Mae menter adnabod a lansiwyd i godi proffil draenogiaid y môr Cymru yn rhoi hwb ariannol i bysgotwyr a chyfanwerthwyr pysgod Cymru.

Wedi’u gwobrwyo am eu hansawdd a’u blas, draenogiaid y môr yw un o'r prif rywogaethau pysgod esgyll a gaiff eu dal o amgylch arfordir Cymru ac, yn 2022, daethpwyd â thua 53 tunnell o ddraenogiaid y môr i’r lan yng Nghymru.

Lansiwyd y treial yn 2023 ac mae cynllun peilot tagio draenogiaid y môr #BwydMôrCymru wedi gweld pysgotwyr yn tagio’r draenogiaid y môr maen nhw wedi’u dal yn gyfrifol. Mae hyn yn rhoi sicrwydd o ran cynaliadwyedd ac olrhain i gwsmeriaid ac yn helpu i gadw stociau pysgod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae gan bob tag rif unigryw, a gall cwsmeriaid ddarganfod ymhle y daliwyd pob draenogyn y môr – a dysgu rhagor am y pysgotwyr a'u hymrwymiad i ddiwydiant pysgota Cymru – drwy nodi’r rhif ar www.seafoodwales.co.uk

Ers ei gyflwyno, dywed cyfanwerthwyr pysgod eu bod yn cael prisiau uwch am y draenogiaid y môr sydd wedi'u tagio, sy'n dyst i ymdrech gyfunol cymuned bysgota Cymru i gydweithio er cynaliadwyedd a ffyniant economaidd.

Un cyfanwerthwr sydd wedi gweld buddion y cynllun yw Jake Davies, rheolwr gyfarwyddwr Atlantic Edge Shellfish Ltd yn Sir Benfro. Dywedodd: “Mae'r tagiau yn tynnu sylw at darddiad bwyd môr Cymru yn dda, a gwelwn ein bod yn cael gwell pris ar gyfer y rhai sydd â'r tagiau gan fod y cwsmeriaid yn gallu gweld o ble maen nhw'n dod.”

Mae saith pysgotwr o Gymru yn cymryd rhan yng nghynllun tagio Clwstwr Bwyd Môr Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru. Rhaid i’r pysgod, a gaiff eu dal ar linell yn bennaf, fod o isafswm maint ac ansawdd, a dim ond yn ystod tymor draenogiaid y môr y caniateir pysgota. Mae'r tymor pysgota ar gyfer draenogiaid y môr rhwng 1 Ebrill a 31 Ionawr yng Nghymru i ganiatáu tymor caeedig ar gyfer silio.

Dywedodd Chris Parker, Rheolwr y Clwstwr Bwyd Môr: “Mae'r prosiect tagio draenogiaid y môr yn tynnu sylw at darddiad ac ansawdd y pysgodyn gwyllt hwn a gaiff ei ddal yn nyfroedd Cymru. Mae pysgota draenogiaid y môr yng Nghymru yn cael effaith isel, ar raddfa fach, ac yn gwbl olrheiniadwy. Mae prynu draenogiaid y môr lleol o Gymru yn helpu i gefnogi pysgotwyr mewn cymunedau arfordirol ledled Cymru.”

Mae’r cynllun tagio draenogiaid y môr #BwydMôrCymru yn dilyn ôl traed y fenter brandio cimychiaid #BwydMôrCymru. Mae'r cynllun yn rhoi hyfywedd i gwsmeriaid ac yn eu galluogi i adnabod cimychiaid Cymreig ar adeg eu gwerthu. Mae'r pysgotwyr yn addo defnyddio potiau sydd wedi'u cynllunio i ganiatáu i gimychiaid rhy fach ddianc a rhyddhau unrhyw gimychiaid benywaidd sy'n bridio. 

Mae llwyddiant y cynllun tagio draenogiaid y môr #BwydMôrCymru hefyd yn cyd-fynd â gwaith ymchwil ar ddewisiadau bwyd a diod defnyddwyr, sy’n dangos tuedd gynyddol o ran cefnogaeth i gynnyrch Cymreig.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil ‘Gwerth Cymreictod’, a gyhoeddwyd hydref y llynedd, gan Raglen Mewnwelediadau Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru ac fe ddadansoddodd agweddau cwsmeriaid tuag at fwyd a diod o Gymru.

Canfu'r ymchwil fod tri chwarter y siopwyr yn credu ei bod yn bwysig i fanwerthwyr gael mwy o amrywiaeth o frandiau Cymreig, gyda dwy ran o dair o'r rhai a holwyd yn dymuno gweld mwy o gynnyrch Cymreig yn y siop. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca Davies: “Mae'n wych bod sector pysgota Cymru eisoes yn elwa o'r cynllun tagio draenogiaid y môr #BwydMôrCymru. 

“Gwyddom fod defnyddwyr yn chwilio am gynnyrch Cymreig yn gynyddol, ac mae'r tagiau yn ffordd hawdd o adnabod y pysgod a'r pysgod cregyn o ansawdd sydd ar gael o amgylch ein glannau.”

Share this page

Print this page