Er gwaethaf heriau pandemig COVID-19, mae diwydiant bwyd a diod Cymru wedi manteisio ar y cyfle i arloesi a newid gyda digwyddiadau masnach rhyngwladol ac ymweliadau'n cael eu disodli gan deithiau masnach rhithwir i wledydd fel Awstralia a Seland Newydd.

Cynhaliodd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir ar gyfer aelodau Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru ym mis Mehefin, pob un yn ceisio datblygu a chryfhau cysylltiadau busnes, masnach ac allforio yn Awstralia a Seland Newydd.

Ers hynny, mae chwe chwmni bwyd a diod o Gymru a gafodd gyfle i gyfarfod darpar brynwyr, dosbarthwyr a mewnforwyr drwy gyswllt fideo wedi cael adborth cadarnhaol, ac wedi sicrhau cyfleoedd busnes.

Mae'r rhan fwyaf o gynhyrchion y cwmni halen môr organig Halen Môn wedi sicrhau lle ar restr nwyddau’r cyfanwerthwr bwyd arbenigol Deluxe Foods, o gydau 100g, setiau rhodd a bagiau bychain, i ddŵr mwg a sawsiau.

Mae Deluxe Foods yn gwerthu i'r sectorau gwasanaeth bwyd a'r farchnad fanwerthu ledled Brisbane, Sunshine Coast, yr Arfordir Aur ac mor bell i'r gogledd â Cairns, i lawr i Grafton ac allan i'r gorllewin i ranbarth Queensland.

Mae Alison Lea-Wilson, cyfarwyddwr Halen Môn wrth ei bodd gyda'r busnes newydd, gan ddweud,

"Yn dilyn nifer o gyfarfodydd gyda dosbarthwyr a mewnforwyr posibl, gwnaethom ni setlo ar Deluxe Foods. Roedden nhw’n gyfarwydd â'n brand a'n nwyddau, a hyd yn oed Ynys Môn, gan fod y prynwr yn hannu’n wreiddiol o Swydd Gaer.

"Archebon nhw nwyddau sydd i fod i gyrraedd yn fuan iawn ac mae gennym ni gynlluniau i gynnal sesiynau blasu rhithwir gyda'u tîm gwerthu yn ogystal â chydweithio ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd marchnata eraill.

"Rydym ni mor ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu'r rhaglen hon, ac i BIC a'u partneriaid yn Awstralia am eu holl gefnogaeth a wnaeth hyn yn bosibl."

Mae Brand Hatchers o dde Cymru wedi dechrau partneriaeth gyda Kadac, cwmni preifat o Awstralia, sy'n arbenigo mewn cynhyrchion iach organig, naturiol ar gyfer eu brand gwm cnoi naturiol, Nopla. Mae Nopla yn gwm cnoi di-blastig, bioddiraddadwy sy'n cael ei wneud o blanhigion â melysydd naturiol gyda blas gan olew naws.

Dywedodd Emily Howarth, Rheolwr Gyfarwyddwr Brand Hatchers,

"Rydym ni newydd dderbyn ein harcheb gyntaf a byddwn yn lansio yn Awstralia ym mis Mawrth 2021.

"Rydym ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Kadac ac mae gennym ni gynllun gwych ar waith i ddatblygu Nopla yn brif gwm cnoi amgen poblogaidd Awstralia yn ystod y blynyddoedd nesaf."

Y chwe chwmni o Gymru a fu'n rhan o'r Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir oedd Brand Hatchers Ltd, Halen Môn, Wholebake/9Brand Foods, Bragdy Mŵs Piws, Distyllfa Penderyn a Volac International Ltd. Targedwyd y rhaglen at allforwyr a chwmnïau mwy profiadol a allai neilltuo’r amser a’r adnoddau angenrheidiol i fod yn llwyddiannus yn y farchnad hon.

Cwmni arall sy'n dod yn ei flaen yn dda gyda chytundeb cyntaf posibl yn Awstralia yw’r cwmni bariau byrbryd protein a fegan 9Brand Foods, sydd wedi'i leoli yng Nghorwen.

Dywedodd Daniel Rush, Rheolwr Gwerthiant Rhyngwladol 9Brand Foods,

"Roedd y paratoadau ar gyfer y cwmnïau a gymerodd ran yn yr Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir yn anhygoel, gyda chyflwyniadau marchnad gan ddau ddosbarthwr gwahanol yn y farchnad yn ogystal â throsolwg cyffredinol o'r farchnad gan Foleys."

"Cefais gyfarfodydd gyda 6 darpar bartner gwahanol yn y farchnad, pob un yn rhoi opsiynau gwahanol iawn i ni gwsmeriaid. Fodd bynnag, rydym ni bellach yn agos at daro bargen ac mae disgwyl inni anfon ein harcheb gyntaf i Awstralia ddiwedd mis Chwefror/dechrau mis Mawrth.

"Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r mathau hyn o ymweliadau yn ddiguro ac yn hanfodol i'n llwyddiant wrth allforio."

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn credu, gydag enw da a tharddiad Cymru, fod llwyfan cryf ar gyfer twf pellach a all fod o fudd i bawb,

 "Mae hon yn ffordd wych i lawer o'n cwmnïau bwyd a diod arddangos eu cynnyrch a'u gallu, tra'n rhannu gwybodaeth mewn fformat sy'n addas i'r hinsawdd sydd ohoni.

"Yn y cyfnod heriol hwn lle nad yw teithio’n bell yn opsiwn gwirioneddol, mae taith fasnach rithwir yn gyfle gwych i dynnu sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol at eu cynnyrch yn ystod pandemig byd-eang Covid-19."

Roedd yr Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir yn gyfle unigryw i gynhyrchwyr gyfarfod darpar brynwyr, dosbarthwyr a mewnforwyr o Awstralia a Seland Newydd drwy gyfleusterau cynadledda fideo, heb orfod ymrwymo’r amser ac arian sylweddol y mae Ymweliad Datblygu Masnach llawn yn eu cynnwys.

 

Share this page

Print this page