Mae Bwydydd Castell Howell, cyfanwerthwr gwasanaeth bwyd annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mharc Bwyd Cross Hands, wedi cyhoeddi partneriaeth bwyd dros ben newydd gyda'r elusen fwyd FareShare Cymru yng Nghaerdydd.

Fel y gwyddom ni, ers mis Mawrth 2020 mae'r gadwyn gyflenwi bwyd wedi cael trafferth gyda chyfnodau clo, cau, bwydlenni cyfyngedig a hyder isel ymhlith defnyddwyr, gan achosi mwy nag arfer o wastraff bwyd posibl, yn anffodus.

Bydd y bartneriaeth yn ymgysylltu â chyflenwyr Castell Howell i helpu ail-ddosbarthu unrhyw fwyd dros ben i ganolfan FareShare Cymru yng Nghaerdydd, ac yna ymlaen i 164 o elusennau , (gan gynnwys y rhai sy'n ymddangos ar Rwydwaith Busnes yn y Gymuned Ymateb Busnes Cenedlaethol) sy'n dibynnu ar roddion bwyd.

Mae manteision y bartneriaeth newydd yn cynnwys:

• Ailgyfeirio bwyd dros ben a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu, gall busnesau helpu sicrhau bod pobl yn eu cymuned yn cael y bwyd sydd ei angen arnynt, yn ogystal â lleihau effaith sefydliadau ar yr amgylchedd.

• Rhoi ateb busnes i'r sector bwyd a allai arbed costau gwastraff gweithredol; Cyfrifiannell Perfformiad a Chost Gwastraff Busnes WRAP

• Cysoni â'r agenda busnes cyfrifol ehangach a deddfwriaethau fel Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dywedodd Edward Morgan, Rheolwr Hyfforddiant a CSR Grŵp Bwydydd Castell Howell: "Mae Covid-19 wedi golygu cyfnodau clo i’r sector lletygarwch sydd wedi arwain at ddirywiad aruthrol mewn gwerthiant. Mae hyn wedi arwain at lwyth dros ben o stoc bwyd yn y gadwyn gyflenwi a allai fod yn ddiangen.

"Mae gan Gastell Howell sylfaen helaeth o gyflenwyr, ac mewn partneriaeth â Fareshare Cymru rydym ni’n estyn allan i weld sut y gallwn gydweithio i sicrhau nad yw unrhyw fwyd dros ben yn cael ei wastraffu ac yn cyrraedd yr unigolion hynny sydd â'r angen mwyaf."

Ymysg y prosiectau sy'n derbyn bwyd gan FareShare mae canolfannau cymunedol, banciau bwyd a llochesi digartref. Mae'r bwyd mae FareShare yn ei ddosbarthu – fel ffrwythau ffres, llysiau, cig ac eitemau sy’n para gan gynnwys pasta a tuniau – yn fwyd dros ben, ond mae’n iawn i’w fwyta a byddai fel arall yn mynd yn wastraff. Daw bwyd yn fwyd dros ben am bob math o resymau, gan gynnwys gwallau labelu, nwyddau sy’n cael eu terfynu, samplau, a ffrwythau a llysiau sydd heibio i'w ddyddiad Gorau Cyn Diwedd (BBE) i swmp-gynhwysion ar gyfer gweithgynhyrchu.

Dywedodd Sarah Germain, rheolwr FareShare Cymru: "Wrth i ni fynd trwy’r hyn fydd yn aeaf anodd ac ansicr i lawer o bobl fregus ledled Cymru, ni fu'r angen am wasanaeth FareShare erioed yn uwch. Ers dechrau Covid-19 rydym ni wedi mwy na dyblu faint o fwyd sy’n cael ei ddosbarthu bob wythnos a byddwn yn parhau i gael y cyflenwadau bwyd hanfodol hyn yn ystod yr ail don. Felly, mae’r bartneriaeth â Bwydydd Castell Howell yn dod ar adeg dyngedfennol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod bwyd dros ben o safon yn cyrraedd platiau'r rhai sydd ei angen fwyaf."

Ers cyflwyno'r cyfnod clo am y tro cyntaf ym mis Mawrth, mae FareShare Cymru wedi mwy na dyblu faint o fwyd mae'n ei ddosbarthu – o'r hyn sy'n cyfateb i 25,000 i fwy na 55,000 o brydau bwyd bob wythnos.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan i fynd i'r afael â gwastraff bwyd diangen yng Nghymru a'r DU. Y bartneriaeth hon yw'r union fath o feddwl creadigol a chydweithredu yn y diwydiant sydd ei angen i greu newid gwirioneddol mewn arferion cynaliadwy.

"Rydym ni’n awyddus i barhau i weld cydweithio rhwng busnesau ac elusennau, gan gydweithio i drafod mwy o ffyrdd o leihau gwastraff drwy ailddosbarthu mwy.

"Mae Covid-19 yn effeithio ar sector bwyd a diod Cymru ac mae'n wych gweld mwy o fanwerthwyr yn y sector gwasanaethau bwyd yn awyddus i archwilio ffyrdd gwell o ddiogelu ein hamgylchedd a chwrdd ag anghenion eu cwsmeriaid."

Os ydych chi’n gyflenwr bwyd ac eisiau cymryd rhan, cysylltwch â surpluschampion@chfoods.co.uk.

Share this page

Print this page