Mae'r cwmni dŵr mwyn o Gymru, Radnor Hills wedi derbyn gwobr 'canmoliaeth uchel' gan feirniaid yng Nghategori Diodydd Meddal a Chymysgwyr The Grocer New Products Awards ar gyfer eu Radnor Infusions Lemon & Mint.

Wedi'i lansio ar ddechrau 2020, diod befriog wedi'i ffrwytho, gyda blas a rhin hollol naturiol yw Radnor Infusions. Does dim siwgr na melyswyr ynddi ac mae wedi'i gwneud â blas mintys gardd Prydain a rhin Lemwn a Mintys.

Mae The Grocer New Product Awards yn gwobrwyo arloesedd rhagorol yn sector Nwyddau Defnyddwyr sy'n Symud yn Gyflym (FMCG) y DU mewn categorïau bwyd a rhai nad ydynt yn fwyd. Rhoddodd y beirniaid dros 200 o gynhyrchion i'w hystyried ar draws 31 categori ar y rhestr fer, gan gynnwys Bariau a Byrbrydau Chwaraeon a Llai o Siwgr.

Canmolodd y panel beirniadu, oedd yn cynnwys arbenigwyr y diwydiant bwyd ac aelodau o'r cyhoedd, Radnor Infusions Lemon and Mint am ei flas braf, fel y dywedodd un beirniad,

"Rwy’n gallu gweld defnyddwyr yn troi at hwn fel dewis iach yn lle diodydd meddal eraill. Mae ganddo flas ffres gwych a gallaf yn bendant flasu'r mintys. Dydw i ddim wedi gweld y cyfuniad blas hwn yn y farchnad o'r blaen, mae'n teimlo'n braf ac yn lân. Mae'n ddiod calorïau isel aeddfed iawn y gallaf ei gweld yn boblogaidd iawn amser cinio ac yn boblogaidd i’w phrynu mewn swmp ar gyfer yr oergell."

Wrth sôn am y wobr dywedodd William Watkins, Ffermwr a Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills:

"Rydym ni wrth ein bodd ac yn falch bod ein Radnor Infusions Lemon and Mint wedi derbyn gwobr canmoliaeth uchel yn The Grocer New Product Awards.

"Rydym ni’n ffrwytho ein dŵr ffynnon Cymreig gyda rhin lemwn a rhinflas mintys i greu diod heb galorïau, cadwolion, melyswyr na siwgrau ond mae’n torri syched ac yn llawn blas naturiol.

 "Mae'n arbennig o galonogol gweld y beirniaid yn nodi llawer o'r pethau rydym ni’n ymfalchïo ynddyn nhw, yn enwedig y cyfuniad o flas. Rydym ni ar ben ein digon."

Wedi'i leoli yn Nhrefyclo, Powys, mae Radnor Hills yn wneuthurwr dŵr ffynnon a diodydd meddal llwyddiannus ac yn fusnes annibynnol teuluol. Mae'r cwmni'n potelu detholiad amrywiol o ddŵr ffynnon, dŵr ffynnon â blas, sudd pefriog moethus, sudd ffrwythau a diodydd sy'n cydymffurfio â rheolau ysgolion.

Mae Radnor Hills yn angerddol dros wneud i'r pethau symlaf flasu'n wych ac mae ei gynhyrchion yn cynnwys Radnor Hills Spring Water, Radnor Splash, Radnor Plus, Radnor Infusions, Radnor Juice, Fruella Hydrate, Heartsease Farm, Radnor Fizz a Radnor Fruits. Mae'r tîm cymorth brand hefyd yn darparu gwasanaeth datblygu cynnyrch pwrpasol llwyddiannus i gwsmeriaid labeli preifat.

Wrth longyfarch y cwmni ar ei wobr, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Hoffwn longyfarch Radnor Hills ar ei lwyddiant yn The Grocer New Product Awards eleni. Mae'n wych gweld ein cynhyrchwyr yn gwneud cystal ac yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i gynhyrchu cynnyrch o safon.

"Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn rhan hanfodol o'r economi ac mae gweld cynifer o'n cynhyrchwyr o bob cwr o Gymru yn cael eu cydnabod mewn gwobrau fel y rhain, yn profi bod gan fwyd a diod o Gymru enw da haeddiannol am ansawdd a blas, er gwaethaf yr heriau maen nhw’n eu hwynebu ar hyn o bryd."

I gael rhagor o wybodaeth am Radnor Hills a'i ddetholiad o gynhyrchion, ewch i: radnorhills.co.uk

 

 

Share this page

Print this page