Mae dros 165 o ysgolion cynradd ledled Cymru wedi bod yn mwynhau Pecyn Syniadau Gweithgareddau Ysgol newydd a grëwyd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Lansiwyd y pecyn, sy'n annog disgyblion i ystyried ffactorau amgylcheddol sy'n effeithio ar ein cadwyni bwyd, fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru (11 - 15 Tachwedd).
Canolbwyntiodd Wythnos Hinsawdd Cymru eleni ar y thema "addasu" yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, a rhoddodd gyfle i ddysgu ac archwilio atebion arloesol. Roedd hefyd yn cynnwys ystod eang o ddigwyddiadau sy’n rhedeg trwy gydol yr wythnos, ar-lein ac yn y cnawd.
Roedd yr wythnos yn hyrwyddo gwaith cadarnhaol a chymwysterau cynaliadwyedd y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan annog sgyrsiau ynghylch addasu i'n hinsawdd sy'n newid; ochr yn ochr â manteision amgylcheddol a chymdeithasol cyrchu yn lleol.
Roedd y Pecyn Gweithgareddau newydd a ddyluniwyd fel adnodd i athrawon yn annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y sgwrs bwysig hon a chodi ymwybyddiaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae'r pecyn yn cynnwys gweithgareddau difyr a phryfoclyd yn seiliedig ar wastraff bwyd, ailgylchu a milltiroedd bwyd gyda dolenni defnyddiol i adnoddau ychwanegol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae Wythnos Hinsawdd Cymru eleni yn canolbwyntio ar Addasu, gan roi cyfle gwerthfawr i'n dysgwyr ymgysylltu â'r thema hon a'i harchwilio. Mae codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd, a chefnogi dysgwyr i ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned yn rhannau allweddol o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae adnoddau fel y Pecyn Gweithgareddau hwn yn ffordd wych o helpu dysgwyr i gael y sgyrsiau brys ac angenrheidiol hyn."
Gofynnodd 180 o athrawon o dros 165 o ysgolion am gopi o’r Pecyn Gweithgareddau Wythnos Hinsawdd Cymru newydd i'w cefnogi i gyflwyno sesiynau addysgiadol ac atyniadol yn yr ystafell ddosbarth ar y mater pwysig hwn.
Cefnogodd tîm Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales y gwaith hwn, gyda nifer o ymweliadau ysgol drwy gydol yr wythnos.
Dywedodd Manon Owen, Prifathrawes Ysgol Llanbedrog, un o'r ysgolion a fynychodd weithgareddau’r rhaglen yn ystod yr wythnos:
“Diolch am y cyfle i godi ymwybyddiaeth o darddiad y bwydydd rydym yn eu bwyta ac i atgoffa'r disgyblion o effaith milltiroedd bwyd ar newid hinsawdd. Diddorol odd clywed syniadau a barn y disgyblion am y newidiadau bychan gallwn eu gwneud yn ein bywydau bob dydd fydd yn cyfrannu at leihau newid hinsawdd. Mwynhaodd pawb y profiad gan ymateb yn gadarnhaol i’r cyflwyniad ac yn frwdfrydig i'r gweithgareddau difyr.
Dywedodd Nia Griffith, Rheolwr Ymgysylltu Gogledd Cymru, Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales;
"Rydym yn falch iawn o glywed sut mae athrawon a myfyrwyr fel ei gilydd wedi mwynhau datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd trwy gyflawni gweithgareddau a thasgau sydd newydd eu cynnwys yn y Pecyn Gweithgareddau sydd newydd ei ddatblygu.
Mae addysgu myfyrwyr yn rhan bwysig o’m rôl ac mae'n wych gweld y Pecyn hwn yn adnodd gwerthfawr i athrawon - gan helpu i annog a hwyluso'r sgyrsiau ynghylch addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth am y gwaith ehangach a wneir gan y tîm i dynnu sylw at y cyfleoedd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru."