Mae teithwyr yn Paddington yn mynd i gael cyfle i flasu ac i brynu rhai o'r cynhyrchion bwyd a diod gorau o Gymru mewn sioe a fydd yn cael ei chynnal yn yr orsaf ddydd Iau, 14 Mehefin. 

Fe fydd y Prif Weinidog yn galw mewn i ymweld â’r wyth cwmni bwyd a diod o Gymru sy’n arddangos eu cynhyrchion yn yr orsaf ac sy’n cynnig cyfle i'r teithwyr flasu a phrynu amrywiaeth o gynnyrch uchel ei ansawdd o Gymru. 

Bydd y teithwyr yn gallu blasu cynhyrchion amheuthun o bob cwr o Gymru, gan gynnwys cawsiau sydd wedi ennill gwobrau, cyffeithiau, teisennau, hufen iâ a chigoedd wedi'u halltu, gan olchi'r cyfan i lawr â seidr, mathau gwahanol o gwrw, a diodydd meddal. 

Mae'n adeiladu ar ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn yr orsaf yn y gorffennol ac mae'n gydnabyddiaeth bellach i'r enw da sydd gan sector bwyd a diod Cymru yn y DU.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:  "Mae bwyd a diod o Gymru wedi ennill enw da haeddiannol am fod yn unigryw ac yn gynnyrch uchel ei ansawdd. Mae gennym dargedau uchelgeisiol ac rydyn ni am weld y diwydiant yn tyfu 30%, gan ddod yn werth £7 biliwn erbyn 2020. Rydyn ni'n agos iawn at gyrraedd y targed hwnnw'n gynnar.

"Mae'r digwyddiad hwn heddiw yn gyfle arall i gwmnïau bwyd a diod o Gymru arddangos eu cynhyrchion y tu allan i Gymru ac mae'n gydnabyddiaeth bellach o'r parch tuag at y sector. 

"Mae'n arbennig o amserol wrth inni baratoi i adael yr UE.  Bydd y diwydiant bwyd a diod yn sector ‘sylfaen’ allweddol inni ar ôl Brexit. Rydyn ni'n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau diwydiant cryf a ffyniannus yng Nghymru ar ôl inni adael yr UE. 

"Dwi'n gobeithio y bydd teithwyr yn Paddington yn mwynhau blasu'r arlwy amheuthun a fydd ar gael yn yr orsaf ac yn achub ar y cyfle i brynu'r cynhyrchion uchel eu hansawdd a fydd ar werth."

Share this page

Print this page