Mae cwmnïau bwyd a diod Cymru yn parhau i wneud busnes a hyd yn oed yn chwilio am farchnadoedd allforio newydd wrth iddyn nhw fynd ar ymweliad rhithiol i Awstralia a Seland Newydd i ddatblygu masnach yr wythnos hon (22-26 Mehefin).
Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i gynhyrchwyr bwyd a diod trwy gynnig cyfle unigryw iddyn nhw gwrdd â darpar brynwyr, dosbarthwyr a mewnforwyr trwy ddefnyddio cyfleusterau fideo gynadledda er mwyn datblygu a chryfhau perthnasoedd busnes, masnach ac allforio.
Mae gan y cwmnïau sy’n cymryd rhan amserlen fanwl o apwyntiadau ar gyfer yr wythnos sy’n cynnwys gwneud cyflwyniadau i ddosbarthwyr rhyngwladol a manwerthwyr pwysig. Mae samplau o gynhyrchion gan y cwmnïau dan sylw eisoes wedi cael eu hanfon dramor ac yn ystod y cyfarfodydd cynadledda fideo bydd cyfle i flasu’r cynhyrchion.
Y cwmnïau sy’n cymryd rhan yw Brand Hatchers Cyf., Halen Môn, Wholebake, Bragdy Mŵs Piws Cyf., Distyllfa Penderyn a Volac International Cyf.
Mae Alison Lea-Wilson o Halen Môn yn un o’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan yn yr ymweliad rhithiol,
“Dyma’r ail Ymweliad Masnach rhithiol mae Halen Môn wedi bod yn rhan ohono. Mae’r un cyntaf, i Singapôr, wedi arwain at bartneriaeth newydd ac archeb am baled.
“Mae’n wych bod ymgynghorwyr o’r gwledydd yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar bwynt gwerthu unigryw ein cynhyrchion a’n paru ni â darpar ddosbarthwyr a mewnforwyr.
“Yr wythnos hon yw’r tro cyntaf inni wneud cyflwyniad ar-lein a chynnal sesiwn blasu, a ninnau eisoes wedi anfon bocsys o samplau at bawb sy’n dod i’r cyfarfod.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid am ddod o hyd i ffordd arloesol, cyffrous a diogel o gysylltu â phrynwyr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y canlyniadau.”
Ychwanegodd Dan Rush, Rheolwr Gwerthiant Rhyngwladol Wholebake,
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am roi’r cyfle hwn inni, ac am yr apwyntiadau niferus ac amrywiol maen nhw wedi llwyddo i’w trefnu ar ein cyfer.
“Rwy’n gyffrous iawn i weld sut fydd y cyfan yn gweithio ac yn edrych ymlaen at ymuno â’r cyfarfodydd briffio sy’n ymwneud â’r farchnad a siarad â darpar brynwyr – a gobeithio taro ambell fargen.”
Yn y gorffennol mae cwmnïau bwyd a diod Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi bod yn teithio i’r gwledydd hyn i gwrdd â phrynwyr a dosbarthwyr wyneb yn wyneb ar gyfer cyfarfodydd briffio sy’n ymwneud â’r farchnad, samplo, cyfleoedd i rwydweithio ac ymweliadau â siopau.
Mae amlygu marchnadoedd newydd yn dod â hyd yn oed mwy o gyfleoedd i’r busnesau hyn nid yn unig i arddangos eu cynnyrch safnonol o gwmpas y byd, ond hefyd i greu rhagor o refeniw a chynyddu elw.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn credu, gydag enw da a tharddiad Cymru, bod platfform cryf ar gyfer twf ar gael a fydd o fudd i bawb.
Dywedodd, “Mae hon yn ffordd wych i nifer o’n cwmnïau bwyd a diod ddangos eu cynhyrchion a’u gallu, a rhannu gwybodaeth mewn ffordd sy’n gweddu i’r hinsawdd bresennol ar yr un pryd.
“Yn ystod pandemig byd-eang Covid-19, nid yw teithio rhyngwladol bellach yn opsiwn ymarferol i’n hallforwyr - fodd bynnag, mae ymweliadau rhithwir masnach fel y rhain yn cynnig dewis amgen sy’n gynyddol ddeniadol i gwmnïau mawr nad sy’n medru gadael eu gwledydd, ond yn parhau i fod yn benderfynol o dynnu sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol at eu cynhyrchion.”
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, “Mae allforion ar gyfer y sector hon wedi cynyddu yn ystod y degawd diwethaf ac yn parhau i dyfu.
“Rwy’n hynod o falch ein bod ni’n cefnogi’r grŵp hwn o gynhyrchwyr i archwilio marchnadoedd newydd drostynt eu hunain a datblygu rhagor o gysylltiadau gyda busnesau rhyngwladol yn y modd hwn.”
Yn 2019, Awstralia oedd y 10fed marchnad allforio fwyaf ar gyfer allforion bwyd a diod o’r DU, ac roedden ni hefyd yn allforio gwerth £1.5 biliwn o nwyddau a gwasanaethau i Seland Newydd. Yn 2018, ynghyd â Singapôr, Awstralia oedd y farchnad oedd yn tyfu gyflymaf ar gyfer allforion bwyd a diod o’r DU, gyda gwerthiant jin a diodydd ysgafn yn arwain y ffordd.
Mae sector bwyd a diod Awstralia yn aeddfed ac wedi hen ennill ei blwyf, gyda’r gyfran fwyaf yn y gwasanaeth bwyd masnachol, gyda dros 70,000 o safleoedd .
Dyma’r ail Ymweliad Datblygu Masnach i Lywodraeth Cymru ei gefnogi. Mae’n dilyn digwyddiad positif cyntaf â Singapôr, a greodd ddiddordeb ac yn bwysicach fyth, bartneriaethau a gwerthiant ar gyfer cwmnïau bwyd a diod o Gymru.