Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru werth £797 miliwn yn 2022, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.
Pan oedd y RWAS yn ei anterth a thorfeydd yn mwynhau rhai o gynhyrchion bwyd a diod gorau Cymru, datgelodd y Gweinidog fod allforion y diwydiant wedi cynyddu £157m rhwng 2021 a 2022, sy'n gynnydd o 24.5%.
Mae hyn yn gynnydd canrannol mwy na'r DU gyfan, a gynyddodd 21.6%.
Y categorïau allforio gwerth uchaf ar gyfer Bwyd a Diod Cymru yn 2022 oedd Cig a Chynnyrch Cig ar £265m, cynnydd o 42% ers 2021, a Grawnfwyd a Pharatoadau Grawnfwyd, cynnydd o 16% i £160m.
Cyrhaeddodd gwerth allforion y sector i'r UE £594m, cynnydd o £130m ers 2021. Roedd allforion y diwydiant i wledydd y tu allan i'r UE werth £203m yn 2022, twf mawr o £176m yn 2021.
Ffrainc bellach yw'r gyrchfan gwerth uchaf ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru, ar £150m. Ymhlith y prif gyrchfannau eraill mae Gweriniaeth Iwerddon (£145m), Gwlad Belg (£78m), yr Iseldiroedd (£52m), a'r Almaen (£51m).
Meddai y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae allforion bwyd a diod o Gymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan sicrhau fod pobl mewn llawer o wledydd dramor yn gallu mwynhau cynnyrch o ansawdd uchel o Gymru.
"Mae sgiliau, brwdfrydedd ac angerdd y sector i ddarparu'r cynnyrch gorau posibl yn glir o'r canlyniadau heddiw.
"Rwy'n falch o allu gwneud y cyhoeddiad hwn yn Sioe Frenhinol Cymru sy'n rhoi cyfle i gwmnïau o bob cwr o Gymru arddangos eu bwyd a'u diod gwych, ac rwy'n siŵr bod ymwelwyr o bell ac agos yn mwynhau."
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi cynllun newydd, y Cynllun Arloesi Strategol, i ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth busnes i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru.
Fel rhan o hyn, bydd Prosiect Helix, sy'n cynnig cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn parhau tan fis Mawrth 2025.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Helix, a lansiwyd yn 2016, wedi rhoi hwb economaidd o £355 miliwn i'r diwydiant, wedi helpu i greu 683 o swyddi ac wedi diogelu 3,647 o swyddi. Mae mwy na 700 o fusnesau wedi cael cefnogaeth drwy'r cynllun a datblygwyd bron i 2,100 o gynhyrchion bwyd a diod newydd.
Diolch i'r cyhoeddiad heddiw, bydd y prosiect bellach yn gallu cefnogi gweithgynhyrchwyr mwy yng Nghymru ochr yn ochr â busnesau bach a chanolig sydd eisoes wedi elwa.
Dywedodd Mike Woods, Prif Weithredwr Just Love Food Company: "Ers i'r cwmni cyswllt ymuno â'r busnes trwy Brosiect Helix mae ein trosiant wedi tyfu dros 65% ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y strwythurau technegol mwy cadarn hynny sydd ar waith. Mae Prosiect Helix wedi helpu'r busnes i dyfu ac mae wedi helpu i osod sylfaen fydd yn helpu i barhau i dyfu."
Ychwanegodd y Gweinidog: "Bydd y Cynllun Arloesi Strategol yn sail i Weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod.
"Fel rhan o'r Prosiect hwn, bydd HELIX, sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ddiwydiant bwyd a diod Cymru, gan helpu cwmnïau i fabwysiadu dull mwy effeithlon a strategol, yn parhau tan fis Mawrth 2005.
"Mae effaith gadarnhaol y prosiect yn glir i'w weld trwy'r hwb economaidd o £355 miliwn y mae wedi'i roi yn ogystal â nifer y swyddi newydd y mae wedi helpu i'w creu a'r miloedd y mae wedi'u diogelu. Mae hefyd wedi bod yn allweddol wrth uwchsgilio gweithlu Cymru, a chefnogi busnesau i ddatblygu cynnyrch newydd."