Mae'r Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) wedi penodi Pete Robertson fel Cyfarwyddwr Dros Dro FDF Cymru.

Mae FDF Cymru yn ymgysylltu â diwydiant Bwyd a Diod Cymru, gan ddefnyddio cefnogaeth reoleiddiol ac arbenigedd gwyddonol i ddarparu ystod o fuddion ymarferol, gweithredol a strategol i aelodau.

Blaenoriaeth Pete dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf fydd darparu cefnogaeth ymarferol i fusnesau bwyd a diod Cymru, p'un a yw hynny'n sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru neu gymorth ymarferol i gael gafael ar fesurau cymorth busnes.

Ar ôl treulio dros 25 mlynedd yn gweithio ledled Cymru yn niwydiant gweithgynhyrchu Cymru, mae gan Pete ddealltwriaeth ac angerdd am Fwyd a Diod Cymru.

Mae croeso i chi gysylltu â Pete yn uniongyrchol ar pete.robertson@fdf.org.uk neu ffonio 07891 657220 os ydych chi am drafod unrhyw beth neu sut y gallai fod o gefnogaeth i'ch busnes.

Mae'r FDF yn gymdeithas fasnach sy'n gweithio a chynrychioli’r gymuned sy'n cynhyrchu a mewnforio bwyd a diod. Ariennir yr FDF trwy danysgrifiad aelodaeth ac mae'n cynrychioli dros 300 o gwmnïau ledled y DU. Mae ganddynt swyddfeydd yn Llundain a Chaeredin. Mae ein haelodau'n amrywio o frandiau byd-eang i fusnesau bach a chanolig uchelgeisiol sy'n tyfu, i unig fasnachwyr ac rydym yn cynrychioli cwmnïau o bob sector o'r diwydiant.

Mae'r FDF yn darparu diweddariadau a chyngor i gwmnïau trwy gydol cyfnod COVID-19 ac mae bellach yn cynnig cefnogaeth estynedig Covid-19 ar ffurf: -

1. Gwybodaeth i aelodau a gwasnaeth ateb cwestiynau

2. Aelodaeth dros dro Covid-19

3. Llinell gymorth ymholiadau – agored i’r rhai sydd ddim yn aelodau

Am ragor o wybodaeth ar sut i gael gafael ar y gwasanaethau hyn os ydych yng Nghymru, cysylltwch â Pete yn uniongyrchol neu ewch i https://www.fdf.org.uk/fdf-covid19-support.aspx am fwy o fanylion.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Share this page

Print this page