Mae Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, wedi cyrraedd ac wedi rhagori ar ei garreg filltir o 100 aelod, yn dilyn cynnydd o 56 y cant mewn ceisiadau ers mis Mawrth 2020 a dechrau argyfwng COVID-19.

Mae’r Clwb Allforio, a gafodd ei sefydlu yn 2016, yn dod â busnesau bwyd a diod ynghyd wrth iddynt geisio allforio rhagor o nwyddau a dod o hyd i farchnadoedd newydd.

Mae mwy na 30 o ddigwyddiadau ar-lein wedi cael eu cynnal drwy’r Clwb Allforio yn ystod y flwyddyn diwethaf, ac mae ymweliadau rhithwir wedi cael eu cynnal â 12 marchnad o amgylch y byd, gan gynnwys Singapôr, Awstralia, y Swistir a Chanada.

Y 100fed aelod i ymuno â’r Clwb Allforio oedd Tan y Castell yn Sir Benfro, sydd am rannu eu picau ar y maen â gweddill y byd. Dywedodd y perchennog, Paul Mear: “Rydyn ni’n falch o fod yn un o’r poptai uchaf ei barch yng Nghymru. Rydyn ni’n gwerthu’r picau ar y maen mwyaf poblogaidd yng Nghymru – ac mae nifer o’n cynhyrchion wedi ennill gwobrau.  

“Rydyn ni’n gweld picau ar y maen fel un o gyfrinachau mwyaf Cymru – cyfrinach mae angen ei rhannu â’r byd. Bydd bod yn rhan o’r Clwb Allforio, a gweithio gyda busnesau o’r un meddylfryd a derbyn cymorth gan Fwyd a Diod Cymru, yn ein helpu i wneud hyn.”

Bydd aelodau o’r Clwb Allforio yn elwa ar y canlynol:

•         Mynediad at linell cymorth technegol y Clwb Allforio

•         Hyfforddiant un-i-un pwrpasol ar allforio

•         Rhwydweithio gyda chymheiriaid ac arbenigwyr technegol

•         Mynediad at gyngor arbenigol mewn meysydd fel arian, contractau  rhyngwladol,  eiddo deallusol,             logisteg, morgludo o dogfennu

•         Cydweithredu ag aelodau eraill o’r clwb ar gyfleoedd sydd o fudd i bawb

•         Cyfleoedd rhwydweithio chwarterol i ddysgu mwy oddi wrth allforwyr profiadol

•         Mynediad at amrediad eang o raglenni cymorth allforio

Mae Halen Môn hefyd yn aelod o Glwb Allforio Bwyd a Diod Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr,  Alison Lea-Wilson: “Rydyn ni wedi bod yn aelod o’r Clwb Allforio ers ei ddechrau, ac wedi cael y cymorth a’r arbenigedd a roddwyd gan y staff a busnesau’n amhrisiadwy.

“Yn ystod y flwyddyn diwethaf rydyn ni wedi atgyfnerthu ein sail gwsmeriaid drwy fanteisio ar bob cyfle i ymweld yn rhithwir â gwledydd mor amrywiol â Gwlad Belg a De Korea, Singapôr a’r Ffindir, i gyd drwy’r Clwb Allforio.

“Nid ar gyfer y rhai gwangalon neu’r rhai nad oes ganddynt ddigon o adnoddau mae allforio, ond mae’r cymorth a roddir gan y Clwstwr Allforio yn ei wneud yn brofiad pleserus a llwyddiannus.”

Yn dilyn Tan y Castell mae dau fusnes arall wedi ymaelodi â’r Clwb Allforio – gyda Bragdy Sandstone yn Wrecsam a Bragdy Boss yn Abertawe yn ymuno, wrth iddynt geisio cynyddu eu gwerthiannau dramor.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae’n newyddion gwych bod y Clwb Allforio nid yn unig wedi cyrraedd y garreg filltir o 100 aelod, ond wedi mynd heibio iddi.

“Mae COVID-19 ac ymadawiad y DU â’r UE wedi dangos bod angen i fusnesau bwyd a diod archwilio amrediad o sianeli a marchnadoedd i gynyddu eu cadernid, ac mae’r Clwb Allforio wedi bod yn hanfodol wrth helpu aelodau i oresgyn yr heriau hynny a cheisio cyfleoedd newydd.

“Mae’r ffaith bod nifer yr aelodau wedi cynyddu yn ystod blwyddyn sydd wedi bod yn hynod anodd yn dangos bod busnesau Cymru yn parhau i edrych tuag allan a’u bod yn awyddus i wneud busnes gyda gweddill y byd.”

Mae’r Clwb Allforio yn rhan o Raglen Clystyrau Bwyd a Diod Cymru, gyda chlystyrau yn rhan allweddol o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r sector bwyd a diod yng Nghymru. 

Share this page

Print this page