Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn gweithio gyda nifer o ddarparwyr hyfforddiant i gynnig y cyfle i fusnesau yn y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau Arwain a Rheoli.
Pwrpas y cwrs hyfforddi yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfranogwyr er mwyn datblygu eu hunain fel arweinwyr tîm, rheolwyr neu oruchwylwyr.
Mae cynnwys y cwrs yn mynd i'r afael ag elfennau penodol o arwain a rheoli gan gynnwys nodi arddulliau arwain a deall yr effaith a gânt ar gydweithwyr; sut i ddefnyddio adborth a hunan-adolygu i wella sgiliau arwain unigolion, datblygu sgiliau cyfathrebu a hyrwyddo’r gallu i helpu timau i alinio â nodau a gweledigaeth drosfwaol sefydliadau.
Dau fusnes llwyddiannus sydd wedi manteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael yw’r arloeswyr cynnyrch llysieuol, The Parsnipship a’r bragwyr o Sir Benfro, Bluestone Brewing. Mae'r cyrsiau hyfforddi wedi helpu staff yn y ddau gwmni i ehangu a gwella eu sgiliau arwain a rheoli.
Cwblhaodd Amy Evans, Cyfarwyddwr Gwerthiant Bluestone Brewing yr hyfforddiant Arwain Tîm Pwrpasol,
“Rwy’n arbennig o ddiolchgar am yr hyfforddiant a’r gefnogaeth a ddarparwyd trwy’r cwrs hwn, ac yn teimlo’n llawer mwy hyderus wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud ag arwain a rheoli o fewn y busnes. Teimlaf hefyd fod gan fy nghydweithwyr fwy o hyder ynof i yrru’r cwmni yn ei flaen gyda dymuniadau, syniadau a chyfraniadau pob unigolyn mewn golwg. Rwy’n teimlo bod gan y staff nawr hefyd rywun i droi ati am gefnogaeth pan fo angen.”
Ychwanegodd Flo Ticehurst, Cyfarwyddwr The Parsnipship,
“Cwblhaodd ein rheolwr cynhyrchu y cwrs hyfforddi Arwain Tîm Cynhyrchu. Helpodd hyn hi i fyfyrio ar ei dull o reoli tîm y gegin ac i roi’r hyn a ddysgodd tra ar y cwrs ar waith. A ninnau’n fusnes sy’n tyfu ac wedi cyflogi staff newydd yn ddiweddar, mae ei thîm wedi dyblu mewn maint felly mae’r cwrs wedi bod yn hollbwysig i’w helpu i baratoi ar gyfer hyn.”
Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn cefnogi hyfforddiant achrededig a gall weithio gyda chwmnïau unigol i ddatblygu cyrsiau hyfforddi wedi’u teilwra’n arbennig, yn seiliedig ar ofynion penodol busnesau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyfforddi sydd ar gael, cysylltwch â Sgiliau Bwyd Cymru – www.sgiliaubwyd.cymru / wales@lantra.co.uk / 01982 552646