Wrth i’r genedl fwynhau’r tafarndai, bwytai a lleoliadau lletygarwch sy’n ailagor, mae cynhyrchwyr diodydd Cymru yn cynnig ansawdd gwell nag erioed ar ôl treulio’r cyfnod clo yn hyfforddi.

Mae dros 90 o gynhyrchwyr diodydd annibynnol Cymru wedi treulio’r cyfnod ‘tawel’ a achoswyd gan y cyfnodau clo yn ymgymryd â hyfforddiant penodol i’r sector, sydd wedi’i gynllunio i roi hwb i sgiliau ac arloesedd yn y diwydiant.

Mae cynhyrchwyr o’r diwydiannau cwrw, seidr, gwin a gwirodydd, gyda chefnogaeth gan Glwstwr Diodydd Cymru, wedi bod yn treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio i uwchsgilio eu timau, yn datblygu cynnyrch newydd ac yn rhoi syniadau ar waith i baratoi ar gyfer pan fydd y sector yn ailagor.

Gan fod cyfnodau clo parhaus wedi atal y diwydiant lletygarwch dros dro, cafodd yr hyfforddiant ei gynllunio i ehangu a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol a fyddai’n galluogi cynhyrchwyr Cymru i weddnewid eu tactegau gwerthu, dod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd eu cwsmeriaid, a sicrhau ansawdd gwell nag erioed.

Nod y cyrsiau a gafodd eu darparu gan Sgiliau Bwyd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Addysg Gwin a Gwirodydd (WSET), a Brewlab, oedd gwella’r wybodaeth sydd gan y diwydiant yng Nghymru drwy ddysgu am yr agweddau technegol amrywiol sydd ynghlwm â chynhyrchu diodydd.

O blith y sector cwrw ffyniannus yng Nghymru, cwblhaodd 60 o fragdai gwrs hyfforddiant gyda Brewlab, sef prif ddarparwr dadansoddiadau, cyrsiau a hyfforddiant bragu. Roedd yr hyfforddiant yn archwilio’r meysydd twf posib yn y diwydiant cwrw, er enghraifft cynnyrch heb alcohol neu sy’n isel o ran alcohol, cwrw sur a di-glwten, ac agor marchnadoedd newydd i fragwyr Cymru.

Gyda’r gydnabyddiaeth fod gan Gymru amodau tyfu tebyg i gynhyrchwyr gwin blaenllaw yn Seland Newydd, bu’r diwydiant gwin yn mireinio ei sgiliau yn ystod y cyfnod clo hefyd. Mae casgliad o 13 o winllannoedd wedi ehangu ar eu gwybodaeth am sut i flasu gwin gan ddefnyddio dull Blasu Gwin WSET Lefel 3.

Yn olaf, mae tua 18 o ddistyllwyr gwirodydd wedi cymryd rhan mewn cyrsiau Lefel 3 gan astudio 11 o wirodydd craidd, y prif ddulliau cynhyrchu, arddulliau a thermau labelu allweddol, gyda’r nod o ddatblygu a chynnal y safonau cynhyrchu sydd gan Gymru.

Drwy weithio ar y cyd â’r Canolfannau Arloesi Bwyd, mae Clwstwr Diodydd Cymru hefyd wedi datblygu Rhaglen Hyfforddi Cymeradwyaeth Cyflenwyr Diogel a Lleol (SALSA), sef math o achrediad a fydd yn agor marchnadoedd newydd i gynhyrchwyr eu cyflenwi. Mae disgwyl i 13 o gynhyrchwyr annibynnol gymryd rhan yn y rhaglen, ac os byddan nhw’n llwyddiannus, bydd hynny’n dyblu nifer y cynhyrchwyr achrededig yng Nghymru.

Meddai Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: “Drwy gydol pandemig y coronafeirws, mae llawer o’n cynhyrchwyr diodydd annibynnol llai wedi’i chael hi’n anodd cyrraedd marchnadoedd newydd am nad oes ganddyn nhw’r lefel gywir o achrediad technegol sy’n ofynnol gan fanwerthwyr a chyfanwerthwyr. Bydd y rhaglen yma, a ddatblygwyd gan Glwstwr Diodydd Cymru, yn helpu cynhyrchwyr i gyrraedd y safonau angenrheidiol a’u paratoi ar gyfer yr archwiliad SALSA, ac achrediad yn y pen draw.”

Mae Clwstwr Diodydd Cymru hefyd wedi cefnogi’r diwydiant drwy gydol y pandemig gyda nifer o fentrau sydd wedi’u cynllunio i roi hwb i werthiannau, gan gynnwys y digwyddiad ar gyfer y diwydiant gwin, Wythnos Gwin Cymru, a’r ymgyrch gyfredol, Diodydd Cymru.

Meddai Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Er gwaetha’r heriau mae’r sector wedi’u hwynebu ers dechrau’r pandemig, mae cynhyrchwyr diodydd Cymru wedi defnyddio’r cyfnod yn adeiladol i ddatblygu eu sgiliau, ac yn ei dro i gynhyrchu diodydd o safon uwch. Diolch i gefnogaeth Clwstwr Diodydd Cymru, mae’r diwydiant yn parhau i weithio i wella ac adeiladu ar yr enw da rhagorol sydd ganddo eisoes. O ganlyniad, mae’r Clwstwr wedi meithrin diwydiant sy’n gefnogol, yn barod i ddatblygu ac sy’n cynhyrchu cynnyrch o ansawdd sy’n rhoi Cymru ar y map yn y diwydiant diodydd byd-eang.”

Share this page

Print this page