Mae stad fferm organig flaenllaw ger Corwen, gogledd Cymru wedi ymuno â Chlwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru i ddathlu Mis B Corp yn ystod mis Mawrth.

Fel rhan o’r dathliad, mae Stad y Rhug yn cynnal digwyddiad hyrwyddo yn eu siop fferm, sy’n cynnwys detholiad o gwmnïau bwyd a diod B Corp Cymreig. Mae’r digwyddiad  hyrwyddo yn y siop sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd tan ddiwedd y mis, yn amlygu ymrwymiad cwmnïau Cymreig i arferion busnes cynaliadwy a moesegol, ac yn rhoi cyfle i gwsmeriaid ddarganfod a chefnogi B Corps lleol.

Bydd y dathliadau yn Stad y Rhug yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion gan gwmnïau bwyd a diod B Corp Cymreig, yn ogystal â gwybodaeth ac adnoddau am y cwmnïau a mudiad ehangach B Corp. Mae'r B Corps Cymreig canlynol yn cymryd rhan yn y dathliadau; Coaltown Coffee, Drop Bear Beer, Flawsome, Halen Môn, Hilltop a Wholebake. Gwahoddir cwsmeriaid i ymweld â’r siop ac ymuno yn y dathliadau, cefnogi busnesau lleol a dysgu mwy am sut mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn gweithio tuag at greu diwydiant cynaliadwy.

Mae Alison Lea-Wilson, cyd-sylfaenydd Halen Môn, yn un o’r cwmnïau bwyd a diod B Corp Cymreig sy’n arddangos eu cynnyrch yn y digwyddiad ac yn rhannu ei chyffro am y dathliadau,

“Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o ddathliad mis B Corp ar Stad y Rhug. Fel B Corp Cymreig, rydyn ni wedi ymrwymo i ddefnyddio ein busnes fel grym er daioni, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos ein cynnyrch a rhannu ein gwerthoedd gyda chwsmeriaid y Rhug.”

Mae Clwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru yn tyfu’n barhaus ac yn darparu adnodd gwerthfawr i fusnesau bwyd a diod ffynnu a llwyddo. Trwy rannu gwybodaeth ac arfer gorau, gall busnesau ledled Cymru gael mynediad at arbenigedd ac arloesedd, mewnwelediad i’r farchnad, brandio digwyddiadau, yn ogystal â chymorth un i un ar gyfer ardystiad B Corp.

Wrth sôn am y bartneriaeth hon â Stad y Rhug, dywedodd Mark Grant, hwylusydd y Clwstwr Cynaliadwyedd,

“Un o nodau’r Clwstwr Cynaliadwyedd yw annog mwy o fusnesau i ymuno â mudiad B Corp a rhoi’r cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r ardystiad hwn. Rydyn ni wrth ein bodd bod nifer o gwmnïau Cymreig bellach wedi dod yn B Corp, ac mae’n dangos bod y diwydiant yn symud i’r cyfeiriad cywir.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau bwyd a diod i dyfu’r nifer hwn ymhellach, a chredwn, trwy gydweithio, y gallwn greu dyfodol mwy cynaliadwy a theg i bawb.”

Dywedodd yr Arglwydd Niwbwrch, perchennog y stad fferm organig 12,500 erw, am yr ymgyrch,

“Mae creu elw yn un peth, ond creu effaith gadarnhaol ar gymdeithas a’r amgylchedd wrth wneud hynny sy’n arloesol.

“Yn Stad y Rhug rydyn ni’n arwain o’r blaen drwy gofleidio cynaliadwyedd ac yn annog eraill i wneud yr un peth. Dyna hanfod B Corp a pham rydyn ni’n falch o fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch bwysig hon."

Mae B Corp yn cael ei ystyried yn safon aur ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae'n cynnwys ymagwedd gyfannol sy'n gofyn am ymgysylltiad o bob agwedd ar fusnes i ennill a chynnal ardystiad. Mae hyn yn cynnwys sut mae’r busnes yn gweithredu, ei strwythur, ei weithwyr a’i brosesau cynhyrchu, ochr yn ochr â thryloywder ac atebolrwydd.

Mae busnesau sydd eisiau cael ardystiad yn cael Asesiad Effaith B Corp sy'n gwerthuso arferion ac allbynnau cwmni ar draws pum categori: llywodraethu, gweithwyr, cymuned, yr amgylchedd, a chwsmeriaid.

Mae Mis B Corp yn ymgyrch fyd-eang flynyddol. Bob blwyddyn yn ystod mis Mawrth, mae B Lab a chymuned fyd-eang B Corp yn uno i ddathlu popeth mae’n ei olygu i fod yn B Corp.

I gael rhagor o wybodaeth am B Corp a’r cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sydd wedi ennill achrediad, ewch i bwyd-diod.cymru/busnes / Bwyd a Diod Cymru - Lleihau gwastraff bwyd, pecynnu ac ynni (bwyd-diod.cymru)

Share this page

Print this page