Mae Yellow and Blue (YAB Group Ltd) yn fenter gymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu yn Wrecsam am y tair blynedd ddiwethaf.

Ei nod yw helpu cymuned Wrecsam gan gynnwys y rhai bregus ac unrhyw un sy'n wynebu caledi tymor byr neu hirdymor, salwch, anabledd neu bobl sy’n cael trafferth yn gorfforol ac yn feddyliol, ac yn anffodus mae'r pandemig wedi golygu bod ei waith wedi cynyddu'n sylweddol.

Sefydlodd Pete Humphreys Yellow and Blue (YAB) yn 2017 yn dilyn marwolaeth ei dad a marwolaeth ffrind agos, i ganser y coluddyn. Dechreuodd YAB fel elusen ar-lein ond roedd ganddo nod o sefydlu canolfan gymunedol i helpu pobl mewn angen.

Yn dilyn marwolaeth ei dad, bu Pete yn helpu ei fam Rosemary i redeg caffi Number 22 yn Wrecsam, a'r llynedd rhoddon nhw 9600 o brydau bwyd i'r henoed a'r digartref yn ystod y cyfnod clo.

Fodd bynnag, gyda chymorth grant o £10,000 gan y Loteri Genedlaethol, cymorth am ddwy flynedd gan y Co-operative a llawer o godi arian, llwyddodd Pete i brynu adeilad ac, fis Tachwedd diwethaf, gwireddodd ei freuddwyd o sefydlu canolfan i'r rhai mewn angen, fel yr eglura,

"Un peth roedd Dad wastad eisiau tra roedd o'n sâl oedd rhywle y gallai fynd i ymlacio, rhywbeth rhwng gofal lliniarol ac ystafell ymgynghori. Roeddwn i eisiau creu amgylchedd fyddai'n creu effaith gymdeithasol sylweddol i bobl sy’n dioddef o afiechydon terfynol, fel bod ganddyn nhw le fel roedd fy nhad ei eisiau.

"Mae cymaint o bobl yn mynd trwy bethau ar eu pennau eu hunain ac roeddwn i eisiau creu man lle gall pobl ddod i mewn, ymlacio a chael hwyl. Mae gennym ni amserlenni dyddiol o weithgareddau a gweithdai sy'n helpu pawb ag anableddau dysgu, afiechydon terfynol neu gall pobl ei defnyddio fel canolfan galw heibio.

"Mae'r ganolfan yn arloesol iawn; mae gerddi muriog hydroponig wrthi’n cael eu dylunio gan ein bod ni eisiau i’r lle fod yn fywiog a chalonogol i’r bobl sy'n dod i'r ganolfan."

Tîm craidd bychan yw’r grŵp sydd wedi sefydlu YAB ond mae ganddyn nhw 96 o wirfoddolwyr anhygoel sy'n cynnig eu cymorth a'u gwasanaethau.

Ychwanega Pete, "Rydym ni’n credu mewn gwaith tîm, gweithio gydag unigolion, sefydliadau a busnesau o'r un anian i wneud Wrecsam yn gymuned Seren Aur lle mae pobl yn flaenoriaeth. Rydym ni’n helpu sefydliadau eraill, awdurdodau lleol ac unigolion i ddefnyddio ein prosiect a'i addasu i weddu i anghenion eu cymuned nhw. Gyda bwrdd tosturiol a grŵp o wirfoddolwyr, rydym ni’n creu etifeddiaeth i Wrecsam, un lle mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd, gall unrhyw un a allai fod yn cael trafferth gael cymorth ar frys a gweld ein sir wych yn cyflawni ei llawn botensial."

Dros gyfnod y Nadolig gweithiodd YAB yn ddiflino i roi bwyd i'r rhai mewn angen, gan weithio gyda gwahanol grwpiau cymunedol, elusennau a busnesau yn Wrecsam.

Ychwanega Pete, "Ar Noswyl Nadolig buom ni’n gweithio ar y cyd â Given to Shine Wrecsam i roi parseli bwyd o'r ganolfan, pan gafodd 40 tunnell o fwyd ei arbed rhag cael ei wastraffu a’i ddosbarthu ac ar Ddydd Nadolig gwnaethom ni weini pryd tri chwrs i bobl digartref a'r rhai oedd yn cael eu cartrefu dros dro yn y canolfan.

"Yn dilyn hynny, ar 27 Rhagfyr, gwnaethom ni gydweithio gyda Nanny Biscuit, grŵp cymunedol, i ddarparu 100 cinio Nadolig i bobl fregus yn y gymuned a'r rhai oedd yn hunanynysu oherwydd y pandemig."

Ar hyn o bryd mae Pete yn astudio am Radd Meistr mewn Technoleg Ariannol ym Mhrifysgol Manceinion,

"Gyda gweledigaeth ddigidol o fewn y gymuned ein nod yw cefnogi grwpiau bregus gyda meddalwedd adnabod lleferydd tra'n creu profiad bywiog, cefnogol a chalonogol. Creu eiliadau, cyfleoedd a gwên pan fo ei angen fwyaf ar bobl."

Wrth sôn am y fenter hon, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru: "Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Yellow and Blue am eu gwaith caled a'u hangerdd wrth gadw pobl Wrecsam yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

"Mae'r ymrwymiad a'r arloesedd maen nhw wedi'u dangos wrth addasu i'r heriau a ddaw yn sgil pandemig COVID-19 yn nodweddiadol o natur wydn y sector hwn, ynghyd â'r ymdrech maen nhw wedi'i gwneud i gefnogi eu cymuned leol."

Eleni, bydd cynnydd pellach i'r Ganolfan gyda darpariaethau bwyd parhaus yn cael eu cynnig, swyddi gwirfoddol yn y ganolfan i helpu pobl sydd wedi dioddeb digartrefedd ar y stryd, ehangu’r Ganolfan ac mae gardd furiog hydroponig yn cael ei dylunio.

Os hoffech chi gefnogi neu gyfrannu at Yellow and Blue, neu wybod mwy am brosiectau Yellow and Blue ewch i https://www.yellowandblue.org/

 

Share this page

Print this page