• Enillydd Gwobrau Great British Food 2020 – eu Marmalêd Leim a Lafwr wedi ei Dorri â Llaw yn ennill y Categori Cyffeithiau
  • Gwerthu eu hallforion mewn 17 siop Spinneys ar hyd a lled yr Emiraethau Arabaidd Unedig, ac mewn 10 siop arall yn 2021
  • Allforio nwyddau i Neuadd Fwyd newydd yn Macau
  • Gwobr Great Taste am eu Jam Bricyll
  • Sgôr perffaith o 20 allan o 20 yng Ngwobrau Marmalêd y Byd 2020
  • Agor uned gynhyrchu newydd yn y Drenewydd
  • Set o Gyffeithiau Melys a Sawrus Moethus i’w dangos ar sianel siopa QVC
  • Gwefan e-fusnes newydd

Yn ystod y cyfnod heriol hwn i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, mae Radnor Preserves, cwmni cyffeithiau crefftus o’r canolbarth yn ehangu, wedi ennill nifer o wobrau ac wedi sicrhau cytundebau allforio yn Asia a'r Dwyrain Canol.

Mae Radnor Preserves wedi cael ei anrhydeddu yng Gwobrau Great British Food 2020 am eu Marmalêd Leim a Lafwr wedi ei Dorri â Llaw. Hwn oedd enillydd y Categori Cyffeithiau Melys, a feirniadwyd gan yr awdur a'r dylanwadwr bwyd, Rosie Birkett a ddywedodd am y cynnyrch, "Rwy'n hoff iawn o'r cyfuniad annisgwyl o lafwr a leim yn y marmalêd hyfryd hwn. Mae'r lafwr yn dod â naws hyfryd o hallt, umami sy'n wrthgyferbyniad i'r leim melys, siarp. Mae’n flasus iawn ar dost gyda digon o fenyn."

Mae Gwobrau Great British Food, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn arddangos y bwyd a'r diod crefftus gorau o bob rhan o Ynysoedd Prydain ac maen nhw’n cael eu beriniadu gan banel o feirniaid enwog, gan gynnwys The Hairy Bikers, Michel Roux Jr, William Sitwell, a Raymond Blanc.

Daw gwymon Lafwr sych y Lime Hand-Cut & Laver Marmalade gan y Pembrokeshire Beach Company ac fe'i crëwyd yn 2018 i ddathlu Blwyddyn y Môr. Enillodd hwn Fedal Aur yng Ngwobrau Marmalêd y Byd yn 2018 hefyd. 

Newyddion cyffrous pellach i'r cwmni, mae’r Marmalêd Leim a Lafwr wedi ei Dorri â Llaw sydd wedi ennill yn The Great British Food Awards 2020 ymhlith wyth blas a fydd yn cael eu lansio yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig mewn 17 o siopau moethus Spinneys, y mis nesaf. Mae'n ymuno â'u Marmalêd Oren a Datys wedi ei Dorri â Llaw, blas newydd a ddatblygwyd yn arbennig ar gyfer y farchnad; Enillwyr Gwobr Great Taste – Jam Mefus a Rhosyn El Hanout, Jam Mafon a Chardamom Mâl, Marmalêd Tri Ffrwyth Radnor wedi ei Dorri â Llaw a Marmalêd Oren Seville Traddodiadol Radnor wedi ei Dorri â Llaw, ynghyd â dau ffefryn arall – Jam Mwyar Duon a Phupur Du Ffres a Jam Riwbob a Ffigys wedi eu Carameleiddio.  Mae pedwar paled o farmalêd a chyffeithiau wedi eu harchebu ar gyfer y lansiad, a bydd Spinneys wedyn yn cyflwyno'r detholiad i 10 siop arall ar draws yr Emiraethau Arabaidd Unedig ar ddechrau 2021. Sicrhawyd y cytundeb ar ôl cyfarfod â'r prynwr i ddechrau yn nigwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol BlasCymru, ac yna eto ar ôl mynychu Gulfood, un o ddigwyddiadau masnach bwyd a diod mwyaf y byd, ar stondin Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru.

Ym mis Medi, allforiodd Radnor Preserves ddau baled o gyffeithiau a marmalêd i Macau hefyd ar gyfer Neuadd Fwyd newydd sy'n cael ei lansio yno fel rhan o ganolfan newydd yn gynnar yn 2021.

Er mwyn cwrdd â'r galw, mae'r busnes wedi symud i adeiladau mwy yn y Drenewydd yn ddiweddar.

Dywed Joanna Morgan o Radnor Preserves; "Rydym ni wrth ein boddau i dderbyn y contractau tramor hyn ar gyfer Spinneys yn y Dwyrain Canol ac ar gyfer y Neuadd Fwyd newydd ym Macau. Mae'n hwb gwych i’n hyder ni. 

Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at symud i safle newydd er mwyn ateb y galw am gynhyrchu, ac yn falch iawn o ennill y Categori Cyffeithiau yn y Great British Food Awards. Mae llawer o gwsmeriaid wedi ysgrifennu atom ni i ddweud bod ein cyffeithiau ni wedi bod yn uchafbwynt yn ystod y cyfnod clo a’r unig beth sy'n eu cadw i fynd, sef y ganmoliaeth fwyaf un."

Yn dilyn y Wobr Great British Food, yn gynharach eleni, enillodd Radnor Preserves Fedal Aur arall yng Ngwobrau Marmalêd y Byd 2020, un o wobrau mwyaf mawreddog y byd marmalêd, am y Marmalêd Bourbon Mwg, gan sgorio 20 allan o 20, y marciau uchaf am ei ymddangosiad, lliw, cysondeb, arogl a blas, wnaeth selio eu henw da fel un o wneuthurwyr marmalêd gorau'r wlad ac fel cynhyrchydd cyffeithiau crefftus cartref blaenllaw. Ac yn olaf, enillodd Radnor Preserves Wobr Great Taste 2020 am ei Jam Bricyll, rhan o ddetholiad newydd o gynhyrchion a fydd yn cael eu lansio yn 2021.

Bydd y Marmalêd Leim a Lafwr wedi ei Dorri â Llaw a enillodd Wobr Great British Food 2020, hefyd yn ymddangos mewn set o Gyffeithiau Melys a Sawrus Moethus ar QVC ym mis Tachwedd. 

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Hoffwn longyfarch Radnor Preserves ar eu holl lwyddiannau eleni. Maen nhw'n gwmni a ddylai fod yn falch iawn ohonyn nhw eu hunain ac yn enghraifft wych o'r ysgogiad a'r penderfyniad maen nhw wedi'i ddangos.

"Mae'n dangos y gall busnesau bwyd a diod Cymru barhau i ffynnu yn y cyfnod heriol hwn, ac rydym ni yma i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ni."

Dechreuodd y cwmni, a sefydlwyd gan Joanna Morgan yn 2010, wneud jamiau a marmalêd pan oedd hi’n byw mewn bwthyn heb drydan. Cymaint oedd y galw dilynol i brynu ei chynhyrchion, rhoddodd nhw ar brawf mewn marchnadoedd ffermwyr lleol gyda llwyddiant mawr ac erbyn hyn mae ganddi enw da am gynhyrchu marmalêd arloesol eithriadol. Mae gan Joanna dîm o fenywod sy'n gwneud pob cynnyrch â llaw.  Mae’r holl groen marmalêd yn cael ei dorri â llaw i roi blas gwell.  Mae pob cynnyrch yn ddi-glwten ac yn addas ar gyfer llysieuwyr a feganiaid.

Mae Radnor Preserves yn cefnogi banciau bwyd lleol ac eleni maen nhw’n arbennig o falch o gefnogi The Marmalade Trust sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd trwy roi marmalêd iddyn nhw gynnwys yn eu Hamperi Nadolig.

Mae Radnor Preserves yn creu nifer fawr o ddanteithion blasus, sy’n amrywio o’u bocsys rhodd hyfryd i’r Siytni Nadolig, sy’n cael ei wneud gyda phomgranadau a llugaeron, sydd bellach ar gael ar eu gwefan e-fasnach newydd www.radnorpreserves.com.

 

 

 

Share this page

Print this page