Mae prentisiaid Budweiser wedi cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a thrafod manteision mynd yn brentis gyda’r cwmni. |
Yn ystod eu hymweliad â’r Senedd yn ystod Wythnos Prentisiaid Cymru, cafodd 10 o brentisiaid y cwmni bragu gyfle i siarad am eu gwaith gyda’r cwmni ar ei safle ym Magwyr ynghyd â’u gobeithion at y dyfodol. Mae Wythnos Prentisiaid Cymru yn tynnu sylw at waith caled ac ymroddiad prentisiaid a chefnogaeth ac ymrwymiad eu cyflogwyr. Yn gynharach wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn buddsoddi £366m dros y tair blynedd nesaf i gynnal 125,000 o brentisiaethau o bob oed ledled Cymru dros gyfnod y llywodraeth hon. Un o brif ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu. Bydd y buddsoddiad yn helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei haddewid i sicrhau bod o leiaf 90% o bobl 16-24 oed Cymru mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant erbyn 2050, a chau’r bwlch rhwng cyfraddau gwaith Cymru a’r DU erbyn 2050. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae hi wedi bod yn bleser cwrdd â phrentisiaid Budweiser ym Magwyr a gweld eu brwdfrydedd a’u hymroddiad i wireddu eu potensial trwy eu prentisiaethau “Mae’r diwydiant bwyd a diod yn hollbwysig i economi Cymru a’n huchelgais yw cynyddu gwerth y sector i £8.5bn erbyn 2025. Mae prentisiaethau’n allweddol i ni allu taro’r nod hwn a rhoi cyfleoedd cyffrous i bobl o bob oed ddysgu ac ennill cyflog yr un pryd. “Dwi newydd lansio’r ymgyrch newydd Gweithlu Bwyd Cymru. Diben yr ymgyrch yw hyrwyddo’r amrywiaeth o rolau o fewn y sector, gan gynnwys prentisiaethau, a gwn fod Budweiser yn cefnogi’r ymgyrch honno. “Dwi’n dymuno’r gorau posib i bob prentis yn y Budweiser Brewing Group, nawr ac yn y dyfodol.” Dywedodd Benjamin James sy’n Brentis gyda’r Budweiser Brewing Group, “Mae’n wych cael bod yn rhan o gynllun prentisiaid y Budweiser Brewing Group ac rwy’n falch o fod yn un o’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr fydd yn helpu i lunio dyfodol ein diwydiant.” Dywedodd Rheolwr Bragdy Magwyr y Budweiser Brewing Group, Lloyd Manship: “A finne wedi dechrau fel prentis ym mragdy Magwyr ym 1999, mae’r rhaglen hon yn arbennig iawn i fi. “Dyma gyfle ardderchog i’r Gweinidog gwrdd â’n prentisiaid a chlywed am y gwaith cyffrous y maen nhw’n ei wneud yn y bragdy. Pobl yw’n cryfder mwyaf ac rydyn ni’n angerddol ynghylch denu pobl uchelgeisiol atom sy’n gallu tyfu a datblygu’u gyrfa gyda ni.” |