Mae Bwyd a Diod Cymru yn galw ar Gonsortiwm Unicode – y sefydliad byd-eang sy'n gyfrifol am reoleiddio'r portffolio rhyngwladol o emojis, a elwir yn Safon Unicode – i gynnwys emoji bwyd neu ddiod o Gymru.

Mae Bwyd a Diod Cymru, sef is-adran Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'r diwydiant bwyd a diod, yn gobeithio y bydd presenoldeb emoji bwyd neu ddiod o Gymru yn codi ymwybyddiaeth am ein diwylliant coginio adnabyddus a'n sector bwyd a diod ffyniannus. 

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y sector y ffigur trosiant blynyddol uchaf erioed o £7.47 biliwn, sy'n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o £7 biliwn erbyn 2020, ac yn cynrychioli twf o 30% yn y sector ers 2014.

Daw'r ymgyrch ddiweddaraf yn sgil yr ymgyrch hir dros ychwanegu baner Cymru at y bysellfwrdd emoji yn 2017.

Mae Consortiwm Unicode yn rhyddhau llai na chant o emojis newydd bob blwyddyn yn seiliedig ar gynigion gan unigolion a sefydliadau sy'n gallu cyflwyno'u hachos gyda thystiolaeth yn dangos pam mae pob un yn hanfodol. Mae'r ffaith bod cyn lleied o emojis newydd yn cael eu rhyddhau yn golygu bod cystadleuaeth ffyrnig ac mae'r rhan fwyaf o geisiadau'n cael eu gwrthod.

Yn seiliedig ar yr emojis newydd a gafodd eu rhyddhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n amlwg bod emojis bwyd a diod wedi dod yn un o'r dylanwadau mwyaf yn Safon Unicode.

Yn 2019, rhyddhawyd 59 o emojis newydd arbennig fel rhan o becyn Emoji 12.0, gydag emojis bwyd a diod newydd yn cynnwys garlleg, winwns, waffl, menyn ac wystrys, ynghyd â chynnwys mwy ardal-benodol fel Mate, sef diod caffein traddodiadol o Dde America, a Falafel, sef pati ffacbys o'r Dwyrain Canol.

Fe ddaethon nhw'n rhan o gasgliad o emojis bwyd a diod sydd wedi dod yn fwyfwy byd-eang dros y blynyddoedd diwethaf i gynnwys cynhwysion neu seigiau sy'n gysylltiedig â diwylliannau a gwledydd penodol. Ers 2010, mae emojis yn cynnwys sushi, burrito, cyri, pitsa, nwdls a saké wedi'u hychwanegu, ac mae datblygiadau allweddol eraill yn cynnwys dyfodiad y taco y bu'r cwmni bwyd cyflym, Taco Bell, o'r Unol Daleithiau yn lobïo amdano yn 2015, a dyfodiad hir-ddisgwyliedig yr afocado yn 2016.

Bydd Bwyd a Diod Cymru yn cyflwyno nifer o opsiynau emoji posib sydd â chysylltiad uniongyrchol â Chymru i Gonsortiwm Unicode. Mae'r dyluniadau i'w hystyried yn cynnwys cig oen Cymru, pice ar y maen neu'r gacen gri, cennin, Bara Brith a Chaws Caerffili.

Mae'r sefydliad yn gofyn am gymorth gan y cyhoedd i ddewis rhestr fer derfynol. Mae pôl piniwn ar sianel Twitter Bwyd a Diod Cymru, a chroesawir adborth.
 

Cig oen Cymru

Mae cig oen Cymru yn cael ei ystyried yn eang fel y gorau yn y byd, ac mae ganddo Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig, sef y nod y mae galw mawr amdano sy'n gwarantu eich bod yn prynu cynnyrch premiwm o safon. Mae'r cynnyrch yn ganlyniad canrifoedd o ddulliau hwsmonaeth traddodiadol, cenedlaethau o arbenigedd bridio, a digonedd o dir pori naturiol. Mae cig oen Cymru yn cael ei weini ym mwytai gorau'r byd ac mae'n ffefryn gan rai o brif gogyddion y byd.

Pice ar y maen neu'r gacen gri

Mae pice ar y maen wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein hanes ni ac maen nhw'n ffefrynnau gyda phobl o Fôn i Fynwy a thwristiaid fel ei gilydd. Yn draddodiadol, maen nhw'n cael eu gwneud gyda chymysgedd o flawd, menyn, cyrens, wyau, llaeth, a sbeisys fel sinamon a nytmeg, ac mae'r cacennau bach crynion yn cael eu coginio fel arfer ar lechen grasu a gallwch eu mwynhau naill ai'n gynnes neu'n oer.

Cennin

Mae un o symbolau cenedlaethol Cymru, y genhinen fach, wedi bod yn gysylltiedig â'r Cymry ers amser maith. Mae straeon am darddiad y genhinen yn frith ond, yn gyffredinol, y consensws yw bod Dewi Sant, nawddsant Cymru, wedi gorchymyn i'w filwyr wisgo'r genhinen ar eu helmedau mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid paganaidd a ddaeth i Brydain. Dywedir hefyd bod y frwydr ei hun wedi digwydd mewn cae oedd yn llawn cennin.

 

Bara Brith

Torth ffrwythau frasterog wedi'i gwneud â the yw Bara Brith. Mae'n glasur o gacen ac yn flasus iawn pan fyddwch chi'n ei gweini gyda thrwch o fenyn hallt a phaned o de.

Caws Caerffili

Caws caled gwyn, briwsionllyd sy'n tarddu o dref Caerffili yn y de-ddwyrain. Cafodd ei gynhyrchu am y tro cyntaf tua 1830, ac roedd yn ffefryn ymysg glowyr gan ei fod yn berffaith fel rhan o'u cinio tra roedden nhw o dan y ddaear. Mae'n rhaid i Gaws Caerffili traddodiadol gael ei gynhyrchu â llaeth o ffermydd Cymru. Yn 2018, enillodd Caws Caerffili Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig, gan ei godi i'r un rhengoedd â chig oen Cymru, halen môr Môn a thatws cynnar Sir Benfro.

 

Wrth siarad am yr angen am emoji o fwyd neu ddiod o Gymru, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Gyda thirwedd a diwylliant bwyd a diod mor gyfoethog ac amrywiol â'r un sydd gennym ni yng Nghymru, byddai'n braf iawn gweld hyn yn cael ei adlewyrchu fel emoji yn Safon Unicode er mwyn iddo fod yn un o'r biliynau o emojis sy'n cael eu hanfon bob dydd."

 


 

 

Share this page

Print this page