Mae ffermwr defaid o Ynys Môn yn gobeithio denu cwsmeriaid sy’n ymwybodol o’u hiechyd drwy lansio diodydd llaeth defaid â blas.

Llaeth Medra Milk yw menter newydd Huw Jones, sydd ymysg nifer cynyddol o ffermwyr Cymru sy’n ymuno â’r sector llaeth defaid.   

Yn ôl Huw, “Mae’r farchnad fyd-eang ar gyfer llaeth defaid yn tyfu, yn enwedig wrth i bobl ymchwilio i fathau gwahanol neu amgen o laeth. Rwy’n awyddus iawn i dargedu pobl o fyd chwaraeon a’r rhai sy’n ymwybodol iawn o’u hiechyd.

“Mae llaeth defaid yn uchel mewn fitaminau B6 a B12, yn ogystal â haearn, sinc ac asidau amino hanfodol. Mae hefyd yn cynnwys llawer o galsiwm, protein ac egni;  gan fod y globylau braster yn llai na’r rhai mewn llaeth gwartheg, gall ei gwneud yn haws ei dreulio ac yn addas i bobl na allant oddef llaeth buwch.”

Ysbrydolwyd Huw, sy’n ffermio yn Llanerchymedd, i ddechrau godro defaid yn dilyn rhaglen Cyfnewid Rheolaeth Cyswllt Ffermio i Ffrainc yn 2019 cyn ymuno â grŵp Agrisgôp y llynedd gyda chynhyrchwyr llaeth defaid eraill.

Dechreuodd drwy brynu 50 oen benyw Friesland x Lacaune – bridiau sy’n addas iawn ar gyfer cynhyrchu llaeth – ac mae eisoes wedi mwy na dyblu maint ei ddiadell.

Mae parlwr godro newydd, a fewnforiwyd o Wlad Groeg, newydd gael ei osod a gobaith Huw yw y bydd yn godro 200 o ddefaid erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae Huw hefyd yn cyflenwi llaeth hefyd i’r cynhyrchwr caws lleol, Cosyn Cymru, ond dewisodd greu diodydd llaeth â blas ar gyfer ei fenter ei hun, sy’n cael eu cynhyrchu yn y Ganolfan Dechnoleg Bwyd yn Llangefni – a’i helpodd i ddatblygu ei gynnyrch hefyd.

Cafodd Huw help i sefydlu ei fenter laeth â blas gan Cywain – prosiect Menter a Busnes sy’n cefnogi datblygiad busnesau sydd â’u bryd ar dyfu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

“Mae Cywain wedi bod yn ardderchog, maen nhw wedi fy helpu gyda brandio a marchnata yn ogystal â meysydd fel llif arian, prisio a chael mynediad i farchnadoedd newydd.”

Yn ôl Nerys Davies, Rheolwr Datblygu Cywain, “Mae cynnyrch llaeth â blas newydd Llaeth Medra Milk yn gyffrous iawn. Ystyrir llaeth defaid yn llesol iawn gan rai, ac rwy’n siŵr y bydd y blasau mefus a siocled yn temtio’r rheini sy’n dymuno trio rhywbeth newydd, a hybu eu cymeriant maethol hefyd.”

Mae diodydd Llaeth Medra Milk ar gael mewn nifer cynyddol o siopau yn cynnwys Blas ar Fwyd. Mae Huw yn gobeithio y bydd ansawdd hufennog y llaeth yn denu siopau coffi hefyd, a’i fwriad yw cyflenwi llaeth defaid i gaffis.

Yn ôl Huw, “Dechrau â’r blas Siocled wnaethom ni, ac ry’n ni newydd ryddhau’r fersiwn blas mefus. Yn y pen draw, rwy’n gobeithio symud y gwaith cynhyrchu i’r fferm, ac rwy’n gweithio ar y cyd â chynhyrchwyr llaeth defaid eraill hefyd, fel bod cyflenwad o laeth drwy gydol y flwyddyn.”

Yn fyd-eang, mae’r farchnad llaeth defaid werth £23bn a chaiff ei ddefnyddio i greu cynnyrch gwerth uchel amrywiol o gaws i laeth powdr fformiwla ar gyfer babanod.

Gan weithio gyda phrosiect Cyswllt Ffermio Menter a Busnes, mae Llywodraeth Cymru’n ystyried dichonoldeb sefydlu diwydiant llaeth defaid yng Nghymru sy’n cael ei arwain gan y farchnad, yn wydn ac yn canolbwyntio ar gynnyrch gwerth uchel sy’n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer marchnadoedd newydd yn dilyn Brexit. 

Yn ôl Huw, “Mae’n gyfnod cyffrous, gyda’r farchnad llaeth defaid yn anferth, a hoffwn fynd i astudio’r systemau yn Seland Newydd ac Israel lle mae’r diwydiant llaeth defaid yn sylweddol.”

Yn ôl Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a Threfnydd, “Rydym yn chwilio am ffyrdd newydd i ffermwyr Cymru allu arallgyfeirio o safbwynt marchnadoedd ac ychwanegu gwerth i’w cynnyrch yn barhaus.

“Mae Llaeth Medra Milk yn enghraifft ardderchog o arloesedd mewn sector allai fod yn ychwanegiad gwerthfawr a chynaliadwy i’n diwydiant bwyd a ffermio, er ei bod hi’n ddyddiau cynnar yma yng Nghymru, ac yn gynnyrch newydd cyffrous i ddefnyddwyr.” 

 

 

Share this page

Print this page