaglen Twf Bwyd a Diod Cymru ei chyflwyno gan BIC Innovation, ar ran Llywodraeth Cymru. Wrth wneud sylw am y gynhadledd, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr BIC Innovation, Linda Grant, "Mae ein gwaith gyda busnesau bwyd a diod yn dechrau gyda deall eu hamgylchedd allanol a mewnol, gan gynnwys y risgiau y maent yn eu hwynebu – nod y Rhaglen Twf yw helpu busnesau i oresgyn heriau a’u cefnogi ar y daith tuag at dwf cynaliadwy.
Bydd cynrychiolwyr y gynhadledd yn gallu gwrando ar siaradwyr arbenigol a phaneli diwydiant sy’n canolbwyntio ar risgiau economaidd, ariannol, hinsawdd, seiber a masnachol. Ond yn bwysicach fyth, byddwn yn archwilio atebion ymarferol y gall busnesau bach a mawr eu gweithredu i helpu i liniaru a rheoli’r risgiau hynny.”
Bydd Nigel Williams, Cyfarwyddwr Cyllid Castell Howell Foods, yn siarad yn y gynhadledd: "Fel busnes cyfanwerthu bwyd mawr sy’n cefnogi ein cwsmeriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat, mae’n rhaid i ni fod yn fusnes gwydn y gall ein partneriaid masnachu ddibynnu arno. Ac mae hynny’n golygu meddwl am ‘beth allai fynd o’i le’ a sicrhau bod gennym gynlluniau wrth gefn ar waith i allu ymdopi â’r sefyllfaoedd hynny heb unrhyw darfu ar ein cwsmeriaid. Mae cymryd yr amser i ystyried risgiau yn rhan hanfodol o’n cynllunio strategol a thactegol, yn ogystal â sicrhau bod gweithdrefnau sy’n seiliedig ar risg wedi’u hymgorffori drwy gydol ein busnes. Rwy’n edrych ymlaen at rannu rhai o’n dysgu gyda’r cynrychiolwyr yn y gynhadledd.”
Cynhadledd Twf 2025 / Scale Up Conference 2025 Tickets, Iau 6 Chwefror 2025 am 09:30 | Eventbrite