Yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod Crempog (13eg Chwefror), mae siopwyr yn cael eu hannog i roi mêl Cymreig ar eu ffefryn traddodiadol.
Ymhlith y seigiau mwyaf amlbwrpas a syml, gall crempogau – poeth neu oer – gael eu bwyta mewn gwahanol ffyrdd, ond beth allai fod yn fwy boddhaol na thopin o fêl Cymreig moethus?
Wrth i Ddiwrnod Crempog agosáu, mae grŵp o gynhyrchwyr a manwerthwyr mêl Cymreig wedi dod at ei gilydd i roi’r cyffyrddiad personol i siopwyr gyda sesiynau blasu mêl Cymreig a hyrwyddiadau mewn siopau SPAR annibynnol ledled gogledd Cymru.
Bydd siopwyr yn clywed yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr mêl Cymreig am y sgiliau a’r angerdd sy’n gwneud cynhyrchion mor foethus a naturiol, a sut maen nhw’n cyd-fynd yn berffaith â chrempogau – unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Bydd cwsmeriaid hefyd yn cael eu hannog i rannu eu profiadau gan ddefnyddio'r hashnodau #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste.
Mae’r cynhyrchwyr yn aelodau o Glwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru, rhan o fenter Clystyru Llywodraeth Cymru sy’n meithrin cysylltiadau rhwng busnesau yn y sector. Mae’r Clwstwr Mêl wedi cydweithio â Rhaglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru i hyrwyddo mêl Cymreig i amrywiaeth o fanwerthwyr. Mae aelodau’r clwstwr sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau Diwrnod Crempog yn cynnwys Gwenynfa Pen y Bryn Apiary, The Snowdonia Honey Co., a Bee Welsh Honey Company.
Dywedodd Haf Wyn Hughes, Arweinydd Clwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru, “Mae Clwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru wedi ymrwymo i godi proffil a chynhyrchu mêl Cymreig, ac rydym yn gwneud hynny drwy ddod â gwenynwyr sydd â gweledigaeth fusnes a’r uchelgais i dyfu at ei gilydd.
“Rhan bwysig o waith y Clwstwr Mêl yw chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo mêl Cymreig, ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda rhaglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru i ymgysylltu â manwerthwyr i arddangos cynnyrch yn eu siopau
a chael pobl i feddwl am brynu mêl Cymreig. Mae o hyd ryw ‘su’ o gwmpas Diwrnod Crempog – felly dyma’r diwrnod delfrydol!”
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Mae’n wych gweld cynhyrchwyr mêl Cymreig a manwerthwyr annibynnol yn cymryd rhan yn y fenter hon i arddangos eu cynnyrch – ac mae Diwrnod Crempog yn gyfle gwych i estyn allan i ddarpar gwsmeriaid newydd.
“Mae’r rhaglen Clwstwr yn bwysig o ran dod â busnesau sy’n tyfu ac o’r un anian at ei gilydd i adeiladu cysylltiadau a manteisio ar gyfleoedd. Mae’r Clwstwr Mêl wedi cydweithio â Rhaglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, sy’n gweithio gyda manwerthwyr i ddatblygu mentrau a helpu i gynyddu cyfran y farchnad.”
Dywedodd Carys Edwards o Gwenynfa Pen y Bryn Apiary, “Rydym yn ddiolchgar i’r Clwstwr Mêl am roi’r hyrwyddiad at ei gilydd ar gyfer Diwrnod Crempog. Edrychwn ymlaen at weithio gyda holl siopau SPAR ac ymgysylltu â siopwyr lleol i ddarganfod sut byddan nhw’n gweini eu mêl ar eu crempogau.”
Dywedodd Shane Jones o’r Bee Welsh Honey Company, “Ni allwn feddwl am achlysur gwell na Diwrnod Crempog i roi cynnig ar rywbeth newydd gyda’n Bee Welsh Honey blasus. Mae sicrhau bod ein cynnyrch ar gael mewn amrywiaeth o siopau SPAR yn gyfle cyffrous iawn i ni, ac edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan yn yr hyrwyddiad gwych hwn.”
Nid ar Ddiwrnod Crempog yn unig y gallwch brofi mêl; bydd mêl Cymreig yn parhau i gael lle amlwg yn y siopau gan fod yr unedau arddangos wedi’u dylunio i’w defnyddio drwy’r flwyddyn i fanwerthwyr arddangos eu hamrywiaeth o fêl Cymreig.
Dywedodd Alun Allcock o The Snowdonia Honey Co, “Rydym ni yn The Snowdonia Honey Co yn falch iawn o weithio gyda siopau SPAR annibynnol ledled gogledd Cymru i hyrwyddo ein Mêl Cymreig blasus. Mae’n gyfle gwych i annog siopwyr i ddathlu Diwrnod Crempog a darganfod rhywbeth newydd yn eu siop leol.”
Dywedodd Gwyn Williams, perchennog SPAR Tywyn, “Mae’n wych cael gweithio gyda chyflenwyr mêl Cymreig ar gyfer yr hyrwyddiad hwn. Rydym bob amser yn ceisio dod â phethau newydd a chyffrous i'n siopwyr ffyddlon.”
“Mae cynnyrch Cymreig yn allweddol i wneud ein busnes yn ddeniadol i’n cwsmeriaid lleol gwerthfawr. Beth allai fod yn well na mêl Cymreig i ddathlu Diwrnod Crempog?” meddai Mark Prust – SPAR Llanfyllin.
Mae Elfed Roberts, sy’n rhedeg siopau SPAR yn Nefyn, Llanbedrog, ac Abersoch, yn credu bod cydweithio ar hyrwyddiad o'r fath yn bwysig.
Dywedodd, “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Clwstwr Mêl a chyflenwyr mêl Cymreig ar gyfer yr hyrwyddiad hwn ar Ddiwrnod Crempog eleni.”
Bydd y man arddangos ar gyfer y mêl Cymreig hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio siopwyr at nwyddau Cymreig eraill yn y siop sy’n gysylltiedig â dathliadau Diwrnod Crempog, gan gynnwys wyau, llaeth, a nwyddau becws.
Dywedodd rheolwr cyffredinol SPAR Llanrwst a Phenmaenmawr, Phil Griffiths, “Mae ein siopau yn eiddo i deulu lleol ac wrth galon y gymuned. Mae parhau i ychwanegu cynnyrch newydd a diddorol yn ein helpu i fod yn berthnasol i’n cwsmeriaid gwerthfawr. Mae mêl Cymreig a chrempogau yn ffordd wych o ennyn diddordeb siopwyr, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr hyrwyddiad.”
Cytunodd Conrad Davies o SPAR Pwllheli a Dolgellau, “Mae’n wych gweithio gyda’r Clwstwr Mêl a chyflenwyr mêl Cymreig ar yr hyrwyddiad hwn ar gyfer Mêl / Diwrnod Crempog. Rydym wir yn gwerthfawrogi gweithio gyda chyflenwyr lleol, ac mae’n un o’r pethau sy’n gwneud ein busnes yn wahanol ac yn helpu i ddenu ein cwsmeriaid yn ôl.”