Mae grŵp o sefydliadau cymorth arbenigol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru wedi lansio ystod o adnoddau i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i adfer o effaith COVID-19.
Cynhyrchwyd yr adnoddau gan Grŵp Cydnerthedd COVID-19, a sefydlwyd i gefnogi cyflwyno Cynllun Adferiad COVID-19 a gafodd ei greu mewn cydweithrediad rhwng Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae Grŵp Cydnerthedd COVID-19 wedi sefydlu llinellau cymorth sy'n galluogi gweithgynhyrchwyr o bob rhan o Gymru i gael cefnogaeth wedi'i thargedu'n gyflym ac yn hawdd. Mae’r llinell cymorth yn cynorthwyo ar gynllunio busnes a chyllid, allforio, agweddau technegol ar gynhyrchu bwyd, datblygu cynnyrch newydd a datblygu masnach.
Mae'r Grŵp Cydnerthedd hefyd wedi cynhyrchu hunanasesiad Cydnerthedd y gellir ei lawrlwytho sy'n cefnogi cwmnïau i bennu eu parodrwydd i ddelio â heriau economaidd cyfredol ac yn y dyfodol. Yn dibynnu ar y cryfderau a'r gwendidau a nodwyd, cyfeirir cwmnïau at y gefnogaeth allanol berthnasol.
Mae Grŵp Cydnerthedd COVID-19, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn dwyn ynghyd ystod o sefydliadau cymorth arbenigol o bob rhan o Gymru gyda'r nod o gefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod trwy heriau cyfredol COVID-19 a chydag adferiad y sector yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyd-gadeirydd Grŵp Cydnerthedd COVID-19 a Chyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Met Caerdydd: “Yn yr amgylchedd cyfnewidiol hwn, mae’r adnoddau hyn yn rhoi cyfle i weithgynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru gael mynediad at ystod o gymorth wedi’i dargedu. Mae Grŵp Cydnerthedd COVID-19 yn cynnwys nifer o sefydliadau sydd ag ystod eang o arbenigedd arbenigol a phrofiad eang o’r diwydiant; p'un a oes angen cymorth masnachol neu dechnegol ar eich cwmni ac a ydych chi'n ficrofusnes neu'n wneuthurwr mawr, rydym yn eich annog i gysylltu. "
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Yn ystod yr amseroedd heriol hyn rydyn ni am gynnig y gefnogaeth orau i’r sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae Grŵp Cydnerthedd COVID-19 wedi datblygu nifer o fentrau i gefnogi’r sector bwyd a diod yng Nghymru a dim ond y dechrau yw’r llinellau cymorth a hunanasesu cwmnïau. ”
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Andy Richardson: “Mae’r gefnogaeth cydnerthedd busnes a gyhoeddwyd heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni Cynllun Adferiad COVID-19 a gafodd ei greu yn ddiweddar mewn partneriaeth rhwng Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn annog busnesau o bob maint i ymgysylltu â'r gefnogaeth sydd ar gael yn ein hymgais i ddatblygu cydnerthedd busnesau bwyd a diod Cymru ar yr adeg gritigol hon yn ein hanes."
Mae Grŵp Cydnerthedd COVID-19 yn cynnwys yr aelodau canlynol:
- Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch BIC Innovation
- Cywain - Menter a Busnes
- Rhaglen Fasnach Bwyd a Diod Cymru
- Arloesi Bwyd Cymru (Canolfan Fwyd Cymru, Canolfan Technoleg Bwyd a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE)
- Lantra Cymru / Sgiliau Bwyd Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am linell gymorth Grŵp Cydnerthedd COVID-19 a hunanasesu cwmni, ewch i: Canolfannau arloesi | Business Wales - Food and drink