Mae Garddwriaeth Cymru wedi helpu i ffurfio Cwmni Budd Cymunedol, nid er elw, Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf., er mwyn helpu i hyrwyddo ffrwythau amrywiaethau Treftadaeth Gymreig.
Nod Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf. yw bod o fudd i berchnogion Perllannau Treftadaeth ledled Cymru, gan amddiffyn amrywiaethau Cymreig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yn rhoi llais i berchnogion a chynhyrchwyr Perllannau Treftadaeth Cymru ac yn eu galluogi i sefydlu Brand Cymreig a fydd yn helpu i hyrwyddo diogelwch bwyd ar gyfer Cymru drwy gynnig bwyd wedi'i dyfu'n lleol.
Dywedodd Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae'r sector garddwriaeth yn cynnig buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i gymunedau ledled Cymru. Bydd lansio amrywiaethau Perllannau Treftadaeth Cymru yn allweddol wrth hyrwyddo ein hamrywiaeth o afalau, rhywbeth a fydd yn helpu i gynnal gwytnwch i’n coed sy'n cynhyrchu ffrwythau ac amddiffyn ein treftadaeth ffermio.
Wedi'i leoli ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor a Chyfarwyddwr Prosiect Garddwriaeth Cymru, Aulay Mackenzie, 'Dyma gyfle gwych i hyrwyddo Perllannau traddodiadol Cymreig, ac i amddiffyn blas ffrwythau Treftadaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae’r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a bydd yn cael effaith uniongyrchol ar gynaliadwyedd yng Nghymru.’
Logo Perllannau Treftadaeth Cymru, hyrwyddo Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf.
Ychwanegodd Laura Gough, y Rheolwr Prosiect, 'Rydym yn llawn cyffro o allu parhau â'n gwaith Perllannau Treftadaeth drwy lansio'r logo newydd hwn yn y Sioe Frenhinol. Bydd y logo unigryw yn helpu pawb i adnabod amrywiaethau Perllannau Treftadaeth Cymru yn hawdd. Rydym wir yn edrych ymlaen at groesawu ein haelodau hen a newydd i'n stondin. Bydd digon i’w rannu â phawb drwy gydol y sioe.
Ar hyn o bryd, mae gan Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf. fwrdd yn cynnwys 8 cyfarwyddwr o ledled Cymru, sy'n cynnwys tyfwyr, cynhyrchwyr a chyflenwyr, er mwyn sicrhau ei fod yn cynrychioli pob ardal fel un llais. Maent hefyd yn ceisio cynnig cyngor, cymorth ac arweiniad i dyfwyr a chynhyrchwyr. Ar hyn o bryd, mae tua 40 aelod, ac mae nifer ohonynt yn berchnogion ar berllannau, ond mae hefyd wedi denu nifer o bobl eraill sydd eisiau plannu perllannau newydd gydag amrywiaethau Cymreig traddodiadol.
Mae yna hefyd frwdfrydedd am wyddoniaeth o fewn Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf. Drwy brofi DNA coed, gellir darganfod amrywiaethau Treftadaeth Cymreig newydd o hyd, a'u gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd aelodau o Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf. hefyd yn cyfrannu at dwristiaeth yng Nghymru drwy gynnig llwybrau blodau, sesiynau blasu seidr, a mwy, wrth i’r fenter ehangu.
Caiff prosiect Garddwriaeth Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r UE tan fis Mehefin 2023.
I ddysgu mwy, ewch i:
https://walesheritageorchards.co.uk/
neu
https://horticulturewales.co.uk/clusters/the-wales-national-heritage-orchard
Gallwch anfon e-bost atom; Horticulturecluster@glyndwr.ac.uk
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: @HortWales
I gael gwybod mwy am broffilio DNA. ewch i:
Proffilio DNA ym Mhrifysgol Aberystwyth - Rhwydwaith Afalau'r Gororau
Neu
Prawf Ôl Bysedd DNA o allu Prifysgol Aberystwyth - Rhwydwaith Afalau'r Gororau