Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gydweithio â busnesau i gyflawni ei nod o greu un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cynaliadwy yn y byd. I hybu’r nod hwn, mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gyfarfodydd brecwast a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru dros y misoedd nesaf.

Bydd y cyfarfodydd yn dod â busnesau ac arbenigwyr ynghyd, ac yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu â phobl o’r un anian, ffurfio partneriaethau newydd a sbarduno ymdrechion cydweithredol ar gyfer dyfodol gwyrddach.

Gyda dros 100 o aelodau o bob rhan o’r diwydiant bwyd a diod, ynghyd â chyrff y llywodraeth a 30 o sefydliadau academaidd, mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru yn gweithredu fel llygaid a chlustiau’r diwydiant. Gan weithio law yn llaw i fynd i'r afael â phroblemau cyffredin y diwydiant, datblygu rhwydweithiau a rhannu arbenigedd, mae'n cefnogi arferion cynaliadwy ar draws y diwydiant bwyd-amaeth gan ddefnyddio'r dull helics triphlyg llwyddiannus gyda'r llywodraeth, y diwydiant a'r byd academaidd.

Bydd pob un o’r cyfarfodydd sydd i ddod yn cynnwys arbenigwyr lleol, a fydd yn rhannu eu profiad o arferion busnesau cynaliadwy ac yn trafod ffyrdd o wella. Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yn:

Gogledd-ddwyrain Cymru: Dydd Gwener, 8 Tachwedd 2024 yn Neuadd Rossett, Wrecsam, LL12 0DE

De-orllewin Cymru: Dydd Mawrth, 11 Chwefror 2025 yn Coaltown Coffee Roasters, Rhydaman, SA18 2LS

Mae’r sioe deithiol yn adeiladu ar lwyddiant ysgubol y gynhadledd gyntaf erioed a oedd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd bwyd a diod i’r diwydiant yng Nghymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Arweiniwyd y gynhadledd gan raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru h.y. Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru, mewn cydweithrediad â Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru, ac aeth y gynhadledd i’r afael â rhai o’r materion allweddol sy’n wynebu’r diwydiant i ddod yn fwy cynaliadwy.

Gan gynnwys cyfres o drafodaethau ar effaith cynaliadwyedd ar dueddiadau defnyddwyr, esblygiad pecynnu cynaliadwy, a rôl labelu amgylcheddol, bu’r mynychwyr hefyd yn trafod sut mae manwerthwyr yn mynd i’r afael ag allyriadau ar hyd a lled eu cadwyni cyflenwi a’r goblygiadau i gyflenwyr.

Mae gweithio ar y cyd i ysgogi newid cadarnhaol wrth wraidd gwaith y clwstwr. I Robert Hindle, Cyfarwyddwr Gweithrediadau La Crème Patisserie, roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd a rhannu arbenigedd. Dywedodd, “Mae’n wych gweld ystod amrywiol o bobl yn dod at ei gilydd o wahanol gwmnïau o fewn y sector.

“I ni, mae’n golygu ymgysylltu â’r rhanddeiliaid hynny, ceisio deall pa heriau sydd gennym gyda’n gilydd a’r hyn y gallwn ddysgu ohono a chydweithio ag ef. Ond yn y pen draw, symud ymlaen yn unigol ac fel grŵp. Ni allwch wneud hyn yn annibynnol ac mae’n rhaid iddi fod yn ymdrech gydweithredol.”

Mae’n tanlinellu ymhellach bwysigrwydd cydweithio, i Karen Davies, Cyfarwyddwr y gwneuthurwr diodydd meddal o Gaerfyrddin, Tovali, “Mae digwyddiadau gan y Clwstwr Cynaliadwyedd yn ddefnyddiol iawn i roi cipolwg ar sut y gallwn edrych ar ein gweithdrefnau a’n prosesau, gan feddwl hefyd sut y gallwn weithio gyda busnesau eraill rydyn ni’n cwrdd â nhw o ran cydweithredu pellach.

“Rydyn ni’n mynd ati’n rhagweithiol i geisio chwarae ein rhan drwy wella pob elfen o’n taith gynaliadwyedd ar draws ein gweithgynhyrchu, dosbarthu neu reoli gwastraff, a gall dysgu gan fusnesau ac arbenigwyr o’r un feddylfryd ond ein helpu gyda’r nod cyffredin hwn.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, "Rydyn ni’n hynod falch ein bod wedi cynnal Cynhadledd Gynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru gyntaf erioed Cymru yn ddiweddar. Amlygodd y digwyddiad nid yn unig lawer o lwyddiannau o fewn y diwydiant, ond hefyd, fe danlinellodd ymrwymiad cyfunol busnesau bwyd a diod i ddysgu gan ei gilydd a chroesawu arferion amgylcheddol gyfrifol.

“Mae’r cyfarfodydd brecwast sydd i ddod yn gyfle gwych arall i fusnesau sydd â diddordeb mewn datblygu cynaliadwy. Mae digwyddiadau fel rhain yn gonglfaen i’n hymrwymiad i gynaliadwyedd, ac yn cynnig llwyfan ar gyfer deialog, partneriaeth a chydweithio er mwyn sicrhau Cymru werddach. Byddwn yn annog pob busnes bwyd a diod yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd hyn ar gyfer mwy o gydweithio.”

Gall unigolion sydd â diddordeb gadw lle yn un o’r cyfarfodydd drwy e-bostio sustainabilitycluster@levercliff.co.uk

Share this page

Print this page