Mae cymorth ar y cyd wedi bod yn allweddol i sicrhau llwyddiant cwmni cynhyrchu porc newydd o Gymru, sef Mochyn Mawr.

Pan gysylltodd Ann Lewis, ffermwr moch o ardal Cwm Tawe gyda Menter Moch Cymru – prosiect Menter a Busnes sy’n cefnogi a datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru – cafodd gyfle i dderbyn llawer iawn o gyngor busnes ac ymarferol.

Trwy raglen Menter Moch Cymru (MMC), cysylltodd Ann gyda rhaglen Cywain, un o chwaer brosiectau Menter a Busnes sy’n cefnogi datblygiad busnesau o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru sydd â’u bryd ar dyfu.

Gan ddefnyddio’r arbenigedd a gynigiwyd gan y ddau brosiect, mae Ann wedi gallu datblygu busnes Mochyn Mawr i’r cam nesaf yn rhwydd ac yn gyflym trwy gydweithio.

Ar ôl ymddeol o’i swydd ym maes TG yn gynharach eleni, dechreuodd Ann – a etifeddodd fferm 50 erw Cathelyd Isaf yng Nghraig Cefn Parc gan ei rhieni – ffermio ar sail llawn amser gan werthu porc maes o siop ar y fferm. Fe sefydlodd uned foch gan ddilyn ôl troed ei mam trwy ddewis magu bridiau cynhenid.

Meddai Ann, “Er bod gen i borfa dda yma ar gyfer gwartheg, mae gen i hefyd goetir a chaeau pori bras sy’n ddelfrydol ar gyfer moch. Mae fy nghenfaint yn cynnwys moch cyfrwyog (Saddleback), moch Du Mawr a hychod Cymreig gydag ambell i fochyn croes, ac mae fy nghigydd yn eu prosesu. Rwy’n gwerthu cig o siop y fferm, neu gall pobl archebu ar-lein a chasglu oddi yma.”

Dechreuodd perthynas Mochyn Mawr gyda’r prosiectau Menter a Busnes trwy filfeddyg y fferm, a awgrymodd y dylid cwblhau Cynllun Iechyd y Genfaint trwy raglen MMC. Mae’r Cynllun Iechyd ar gyfer y Genfaint yn cael ei ariannu’n llawn ac yn annog perthynas weithio agos rhwng ffermwyr a milfeddygon, gan greu strategaeth wedi’i theilwra ar gyfer gofynion y fferm a’r genfaint. Bu Ann hefyd yn mynychu nifer o weminarau hyfforddiant a gynhaliwyd gan MMC.

Manteisiodd Ann hefyd ar gymorth farchnata MMC, sy’n darparu cyllid o hyd at £750 i fusnesau sy’n gwerthu porc o Gymru i gynhyrchu deunyddiau marchnata/hyrwyddo wedi’u personoli, yn ogystal â ffotograffiaeth ac argraffu.

Er mwyn creu logo ar gyfer Mochyn Mawr, cafodd Ann ei chyfeirio at Cywain, sy’n cynnig cefnogaeth gan gynnwys datblygu logo, ynghyd â chyngor busnes ychwanegol. Hefyd drwy raglen Cywain, creodd Ann wefan (www.mochynmawr.com) a chynllun busnes.

Trwy weithio gyda’i gilydd, darparodd MMC a Cywain gefnogaeth ddi-dor ar gyfer Mochyn Mawr, gan alluogi Ann i fanteision’n llawn ar y gefnogaeth mewn modd effeithlon a oedd yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r cyllid a oedd ar gael gan y ddau brosiect. 

Meddai Ann, “Mae gweithio gyda MMC a Cywain wedi bod yn brofiad da iawn. Maen nhw wedi bod yn wych, ac maen nhw wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy musnes yn llawer cynt. Maen nhw wedi fy nghyfeirio at ymgynghorwyr busnes a’r lleoedd iawn er mwyn fy ngalluogi i gael mynediad at grantiau dechrau busnes i brynu offer ar gyfer y siop fferm. Mae’r cyngor yr ydw i wedi’i dderbyn wedi bod heb ei ail.”

Dywedodd Ffion Jones, Rheolwr Datblygu Cywain, “Rydw i’n hoff iawn o edrychiad brand a gwefan newydd Mochyn Mawr. Mae gweithio gydag Ann a Menter Moch Cymru wedi bod yn brofiad gwych, ac yn gyfle i gydweithio gyda sefydliadau cymorth eraill sydd ar gael i berchnogion busnesau yng Nghymru.

“Roedd Ann yn gwybod beth oedd hi eisiau ei gyflawni gyda’i busnes newydd – ac erbyn pryd – a gweithiodd yn wych fel tîm gyda Menter Moch Cymru, Cywain, yr ymgynghorwyr busnes a’r ffotograffydd i’w helpu i ddatblygu ei busnes.”

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru “Mae’n braf iawn gweld sut mae busnes Ann wedi gallu datblygu gyda chymorth gan ddau o brosiectau Menter a Busnes. Rwy’n credu ei fod yn gyfle unigryw ac o fudd mawr i fusnesau pan fo rhaglenni cefnogi fel Menter Moch Cymru a Cywain yn gallu dod ynghyd i weithio’n ddi-dor er budd eu cleient. Mae’n fuddiol i bawb.

“Defnyddiodd Ann Grant Marchnata Menter Moch Cymru i gynhyrchu deunyddiau wedi’u brandio a’u dylunio’n hyfryd, ynghyd â sesiwn gyda ffotograffydd proffesiynol. Mae’r lluniau o’i chynnyrch yn edrych yn wych ac maen nhw eisoes i’w gweld ar ei gwefan newydd i’w helpu i hyrwyddo a gwerthu ei chynnyrch porc. Gobeithiwn y bydd hyn yn ysbrydoli busnesau eraill sy’n gwerthu porc o Gymru i ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael, fel eu bod nhw, fel Ann, yn gallu datblygu eu busnesau ymhellach.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page