Mae dros 170 o brynwyr masnach sy’n cynrychioli rhai o siopau manwerthu mwyaf Ewrop yn barod i wneud busnes â llawer o gynhyrchwyr yn Lolfa Fusnes Bwyd a Diod Cymru uwchben y Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanelwedd.  

 

Dyma’r bumed flwyddyn i Lywodraeth Cymru reoli’r Lolfa Fusnes, sy’n dod â chynhyrchwyr a phrynwyr at ei gilydd yn Sioe Frenhinol Cymru rhwng dydd Llun 23 a dydd Iau 26 Gorffennaf 2018.

 

Bydd cynnyrch o Gymru, sy’n cael ei arddangos yn y Neuadd Fwyd, ar gael i’w weld yn y Lolfa Fusnes, ynghyd ag amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a diod eraill o ansawdd uchel, hefyd o Gymru. Bydd hyn yn cynnig ffordd gyflym i brynwyr gwrdd â chynhyrchwyr a hwyluso bargeinion masnach. Ers 2016, mae gwerth bron £1.5 miliwn o fusnes wedi’i sicrhau drwy’r Lolfa Fusnes.  

 

Bydd grŵp dethol o brynwyr gwadd yn cael blas o gynnyrch o Gymru a baratowyd yn ffres pan fydd aelodau iau Cymdeithas Goginio Cymru yn cystadlu i goginio prydau iach a maethlon yn y Lolfa Fusnes. Byddant yn defnyddio cynhwysion lleol a gyflenwir gan aelodau groser Consortiwm Manwerthu Cymru. Bydd Ready, Steady, Cook yn y Lolfa Fusnes am 1.30pm, ddydd Mawrth, 24 Gorffennaf.

 

Bydd y cynnyrch a ddangosir yn y Lolfa Fusnes yn cynnwys amrywiaeth o bob sector, o gwrw i ddiodydd meddal; cig i bysgod a bwyd môr; melysion i fara a chacennau ac amrywiaeth o eitemau deietegol arbennig.  

 

I helpu i farchnata cynnyrch o Gymru’n effeithiol, mae Bwyd a Diod Cymru’n defnyddio’r Sioe i lansio Pecyn Cymorth i Fanwerthwyr sy’n rhoi argymhellion ar hyrwyddo cynnyrch, trefnu sesiynau blasu a sicrhau sylw yn y cyfryngau, dan faner ymgyrch #GwladGwlad #ThisisWales.

 

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at y cyfoeth o adnoddau naturiol a deunyddiau bwyd crai sydd yng Nghymru, ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu technolegau newydd ym maes cynhyrchu bwyd.

 

Mae amrywiaeth o ddeunydd marchnata fel baneri a chardiau ryseitiau ar gael gan Fwyd a Diod Cymru i’r manwerthwyr sy’n awyddus i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.  

 

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

 

“Mae’n wych gweld bwyd a diod ardderchog Cymru yn cael eu harddangos unwaith eto eleni yn ein Lolfa Fusnes yn Sioe Frenhinol Cymru. Gall ein cynhyrchwyr ymfalchïo yn y cynnyrch arloesol o ansawdd uchel maent yn ei gynhyrchu. Bydd digonedd o ddewis i’r prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol, gydag amrywiaeth eang o gynnyrch ar gael. Rwy’n mawr obeithio y caiff ein cynhyrchwyr ganlyniadau cadarnhaol o’n Lolfa Fusnes.” 

 

Troednodyn: Bydd Blas Cymru 2019 yn y Celtic Manor, 20 - 21 Mawrth 2019, yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd ynghyd. Mae’r digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol hwn yn rhoi cyfle i brynwyr a chynhyrchwyr ddatblygu busnes newydd. http://www.tastewales.com/cy/   

  

Share this page

Print this page