Mae’r cynhyrchwr salami llwyddiannus o Gymru, Cwm Farm Charcuterie Products, wedi dechrau pennod newydd yn ei hanes wrth agor ei ‘Salami HQ’ newydd.

Sefydlwyd y busnes ddegawd yn ôl gan y cyn-weinyddwr ysgol, Ruth Davies a’i gŵr Andrew, sy’n saer, ac mae ystod arloesol Cwm Farm o salami a chig wedi’i sychu a’i halltu yn ymddangos ar fyrddau rhai o’r bwytai mwyaf moethus yn ogystal â digoni miloedd o gefnogwyr rygbi llwglyd Cymru.

Ers tyfu’n fwy na’u huned gynhyrchu gyntaf ym Mhontardawe, bu Ruth ac Andrew yn edrych am adeiladau addas cyn canfod y man delfrydol sydd “ond 10 munud i fyny’r ffordd” yng Ngweithdai Ystradgynlais ym Mhowys.

Roedd y broses o symud yn bosib ar ôl derbyn cyllid grant gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig Llywodraeth Cymru, ac o ganlyniad, bydd ‘Salami HQ’ newydd Cwm Farm yn cael ei agor yn swyddogol ar yr 2il o Fawrth 2020 gan un o gyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru, Rupert Moon.

Mae’r uned 4,000 troedfedd sgwâr bedair gwaith yn fwy nag adeiladau cyntaf Cwm Farm, ac mae’r cwpwl wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i droi’r ‘canfas wag’ mewn i’w safle cynhyrchu delfrydol.

Mae cyngor dylunio ac ardystio gan Ganolfan Bwyd Cymru yn Horeb wedi sicrhau bod y cyfleusterau gorau yn yr HQ newydd i gyflawni anghenion un o’r safonau diwydiant bwyd mwyaf parchus, sef SALSA.

Dywedodd Ruth, “Yn y gorffennol, roedd diffyg lle yn cyfyngu cynhyrchiad, ac roedd storio’n broblem fawr i ni, ond yma, mae gennym ni’r holl wagle sydd arnom ei angen. Mae gen i lyfr du sy’n llawn syniadau, ond hyd yma, nid wyf wedi bod yn gallu eu rhoi ar waith. Mae’r grant yma wedi’n galluogi ni nid yn unig i gyflawni’n archebion, ond hefyd i symud ymlaen gyda datblygu cynnyrch.

“Nawr, gallwn ni ehangu cynhyrchiad, cyflogi staff newydd, a datblygu hyd yn oed rhagor o gynnyrch – rhywbeth rydw i wedi bod yn awyddus i’w wneud ers amser!”

Bydd yr HQ newydd yn cynnwys labordy, lle bydd Ruth yn gallu cyflawni’r profion pH a dŵr priodol, yn ogystal â siambr sychu mwy o faint sydd wedi’i leinio â halen pinc yr Himalayas.

“Mae gennym ni ddau ystod o gynnyrch – byrbrydau tafarn a chiniawa coeth, sydd wedi’u hanelu at wahanol gwsmeriaid. Nawr, mae gennym ni’r lle i gael peiriannau mwy arbenigol a fydd yn ein galluogi i greu cynnyrch gwahanol megis nygets chorizo sy’n arbennig ar gyfer bariau tapas.”

Yn ogystal â’r offer newydd, bydd gan ddecor yr adeiladau edrychiad gwahanol ac unigryw. Gan weithio gyda dau fyfyriwr celf – sef Hannah Moulder ac Adam Wenzy – o Ysgol Gelf Caerfyrddin, mae Ruth ac Andrew wedi creu murlun 18tr x 12tr yn portreadu siop gigydd.

Mae ehangiad y busnes hefyd wedi golygu bod rhaid iddynt recriwtio’u staff parhaol cyntaf, gan fod tair swydd wedi’u creu ym maes cynhyrchu a gweinyddu.

Dywedodd Ruth, “Mae hi’n braf gallu dechrau cyflogi staff, yn ddelfrydol o’r ardal leol. Mae byd charcuterie yn hollol wahanol i fyd y cigydd, felly rydym yn edrych ymlaen at hyfforddi’r person cywir.”

Mae Cwm Farm yn rhan o’r Clwstwr Bwyd Da; rhaglen ddatblygu a arweinir gan fusnes yw hon sy’n cael ei chefnogi gan Llywodraeth Cymru a’i hwyluso gan Cywain. Mae Cywain yn ymroi i ddatblygu microfusnesau a BBaCh newydd a’r rhai sy’n bodoli yn barod o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Mae aelodau’r Clwstwr Bwyd Da ledled Cymru wedi eu denu at ei gilydd gan y rhaglen ac maent yn cael budd o rannu eu profiadau a’u gwybodaeth.

“Mae bod yn rhan o’r Clwstwr wedi bod yn fuddiol tu hwnt i ni,” meddai Ruth. “Nid yn unig ydyn ni wedi cael y cyfle i fynychu digwyddiadau bwyd a diod blaenllaw megis Anuga yn yr Almaen, ond rydym ni hefyd wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau busnes ar draws y diwydiant.

Datblygodd ein syniad ar gyfer sglodion chorizo a salami drwy siarad â phobl yn y sector bwyd a diod. Mae’r Clwstwr yn rhoi cipolwg i chi o fyd arall.”

Mae Cwm Farm wedi bod yn cyflwyno cynnyrch o rannau eraill o Gymru i’w mannau gwerthu bwyd ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnodau gemau rygbi. Mae Ruth ac Andrew yn gefnogwyr brwd o’r Scarlets, ac maen nhw wedi bod yn bwydo cefnogwyr rygbi llwglyd ers tro byd, gan gynnwys cynnyrch o bob cwr o Gymru fel dewisiadau arbennig ar y fwydlen.

Mae rhestr ‘Ffefrynnau Artisan Ruth’ yn cynnwys Wrexham Lager, pice ar y maen gan Henllan Bakery, a diodydd gan Mws Piws a Monty’s Brewery.

Dywedodd Ffion Jones, Rheolwr Datblygu Bwyd Da (De) – Cywain, “Mae Ruth yn aelod cydweithredol, gweithgar a dymunol o’r Clwstwr Bwyd Da, ac mae’n un o selogion ein sioeau bwyd, ein dosbarthiadau meistr busnes ac ein cyfarfodydd clwstwr sy’n digwydd dwywaith y flwyddyn.

“Un o’n nodau ni fel clwstwr yw dod ag ystod o gynhyrchwyr bwyd a diod at ei gilydd sydd â chynnyrch o safon a’r uchelgais i dyfu. Mae Ruth yn engraifft wych o hyn gyda’i mannau gwerthu bwyd ym Mharc y Scarlets sydd nid yn unig yn arddangos ei charcuterie blasus, ond hefyd cynnyrch gan aelodau eraill o’r clwstwr.

Mae agor Salami HQ yn amser cyffrous i Cwm Farm ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cynnyrch newydd sy’n cael eu datblygu yn yr adeiladau pwrpasol newydd sbon hwn.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, “Rydw i’n falch iawn bod cefnogaeth gan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig wedi galluogi Cwm Farm Charcuterie Products i ehangu ar yr hyn mae’n ei gynhyrchu, yn ogystal â chreu swyddi sy’n gofyn am sgiliau penodol.

“Mae’r busnes yn enghraifft wych o sut mae sgiliau ac agwedd fentrus ynghyd â chefnogaeth fusnes yn helpu i agor marchnadoedd newydd ar gyfer cynnyrch bwyd a diod o Gymru.”

Gyda llawer o glod a gwobrau bwyd a ffermio, mae Cwm Farm wedi derbyn ymholiadau gan gwsmeriaid o amgylch y byd, ac maent wedi allforio’i salamis dramor i gyrchfannau megis Hong Kong, Dubai, yr Iseldiroedd a Denmarc.

Ac yn agosach i adref, mae ei grŵp cleientiaid, sy’n tyfu’n gyson, yn cynnwys bwytai a bariau adnabyddus, manwerthwyr eiconig, a chyn hir byddant ar gael i gwsmeriaid ar draws Llundain drwy’r cyfanwerthwyr charcuterie Cannon a Cannon.

Mae ystod cynnyrch Cwm Farm hefyd wedi ei weini yn Downing Street a’r Llysgenhadaeth Brydeinig yn y Ffindir. Maent yn mynychu gwyliau bwyd a digwyddiadau megis Borough Market yn Llundain yn aml.

Fel arloeswyr parhaus, mae Ruth ac Andrew wedi dechrau cydweithio â gwenynwyr o Gymru, drwy brofi oes silff salami wedi’i drochi mewn cŵyr gwenyn, ac mae Ruth hefyd wedi cydweithio gyda’r cogydd byd-enwog Grady Atkins ar lyfr coginio.

Mae’n teimlo fel amser hir ers i’r pâr brynu Cwm Farm yn Rhydyfro gyda’r bwriad o fagu moch i gynhyrchu cig ar gyfer eu teulu a’u ffrindiau.

Datblygodd hyn fewn i fenter symudol lwyddiannus – sef y ‘Poacher’s Pantry’ – lle buont yn gwerthu eu bacwn a’u selsig o ochr arall yr A4067.

Bu Ruth ar daith i’r Eidal a Denmarc i gasglu syniadau, ac yn dilyn yr ymweliadau hyn fe wnaeth Ruth ddisgyn mewn cariad â byd y charcuterie, a heddiw – os yn bosib – mae’n teimlo hyd yn oed yn fwy brwdfrydig am y maes.

Dywedodd Ruth, “Mae teithio o amgylch y byd yn cynnig llawer o ysbrydoliaeth, ac rydym ni’n mynd â hynny gam ymhellach, ac yn meddwl y tu allan i’r bocs. Mae cynhyrchion sydd wedi’u sychu a’u halltu wedi bodoli ers blynyddoedd maith, ond rydym ni’n gwneud popeth gyda thwist Cymreig.”

 

 

Share this page

Print this page