Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru ar fin creu tipyn o argraff yn Gulfood, un o arddangosfeydd bwyd a diod mwyaf y byd, a gynhelir yn Dubai yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Gulfood 2025 yn ddigwyddiad pum diwrnod a gynhelir rhwng 17 a 21 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai. Disgwylir iddo groesawu 5,500+ o arddangoswyr o dros 190 o wledydd, gan ddatgelu cyfleoedd busnes newydd, cyfarfod â chyflenwyr, blasu cynhyrchion bwyd newydd, a chynorthwyo gydag atebion i heriau byd-eang newydd a rhai sy’n esblygu.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd pymtheg cwmni o bob rhan o’r diwydiant yn mynychu o dan faner Bwyd a Diod Cymru, pob un yn gobeithio agor marchnadoedd allforio newydd.
Roedd allforion bwyd a diod o Gymru i wledydd y tu allan i’r UE werth £202m yn 2023, gyda rhanbarth y Dwyrain Canol yn farchnad allforio fawr i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
Mae gan Gymru berthynas hir â Gulfood, sydd wedi helpu hyrwyddo amrywiaeth o’i chynhyrchion i’r rhanbarth ehangach ac wedi bod yn darged twf allweddol i’r diwydiant. Roedd allforion i’r Emiradau Arabaidd Unedig yn unig werth £13m yn 2023, cynnydd o £4.3m ers 2019, sef yr ail fwyaf y tu allan i’r UE.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS,
“Mae mynychu digwyddiadau masnach fel Gulfood yn hanfodol i’n cynhyrchwyr bwyd a diod. Mae’n rhoi cyfle amhrisiadwy i arddangos ansawdd ac arloesedd eithriadol cynnyrch Cymreig ar lwyfan byd-eang.
“Nid mater o gynyddu gwerthiant yn unig yw ehangu ein marchnadoedd allforio, mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd parhaol a gwella enw da Cymru ledled y byd. Rwy’n falch iawn o weld bod cynifer o’n cynhyrchwyr blaenllaw yn mynd i fod yn bresennol eleni, ac yn falch o gynrychioli ein diwydiant bwyd a diod gwych.”
Mae’r cwmnïau Cymreig sy’n arddangos yn yr arddangosfa yn cynnwys Dairy Partners Limited, Rachel’s Dairy, Castle Dairies Ltd a Calon Wen Dairy Produce Ltd yn y Neuadd Laeth (Neuadd 2 – Rhif Stondin: A2-24), Mornflake Mighty Oats, Cig Oen Cymru PGI, What’s Cooking? a Hilltop Honey Limited yn y Neuadd Ryngwladol (Neuadd 1 Rhif Stondin S1/B10). Mae Cwmfarm Charcutier Products, Welsh Lady Preserves, Wrexham Lager, Distyllfa Penderyn, Princes Group, Ocean Bay Seafoods Ltd a Golden Hooves hefyd yn mynychu Gulfood fel rhan o’r ymweliad allforio.
Mae Jack Davies, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol Hilltop Honey, yn llawn cyffro bod y cwmni’n cymryd rhan yn Gulfood 2025. Byddant yn arddangos fel rhan o ddirprwyaeth Cymru yn y Neuadd Ryngwladol, ac mae Hilltop Honey yn edrych ymlaen at fanteisio ar y cyfle i ehangu eu presenoldeb yn y farchnad ac arddangos eu cynhyrchion wedi’u hailfrandio.
“Dyma fydd ein chweched tro yn mynychu Gulfood. Rydyn ni’n disgwyl sicrhau busnes newydd a dosbarthwyr newydd, tra hefyd yn ailgysylltu â chwsmeriaid presennol i arddangos ein hailfrandio.
“Mae Gulfood yn cynnig llwyfan heb ei ail i ni gyflwyno ein cynhyrchion mêl o ansawdd uchel i gynulleidfa fyd-eang. Rydyn ni wastad wedi gweld y digwyddiad hwn yn hynod werthfawr ar gyfer rhwydweithio ac archwilio cyfleoedd newydd yn y farchnad.
“Eleri, rydyn ni’n edrych ymlaen yn arbennig at gyflwyno ein pecynnau newydd a chael adborth gan gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid. Mae'n ffordd wych o brofi'r farchnad a meithrin perthnasoedd parhaol yn y diwydiant."
Cwmni arall sy'n arddangos yn y Neuadd Laeth yw Mornflake Mighty Oats, brand enwog o dan Morning Foods, sydd ar fin creu cryn argraff. Maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn 350, ac yn un o'r cwmnïau hynaf sy'n eiddo i deulu yn y DU.
Mae Richard Jones, Rheolwr Gwerthiant Rhyngwladol Mornflake Mighty Oats (Morning Foods), wrth ei fodd eu bod yn cymryd rhan,
"Rydyn ni wedi bod yn mynychu Gulfood ers blynyddoedd lawer, ond mae 2025 yn ddigwyddiad cyffrous i ni gan ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 350 oed - y 4ydd cwmni teuluol hynaf yn y DU. Mae’n cael ei reoli ar hyn o bryd gan y 15fed genhedlaeth, a byddwn yn tynnu sylw at ein pecyn Ceirch Allforio newydd.
“Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i gysylltu â chwsmeriaid newydd a phresennol, ac rydyn ni’n awyddus i gyflwyno ein treftadaeth a’n cynhyrchion o safon ar y platfform mawreddog hwn.”
Rhannodd Ruth Davies, perchennog Cwmfarm Charcuterie, ei chyffro ynghylch y digwyddiad,
“Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio'r farchnad yn Dubai am y tro cyntaf, rhywle rydyn ni wedi bod eisiau gweld pa gyfleoedd sydd yno ers sbel. Fel cwmni, rydyn ni’n gobeithio denu cwsmeriaid newydd, creu gwerthiant, a gwneud cysylltiadau newydd. Mae'n ffordd wych o brofi'r farchnad gyda'n Biltong.
“Rydyn ni wedi ailfrandio'n ddiweddar ac mae gennyn ni becynnau newydd rydyn ni’n edrych ymlaen at eu harddangos yn Guilford a chael adborth ar y cynnyrch.”
Bydd gweithgarwch hefyd ar Stondin Ryngwladol Bwyd a Diod Cymru S1/B10 ar gyfer gwesteion yn unig, i flasu ychydig o'r bwyd a diod Cymreig blasus sydd ar gael yn y Dwyrain Canol, sy'n rhan o sioe deithiol Blas Cymru / Taste Wales.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes gydag allforio, ewch i https://busnescymru.llyw.cymru/allforio/.