Mae Cymru ar fin creu argraff flasus yn Gulfood 2024, un o arddangosfeydd bwyd a diod mwyaf y byd, a gynhelir yn Dubai fis nesaf, gyda dirprwyaeth o gwmnïau’n paratoi i arddangos eu cynnyrch o ansawdd uchel ar y llwyfan byd-eang.
Mae Gulfood 2024 yn ddigwyddiad pum diwrnod a gynhelir rhwng 19 a 23 Chwefror 2023 yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai. Disgwylir iddo groesawu 5500+ o arddangoswyr o dros 127 o wledydd, gan ddatgelu cyfleoedd busnes newydd, cyfarfod â chyflenwyr, blasu cynhyrchion bwyd newydd, a chynorthwyo gydag atebion i heriau byd-eang newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd deuddeg cwmni o bob rhan o’r diwydiant yn mynychu o dan faner Cymru, pob un yn gobeithio datgloi marchnadoedd allforio newydd.
Roedd allforion bwyd a diod o Gymru i wledydd y tu allan i’r UE werth £203m yn 2022, cynnydd mawr o £176m yn 2021. Mae hyn hefyd yn gynnydd sylweddol dros y tymor hwy, wedi cynyddu £58m ers 2018.
Mae gan Gymru gysylltiad hir â Gulfood, sydd wedi helpu i hyrwyddo amrywiaeth o gynnyrch bwyd a diod o Gymru i’r rhanbarth ehangach ac wedi bod yn darged twf allweddol i’r diwydiant. Roedd allforion i'r Emiradau Arabaidd Unedig werth £13m yn 2022, gan gynyddu £9.6m ers 2016. Yr Emiradau Arabaidd Unedig oedd â'r cynnydd mwyaf o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer marchnad y tu allan i'r UE rhwng 2021 a 2022. Yn y cyfamser, mewnforiodd Saudi Arabia werth tua £21m o gynnyrch Cymreig yn 2022, sef twf o £16.8m ers 2016.
Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd Llywodraeth Cymru a'r Trefnydd, Lesley Griffiths:
“Mae bwyd a diod o Gymru ymhlith y gorau yn y byd ac mae Gulfood yn gyfle pwysig i arddangos ein cynnyrch o ansawdd uchel i ddarpar gwsmeriaid o bedwar ban byd. Cyrhaeddodd allforion o’r sector yng Nghymru y lefel uchaf erioed yn 2022 ac rydyn ni eisiau ei weld yn parhau i dyfu, gan helpu i sicrhau twf economaidd a chreu swyddi.
“Mae allforion bwyd a diod o Gymru yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo ein diwylliant a’n treftadaeth unigryw. Mae pob cynnyrch sy’n cael ei allforio yn dyst i ansawdd, arloesedd ac ymroddiad ein cynhyrchwyr Cymreig. Mae’n gyfle i adrodd hanes Cymru a’i thraddodiadau cyfoethog. Dymunaf ddigwyddiad llwyddiannus iawn i bob busnes sy’n mynd i Gulfood yn Dubai.”
Mae’r cwmnïau Cymreig sy’n arddangos yn yr arddangosfa yn cynnwys Dairy Partners Limited, Castle Dairies, Golden Hooves, Daioni Organic a Rachel’s Organic Dairy yn y Neuadd Laeth (Rhif Stondin: A2-24), Princes Limited, Mornflake Mighty Oats, Dundeis UK Ltd a Hybu Cig Cymru yn y Neuadd Ryngwladol (Rhif Stondin: S1-B22). Mae cwmni Halen Môn, Sims Food Ltd (SamosaCo) a Dŵr Tŷ Nant hefyd yn mynychu Gulfood fel rhan o’r ymweliad allforio.
Mae Princes Limited, grŵp bwyd a diod blaenllaw, yn awyddus i gyflwyno eu detholiad o gynnyrch yn y digwyddiad. Dywedodd Ollie Evans, Rheolwr Gwerthiant Rhyngwladol a Chenedlaethol Princes Limited,
"Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o'r ddirprwyaeth o Gymru sy'n arddangos yn Gulfood. Ein prif ddymuniad wrth fynychu yw cryfhau ein perthynas yn y rhanbarth gyda'r adwerthwyr rydyn ni’n masnachu â nhw ar hyn o bryd, ac archwilio cyfleoedd twf posibl.
“Mae Princes wedi ymrwymo i ddarparu cynnyrch bwyd a diod arloesol o ansawdd uchel, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a phrynwyr y diwydiant, a defnyddwyr o bob rhan o’r byd.”
Mae Mornflakes Oats, sy'n adnabyddus am eu cynhyrchion ceirch premiwm, yn bwriadu tynnu sylw at y manteision maethol a'r arferion cynaliadwy sy'n gwahaniaethu eu brand. Dywedodd Richard Jones, Rheolwr Allforio Manwerthu yn Mornflakes Oats, “Rydyn ni’n falch iawn o ddychwelyd i Gulfood, gan adeiladu ar lwyddiant ein hymweliad diwethaf. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi llwyfan gwych i ni gysylltu â dosbarthwyr a manwerthwyr ac rydyn ni’n awyddus i fanteisio ar y cyfle i ehangu ein presenoldeb a sicrhau rhestrau newydd ar draws yr Emiradau Arabaidd Unedig.
“O ran datblygiad cyffrous i ni, mae’n bleser cyhoeddi lansiad ein pecyn ceirch Prydeinig anarferol. Mae'r pecyn arloesol hwn nid yn unig yn dangos ein hymrwymiad i ansawdd ond hefyd yn garreg filltir arwyddocaol i ni - ein pen-blwydd yn 350 mlwydd oed fel melinwyr ceirch. Credwn y bydd y pecynnu nodedig yn taro deuddeg gyda chwsmeriaid ac yn gwella apêl ein nwyddau ymhellach.”
Mae First Milk, cwmni cydweithredol o ffermwyr llaeth Prydeinig, ar fin dangos ei frand Golden Hooves yn Gulfood, gan arddangos y cynnyrch llaeth gorau o Gymru. Mynegodd Leona McDonald, Cyfarwyddwr Uned Fusnes First Milk, eu cyffro, gan ddweud, “Rydyn ni wrth ein bodd yn gallu rhannu ein cawsiau cheddar Prydeinig blasus adfywiol yn Gulfood am y tro cyntaf eleni. Am ffordd berffaith i gloi ein blwyddyn gyntaf, gyffrous! Mae marchnad y DU wrth ei bodd â’n stori a’r holl gamau anhygoel sy’n cael eu cymryd gan ein 700 o ffermwyr llaeth, wedi’u lledaenu ar draws y DU (yn ogystal â’r caws llwyddiannus wrth gwrs!) sy’n ein llenwi â hyd yn oed mwy o gyffro ynghylch dod ag ef i Gulfood.
“Rydyn ni’n siŵr y byddwn yn cwrdd â dosbarthwyr a manwerthwyr o’r un anian sy’n rhannu ein hymrwymiad i adael y byd mewn lle gwell, bwyta caws blasus a chreu partneriaethau ystyrlon yn y farchnad allforio fyd-eang.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes chi gydag allforio, ewch i https://businesswales.gov.wales/export/cy