Mae adnodd newydd wedi cael ei lansio gan Cywain i helpu siopwyr sydd wedi’u cyfyngu gan bandemig y coronafeirws i gael mynediad at fwyd a diod gwych o Gymru drwy glicio botwm.

Mae’r cyfyngiadau ar symud a gyflwynwyd yn yr ymdrech i atal COVID-19 rhag lledaenu’n golygu mai’r cartref yw’r stryd fawr newydd, ac mae siopwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio cynnyrch a gwasanaethau sydd ar gael i ni ar-lein ledled Cymru.

Gyda'r map cynhyrchwyr a ddyluniwyd yn arbennig, gall siopwyr ddefnyddio’r bysellfwrdd i ddod o hyd i amrywiaeth wych o fwyd a diod o Gymru gan fusnesau lleol sy’n cynnig gwasanaeth danfon i’r cartref, gan gefnogi’r busnesau hynny.

Trwy fewngofnodi ar https://menterabusnes.cymru/cywain/ein-cynhyrchwyr/ gall siopwyr gael mynediad i fap sy'n dangos yn fanwl at nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod rhagorol o bob rhan o Gymru sy'n gallu darparu siop ar-lein a gwasanaeth danfon.

Paratowyd y map gan Cywain - rhaglen sydd wedi’i hymrwymo i ddatblygu busnesau micro a busnesau bach a chanolig newydd a phresennol yn sector bwyd a diod Cymru.

Dywedodd Alex James, Arweinydd Tîm Marchnata a Digwyddiadau Cywain: "Mae Cywain yn falch o weithio gyda mwy na 200 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru, sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod yn cael ein bwydo gyda rhai o’r bwydydd a’r diodydd mwyaf blasus yn y DU. Efallai nad oes modd eu gweld nawr, ond maen nhw yma – yma i ni, ar-lein."

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, gwelwyd cynnydd mewn siopa ar-lein. Ond yn ôl  Mintel *,  cwmni ymchwil i'r farchnad fyd-eang, yn nyddiau cynnar yr achosion o goronafeirws, roedd y twf yn bennaf oherwydd bod gwasanaeth danfon 'basgedi mawr' i'r cartref yn gyfleus.

Fodd bynnag, wrth i’r angen am hunan-ynysu gynyddu, mae Mintel yn credu y bydd siopa ar-lein yn newid o fod yn ddewis i fod yn anghenraid, ac y bydd yn rhoi straen sylweddol ar logisteg.

Felly, mae Mintel yn credu y bydd twf mewn 'prynu'n lleol' gyda busnesau’n dod yn ‘systemau cefnogi' yn y gymuned – a’u rôl yn ymestyn i 'sicrhau bod pawb yn derbyn gofal ac yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt.'

Meddai Alex James: "Mae'r sefyllfa bresennol wedi gwneud i lawer ohonom feddwl, ail-werthuso a gwerthfawrogi'n fawr yr hyn sy'n bwysig i'n teuluoedd ac i ninnau. I lawer, amseroedd bwyd yw'r un achlysur cyson yn nhrefn ddyddiol newydd ein  cartrefi.

Mae cefnogi ein cynhyrchwyr lleol gwych nid yn unig yn ffordd o sicrhau ein bod yn cael bwyd a diod blasus, safonol ac angenrheidiol, ond mae'n helpu ein cymunedau hefyd. Felly, rydym yn annog pobl i “fanteisio ar fusnesau lleol!”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Rydyn ni'n byw mewn cyfnod eithriadol, ac fel cymunedau, mae angen i ni gyd-dynnu a chefnogi'n gilydd – o'r cynhyrchydd i'r defnyddiwr.

Mae Cymru yn wlad fach ond yn wydn a dyfeisgar. Mae'r priodoleddau hyn yn cael eu nodweddu gan ein cynhyrchwyr bwyd a diod gwych sy'n dyfeisio bob math o ffyrdd i gadw eu busnesau i fynd a llenwi’n cypyrddau.

Efallai bod ein symudiadau y tu allan i'n cartrefi yn gyfyngedig, ond nid felly ein byd ar-lein. Mae nifer o gynhyrchwyr Cymreig yn barod ar ben arall y ffôn neu trwy un clic i ddanfon nwyddau i stepen ein drws”.

 

 

Share this page

Print this page