Mae un o fragdai mwyaf adnabyddus Cymru yn dathlu llwyddiant dwbl rhyngwladol ar ôl curo gwrthwynebwyr o wledydd fel yr Almaen, Ffrainc a’r UDA i ennill dwy fedal aur yng ngwobrau Cwrw’r Byd Tlws Rhyngwladol Frankfurt. Yn ogystal â Wrexham Lager yn ennill y wobr aur am lager allforio, llwyddodd eu lager Bootlegger Pilsner, sydd wedi cael ei enwi a’i gymeriadu ar ôl ffefryn lleol ar-lein sy’n parhau i ennyn poblogrwydd ledled y DU, i ennill y wobr aur am y lager Pilsner gorau.

Mae Tlws Rhyngwladol Frankfurt yn derbyn ceisiadau gan gwmnïau diod ledled y byd, a phob blwyddyn caiff bron i 3,000 cwrw, gwin a gwirod eu beirniadu. Mae llwyddiant Wrexham Lager eleni hyd yn oed yn fwy nodedig o ystyried mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ymgeisio. 

Vaughan Roberts yw cyfarwyddwr Wrexham Lager ac mae wrth ei fodd gyda’r llwyddiant,

“Rydyn ni’n amlwg yn hapus iawn bod ein cynnyrch yn cael ei ystyried yn un o’r goreuon – ac mae hyn yn cael ei ategu gan yr adborth gwych rydyn ni’n ei dderbyn yn rheolaidd gan ein cwsmeriaid. Rydyn ni ar ben ein digon ynghylch y llwyddiant dwbl yn y gwobrau pwysig hyn – sy’n dilyn ein llwyddiant diweddar yn ennill y wobr arian yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Lyon.

“Er mai marchnad ddomestig y DU yw ein prif darged fel erioed, rydyn ni wedi bod yn mentro fwyfwy i’r farchnad allforio, a chafodd Japan flas o’n lager yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd, a bydd y wobr hon yn helpu cryfhau ein gweithgarwch allforio.”

Gyda’r pandemig presennol yn amlwg yn effeithio ar eu busnes, mae Wrexham Lager, fel nifer o gwmnïau eraill, wedi gorfod addasu i gwrdd ag anghenion cynulleidfaoedd newydd fel yr eglura Vaughan,

“Gan fod tafarndai a bwytai ar gau rydyn ni wedi canolbwyntio’n fwy ar werthu ein cynhyrchion mewn poteli ar-lein, sydd wedi bod mor boblogaidd nes i’r wefan dorri i lawr ar un achlysur. Roedd yr ymateb yn anhygoel o ystyried nad oedden ni erioed wedi gwerthu ar-lein cyn y cyfnod clo. Rydyn ni’n parhau i dderbyn archebion o bob cwr o’r DU ac rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at ehangu ein busnes ymhellach, gan gynnwys i Iwerddon a gobeithio y gallwn ni allforio’n rhyngwladol, ryw ddiwrnod.

“Bydd gweld pa mor bell y gall y gwasanaeth barhau i ehangu yn y dyfodol yn gyffrous a rydyn ni’n mawr obeithio y bydd y sector lletygarwch hefyd yn dechrau masnachu eto’n fuan ac y gallwn ni ailddechrau cynnig ein cynnyrch llwyddiannus i’n cwsmeriaid ar ddrafft.”

Wrth sôn am lwyddiant y bragdy, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Rydyn ni’n gwybod erioed bod bwyd a diod Cymru o’r radd flaenaf a dyma ragor o brawf ei fod cystal os nad gwell nag unrhyw beth arall yn y byd. Hyd yn oed yn ystod y cyfnod heriol hwn rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd o gynyddu ein marchnadoedd allforio, ac mae llwyddiannau fel hyn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni symud tuag at ddiwedd y cyfnod clo ac ailadeiladu ein diwydiannau.

“Hoffwn longyfarch Wrexham Lager ar eu llwyddiant anhygoel, nid yn unig gyda’r gwobrau hyn, ond ar eu gwydnwch wrth addasu’r cynhyrchion maen nhw’n eu masnachu yn ystod cyfnod mor anodd. Rwy’n sicr bod dyddiau gwell i ddod ac rydyn ni fel Llywodraeth Cymru yn mynd i ymdrechu i gefnogi ein diwydiant bwyd a diod hanfodol wrth inni ailadeiladu’r economi.”   

Mae Tlws Rhyngwladol blynyddol Frankfurt yn dwyn ynghyd bron i 3,000 o samplau cwrw, gwin a gwirod o 50 o wledydd. Eleni, oherwydd Covid-19, trefnwyd sesiynau blasu preifat er mwyn penderfynu ar yr enillwyr terfynol.

 

 

Share this page

Print this page